Teyrngedau i Emyr Owen - 'gweithiwr caled cefn gwlad a gŵr busnes naturiol'

Emyr Owen
  • Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r dyn busnes o Sir Conwy, Emyr Owen, sydd wedi marw yn 76 oed.

Roedd yn drefnwr marchnadoedd a ffeiriau bwyd ar draws gogledd Cymru.

Roedd yn dod o ardal Glan Conwy yn wreiddiol, cyn symud i Hen Golwyn, ac mae wedi ei ddisgrifio fel "gweithiwr caled cefn gwlad a gŵr busnes naturiol".

Dechreuodd ei yrfa yn gweithio gyda'i dad yng nghwmni Phillip & Son cyn rhedeg siop ei hun am flynyddoedd yn Hen Golwyn.

Ar ôl ymddeol, fe dreuliodd ei amser yn helpu ei fab, Geraint, sy'n rhedeg cwmni Tatws Trading, ond roedd hefyd yn rhedeg ac yn trefnu marchnadoedd.

Roedd yn gyfrifol am farchnadoedd ym Mangor, Llangefni a Bryncir, a gwyliau bwyd hefyd yn Llangefni a Bangor.

'Yn rhan o'r gymdeithas'

Dywedodd Geraint ar y cyfryngau cymdeithasol ei fod yn rhannu'r newyddion am ei dad "gyda chalon drom sydd wedi torri".

Dywedodd y bu farw'n dawel "ar ôl brwydro'n galed yn erbyn y canser ofnadwy".

"Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r staff anhygoel yn ystafell IV Ysbyty Llandudno, Uned Canser Ysbyty Glan Clwyd, Wardiau Heulwen ac Enfys am roi gofal anhygoel iddo."

Ychwanegodd ei fod yn diolch yn fawr hefyd "i'n holl staff a'n cwsmeriaid sy'n ffrindiau ac sy'n cefnogi ein teulu yn ystod y cyfnod andros o drist yma".

Un oedd wedi cydweithio ag Emyr a'i adnabod ers degawdau ydy sylfaenydd cwmni arall yn yr ardal, Blas ar Fwyd - Deiniol ap Dafydd o Lanrwst - a ddywedodd ei fod yn "fraint bod wedi cydweithio efo fo".

"Mi oedd o'n ŵr bonheddig, hynod o gymdeithasol, wastad yn barod ei farn - yn rhan o'r gymdeithas yma," meddai.

Roedd y bartneriaeth rhwng y busnesau oedd yn ymwneud ag Emyr "yn ddyfnach na chyfeillgarwch... yn fusnes onest y ddwy ffordd. Cyfeillgarwch sy'n mynd lot pellach na busnes."

Roedd ganddo "hiwmor sych a ffraeth iawn," ychwanegodd Mr ap Dafydd wrth gofio am stori amdano'n "mynd i gefnogi un gêm bêl-droed gyda ceiliog a rhaff o nionod dros ei war - hiwmor sych ofnadwy".

"Ond os oeddwn i'n crynhoi beth oedd Emyr, 'swn i'n deud - gweithiwr caled cefn gwlad a gŵr busnes naturiol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig