'Anarferol' bod ffilm Gymraeg yn cael cymaint o ymateb y tu allan i Gymru

Leisa GwenllianFfynhonnell y llun, Tarian Cyf/S4C
Disgrifiad o’r llun,

Leisa Gwenllian, 24, sy'n chwarae rhan Effi yn y ffilm

GanJennifer Jones
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Yn ôl cyfarwyddwr ffilm newydd S4C mae'n "anarferol" ei bod hi wedi cael cymaint o ymateb y tu allan i Gymru.

Bydd Effi o Blaenau yn cael ei dangos gydag is-deitlau mewn sinemâu ledled Prydain o 19 Mehefin.

Ond cyn hynny bydd y ffilm yn cael ei lansio mewn digwyddiad yng nghanolfan Cell B ym Mlaenau Ffestiniog nos Fercher.

Dywedodd Marc Evans ei fod yn "meddwl bod ffilm gydag is-deitlau nawr ddim yn golygu bod o'n ffilm uchel-ael, neu anodd ei ddeall, mae o just yn ffilm sydd mewn iaith arall".

"Dwi'n falch o ddweud bod Effi yn fanna - ysgwydd yn ysgwydd gyda ffilmiau mewn pob iaith gydag is-deitlau gall pawb fwynhau."

Disgrifiad,

Dywedodd Leisa Gwenllian bod "egni rhyfeddol" i Flaenau Ffestiniog

Mae'r ffilm yn dilyn hanes merch ifanc sy'n wynebu cyfres o heriau.

"Mae 'na themâu difrifol ynddo fe... mae'n ymwneud gyda thlodi a dweud y gwir," meddai Marc.

"Mae'n ymwneud â'r ffaith bod cymdeithas ddim yn edrych ar ôl yr 'Effis' yma mwyach.

"Ond... mae Blaenau yn gymuned agos iawn... ac yn y diwedd, mae hi'n dibynnu ar ei chymdogion hi i oroesi."

'Wastad 'di bod yn freuddwyd'

Mae'n stori sy'n seiliedig ar y ddrama-lwyfan llwyddiannus Ephigenia in Splott gan y dramodydd Gary Owen.

Un fu'n ei gwylio yn theatr y Lyric yn Hammersmith yn 2022 oedd yr actores Leisa Gwenllian, a hi sy'n chwarae rhan Effi yn y ffilm.

"Na' i byth anghofio'r teimlad 'na o weld dynes hefo acen Caerdydd, Splott, ofnadwy o gryf ar y llwyfan mewn theatr eithaf enwog yn Llundain," meddai.

"Oedd o'n anhygoel a phan 'nes i weld bod nhw'n gwneud ffilm o'r stori - o'n i just mor, mor keen i 'neud o.

"'Nes i berfformio darn bach ohoni hi yn y 'Steddfod a nes i hefyd auditionio ar gyfer yr ysgol ddrama hefo monolog o Ephigenia in Splott, felly oedd hi wastad 'di bod yn freuddwyd y byswn i'n chwarae Effi."

Leisa GwenllianFfynhonnell y llun, Tarian Cyf/S4C
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y ffilm ei dangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Glasgow ac mae hi eisoes wedi derbyn adolygiadau positif

Ychwanegodd Leisa: "Mae'n golygu cymaint i fi gael mynd 'nôl adra i weithio a gweithio yn y Gymraeg, a nid yn unig y Gymraeg ond fy Nghymraeg i - Cymraeg gogleddol, fy nhafodiaith i.

"'Di hynna ddim yn digwydd yn aml. A dwi just yn meddwl bod Blaenau yn le mor cŵl. Mae 'na egni rhyfeddol i'r lle.

"A dwi just hefyd yn teimlo'n rili falch bod pobl tu allan i Gymru'n dangos gymaint o ddiddordeb yn y ffilm hefyd.

"A bod nhw rŵan yn fwy ymwybodol o'n diwylliant ni a'n hiaith ni ac o ogledd Cymru yn specific."

'Byw cyfanwaith bywyd yn Gymraeg'

Yn ôl Marc Evans "o'n i moyn lleoli hi lle'r oedd pobl yn byw cyfanwaith eu bywyd nhw yn Gymraeg, bod nhw'n caru ac yn ymladd a just yn byw pob dydd yn Gymraeg".

"Mae Blaenau'n lle anhygoel yn weledol... ti'n edrych ar Blaenau a ti'n gweld y llechi, a ti'n gweld lle'r oedd diwydiant unwaith... ond cymuned gref.

"Felly, Blaenau oedd y lle."

Blaenau FfestiniogFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r stori wedi ei hail-leoli ym Mlaenau Ffestiniog ar gyfer y ffilm

Cafodd y ffilm ei dangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Glasgow ac mae hi eisoes wedi derbyn adolygiadau positif, gan gynnwys un yn y Guardian sy'n ei disgrifio hi fel "must-watch".

Dywedodd Marc: "Mae'n anarferol bod o 'di cael cymaint o ymateb y tu allan i Gymru, mae dwy job yn does?

"Un job ydy gwneud ffilmiau i ni'n hunain, fel ein bod ni'n gweld ein hunain ar y sgrin fawr, mae hynny'n bwysig wrth gwrs.

"Ond y job arall - sydd hefyd yn apelgar - ydy mynd â'n stori ni allan i'r byd ac i sinemâu y tu allan i Gymru.

"Felly dwi'n gobeithio, croesi bysedd, bod Effi o Blaenau'n mynd i 'neud y ddwy job yna, achos ar y foment mae lot o ymateb wedi bod y tu allan i Gymru i'r stori Gymreig iawn yma.

"Dwi'n meddwl bod yr is-deitl 'brawychus' yna - wedi dod yn rhywbeth llawer mwy cyffredin erbyn hyn, achos mae pobl yn gwylio stwff ar y teledu erbyn hyn gydag is-deitlau."

'Pam ddim Cymraeg?'

Ychwanega Leisa: "'Swn i'n licio gweld mwy na dim, mwy o ffilmiau Cymraeg rŵan... yn cael eu dangos mewn sinemâu ar draws Prydain ac yn rhyngwladol... ac y dylia unrhyw un allu eu gwatchad nhw...

"Dwi'n hapus iawn i watchiad ffilmiau mewn ieithoedd eraill, felly dwi just yn meddwl - pam ddim Cymraeg?"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig