'Effi o Blaenau' yn creu hanes yn swyddfa docynnau'r DU

Leisa Gwenllian, 24, sy'n chwarae rhan Effi yn y ffilm
- Cyhoeddwyd
Mae'r ffilm 'Effi o Blaenau', a gafodd ei rhyddhau dros y penwythnos, wedi creu hanes.
Yn sgil ei phoblogrwydd, mae'r ffilm wedi sicrhau'r agoriad mwyaf erioed i ffilm Gymraeg yn y swyddfa docynnau.
Mae'r ffilm yn dilyn hanes merch ifanc sy'n wynebu cyfres o heriau ac wedi'i lleoli ym Mlaenau Ffestiniog yng Ngwynedd.
Y ffilm 'Gwledd' yn 2022 oedd wedi sicrhau y gwerthiant mwyaf yn ystod agoriad cyn hyn.
Dywed Gwenllian Gravelle, pennaeth ffilm a drama S4C, bod y ffilm wedi "cyfareddu cynulleidfaoedd".
Effi o Blaenau: 'Mae 'na egni rhyfeddol i'r lle'
Marc Evans wnaeth gyfarwyddo'r ffilm, gyda Branwen Cennard yn cynhyrchu a Leisa Gwenllian yn actio 'Effi'.
Roedd Catrin Cooper a Gwenllian Gravelle yn gynhyrchwyr gweithredol hefyd.
Yn y ffilm, mae Effi yn ferch ifanc sy'n dysgu pris personol am ddiffygion cymdeithasol ac mae hi'n awyddus i ddianc o'r dref.
Mae hi'n ddarpar fam sengl, ddi-waith, mewn ardal lle mae'r swyddi wedi diflannu.
Dehongliad sinematig o fonodrama Gary Owen, Iphigenia in Splott, ydy'r ffilm wedi'i hail-ddychmygu ar gyfer y sgrin fawr.
Mae hi'n gyflwyniad S4C o gynhyrchiad Tarian, wedi'i datblygu a'i hariannu gan S4C, a'i chyd-ariannu gan Cymru Greadigol. Y dosbarthwr theatrig yn y DU yw MetFilm.
Yn ôl datganiad S4C, bydd Effi o Blaenau yn cael ei darlledu ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
'Anarferol' bod ffilm Gymraeg yn cael cymaint o ymateb y tu allan i Gymru
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
Leisa Gwenllian: 'Stori pobl Blaenau yw hon'
- Cyhoeddwyd11 Mawrth
Effi o Blaenau: 'Mae 'na egni rhyfeddol i'r lle'
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
Yn ôl Gwenllian Gravelle, pennaeth ffilm a drama S4C, mae hi'n "falch iawn bod Effi o Blaenau wedi cyfareddu cynulleidfaoedd".
"Mae'n gam cyntaf cyffrous i ddod â thon newydd o straeon Cymraeg i sgriniau rhyngwladol ehangach."
Dywedodd Adam Price AS, sy'n weinidog dros fenter, cysylltedd ac ynni: "Mae'r disgwyliad cyn rhyddhau Effi O Blaenau, a llwyddiant y swyddfa docynnau y penwythnos hwn, yn nodi eiliad ddiwylliannol bwerus i ffilm Gymraeg.
"Mae'n dangos cryfder ein talent greadigol a'r awydd a'r gwerthfawrogiad cynyddol am straeon sydd wedi'u gwreiddio yng Nghymru.
"Fel y cynhyrchiad cyntaf a gefnogir gan Cymru Greadigol ochr yn ochr ag S4C, mae'n gosod cynsail cyffrous - ac edrychwn ymlaen at weld y cydweithrediad hwn yn parhau i ffynnu.
"Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran!" Ychwanegodd Mr Price.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.