Dim apwyntiadau dilynol ar ôl triniaeth i geisio lleihau rhestrau aros

Dan y cynlluniau, ni fydd pobl yn cael apwyntiadau dilynol wedi eu triniaeth oni bai bod wir angen
- Cyhoeddwyd
Ni fydd cleifion yn cael apwyntiadau dilynol awtomatig ar ôl triniaeth gwasanaeth iechyd oni bai eu bod wir eu hangen, o dan gynllun newydd gan Lywodraeth Cymru i leihau rhestrau aros.
Y nod yw galluogi meddygon ymgynghorol i dreulio mwy o'u hamser yn trin cleifion yn hytrach na mynychu clinigau.
Y gobaith yw y bydd hyn yn rhyddhau "degau o filoedd" o apwyntiadau ysbytai i unigolion sy'n aros i gael eu gweld gan arbenigwr am y tro cyntaf.
Mae'r cynllun hefyd yn pwysleisio y dylai cleifion sydd wedi bod yn aros yr hiraf gael eu trin gyntaf oni bai fod yna "reswm clinigol clir" dros roi blaenoriaeth i rywun arall.

Mae'r Gweinidog Iechyd Mabon ap Gwynfor yn gobeithio y bydd cleifion yn elwa ar gael diagnosis a thriniaeth yn gyflymach o dan y cynllun newydd
Mae'r cynllun yn cael ei gefnogi gan £145m o gyllid ychwanegol, sydd wedi'i gyhoeddi eisoes gan Mabon ap Gwynfor, gweinidog iechyd Plaid Cymru.
Mae'n cynnwys £20m ar gyfer cynnal a chadw ac offer, £25m i sefydlu canolfannau triniaeth newydd a £100m i gynyddu gweithgarwch dydd i ddydd y gwasanaeth iechyd.
Ond bydd byrddau iechyd ond yn derbyn taliad os allan nhw brofi fod y triniaethau wedi cael eu cwblhau - nid ar sail addewid am yr hyn maen nhw'n disgwyl ei gyflawni.
Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu mai clinigwyr fydd yn arwain y newidiadau yn hytrach na "rheolwyr a swyddogion".
Beth sy'n wahanol am y cynllun?
Yn ystod eu blwyddyn olaf mewn grym fe lwyddodd y llywodraeth Lafur flaenorol i ostwng rhestrau aros drwy wario £120m ar 20,000 o driniaethau cataract ychwanegol a thalu cwmnïau preifat i leihau'r niferoedd oedd yn aros am apwyntiadau cleifion allanol a thriniaethau.
Ond mae'r BBC yn deall fod cynllun y llywodraeth newydd am wneud gwell defnydd o gapasiti'r GIG a lleihau'r aros ar bob cam o siwrnai claf.
Y nod yw bod meddygon yn treulio 70% o'u hamser yn gweld cleifion newydd, o gymharu â 30% ar hyn o bryd.
Mae hefyd mwy na miliwn o achosion o apwyntiadau yn dilyn triniaeth.
Y gobaith yw y bydd gostwng y rhain yn golygu y gall meddygon ymgynghorol dreulio 80% o'u hamser yn cynnal llawdriniaethau a 20% mewn clinigau, o gymharu â'r rhaniad presennol o 50:50.

Y nod yw bod meddygon yn treulio 70% o'u hamser yn gweld cleifion newydd, o gymharu â 30% ar hyn o bryd
Mae'r cynllun hefyd yn addo:
cynyddu capasiti llawdriniaethol, yn cynnwys ar benwythnosau, ar gyfer yr arbenigeddau hynny lle mae pobl yn aros y cyfnodau hiraf;
cyflymu adolygiadau o atgyfeiriadau gan feddygon teulu, fel bo' cleifion yn cael gwybod yn gynt os oes angen profion pellach neu unrhyw driniaeth;
cynyddu capasiti diagnostig a defnyddio "offer digidol" i leihau'r amser rhwng atgyfeirio cleifion a rhoi diagnosis.
Fe fydd hyn yn digwydd law yn llaw ag ymrwymiad Plaid Cymru i sefydlu "hyd at 10" o ganolfannau triniaeth ledled Cymru.
Bydd disgwyl i fyrddau iechyd gydweithio i rannu'r "syniadau gorau".
'Newid parhaol'
"Mae llawer gormod o bobl ar y rhestrau aros yn llawer iawn yn rhy hir," meddai'r gweinidog iechyd, Mabon ap Gwynfor.
Dywedodd ar raglen Dros Frecwast fod llywodraethau'r gorffennol wedi defnyddio "cannoedd o filiynau i brynu gwasanaethau o'r sector preifat, sydd wedi dod â'r rhestrau aros i lawr yn y tymor byr jest iddyn nhw fynd yn ôl i fyny eto achos does dim capasiti o hyd o fewn y gwasanaeth iechyd".
"Ni'n chwilio am wella capasiti'r gwasanaeth iechyd a gwneud hynny mewn ffordd gynaliadwy."
Mae'n gobeithio y bydd y cynllun yma'n arwain at fwy o gapasiti ac felly cyflymu'r broses o gael eich gweld gan glinigwyr ar ôl bod at feddyg teulu.
'GIG Cymru mewn argyfwng' - pennaeth Cymreig newydd y BMA
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
'Cyfle olaf' i wella Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr - gweinidog
- Cyhoeddwyd30 Mehefin
Ond pan gafodd ei holi am y pryderon ynghylch a fyddai rhai pobl, heb apwyntiad, yn osgoi sôn am broblemau allai ddatblygu'n waeth yn y pendraw, dywedodd mai "cynllun sy'n cael ei arwain gan glinigwyr yw hyn".
"Y clinigwyr a'r meddygon sy'n gweithio ar lawr gwlad sydd yn y theatrau, sy'n gwneud y gwaith, nhw sy' 'di tynnu ynghyd y cynllun a dweud 'ie dyma sydd eisiau i ni 'neud'."
Mae'n gobeithio hefyd "'neud yn siŵr bod theatrau'n cael eu defnyddio'n well, yn fwy effeithiol, fod clinigwyr yn gweithio ar benwythnosau pan fod y gallu yna i wneud hynny... a bod y broses i gyd yn gweithio'n fwy llyfn".
"Fel bod pobl yn gallu dod oddi ar y rhestrau aros yna a pharhau â'u bywydau a byw bywydau iachach a hirach yng Nghymru - dyna ydy'r uchelgais."
700,000 yn aros
Yn ôl yr ystadegau diweddaraf roedd mwy na 698,500 o achosion ar restr aros y GIG yng Nghymru ym mis Mehefin - ffigwr sydd wedi cynyddu ers i'r llywodraeth newydd ddod i rym.
O'r rhain roedd bron 4,100 wedi bod yn aros o leiaf dwy flynedd - cynnydd o 2,600 ym mis Mawrth.
Addewid blaenorol y prif weinidog a'r gweinidog iechyd oedd y byddai neb yn aros cymaint â hynny ymhen "ychydig fisoedd".
Ond nid yw'r cynllun newydd yn gosod union ddyddiad er mwyn cyflawni hyn.

Roedd mwy na 698,500 o driniaethau eto i'w cwblhau ar restrau aros GIG Cymru fis Mehefin
Er hynny, mae'n nodi y bydd y cyfanswm ar restrau aros yn gostwng i lefelau cyn-Covid (tua 460,000 o achosion) erbyn diwedd y tymor Senedd yma.
Mae disgwyl y bydd rhagor o fanylion am yr amserlen yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.
Fis diwethaf, addawodd y gweinidog iechyd y byddai'n datgelu cynllun fyddai'n mynd i'r afael â rhestrau aros mewn "ffordd wahanol iawn".
Fodd bynnag, mae BBC Cymru yn deall nad yw'r cynllun newydd yn cynnwys "llwyth o syniadau newydd" ond yn hytrach yn ceisio sicrhau fod newidiadau sy'n gweithio yn cael eu dewis a'u mabwysiadu ar draws y wlad.
'Dim atebion cyflym'
Mae Conffederasiwn GIG Cymru - y corff sy'n cynrychioli byrddau iechyd - wedi croesawu'r cynllun, gan ddweud bod "y pwyslais ar weithio rhanbarthol, capasiti diagnostig, canolfannau llawfeddygol a llwybrau gofal mwy cynaliadwy yn gam i'r cyfeiriad cywir".
Ond rhybuddiodd cyfarwyddwr cynorthwyol y sefydliad yng Nghymru, Nesta Lloyd-Jones, na "ellir ystyried rhestrau aros heb ystyried y pwysau ehangach sy'n wynebu gofal iechyd a chymdeithasol".
"Roedd yr haf yma yn dystiolaeth bod y system dal dan bwysau dwys a chynyddol, a does dim atebion cyflym," meddai.
£145m ychwanegol i leihau rhestrau aros y gwasanaeth iechyd - gweinidog
- Cyhoeddwyd18 Mehefin
Uned frys Ysbyty Glan Clwyd 'angen gwella'n sylweddol'
- Cyhoeddwyd17 Mehefin
Dywedodd llefarydd iechyd Reform yn y Senedd, James Evans: "Mae rhestrau aros y GIG yn dal i gynyddu yng Nghymru, a pob tro rydych chi'n gofyn i weinidog Plaid pa mor hir y bydd hi'n cymryd i ddod ag arosiadau dwy flynedd i ben, rydych chi'n cael ateb gwahanol.
"Yn y cyfamser, fe dreuliodd Plaid eu 100 diwrnod cyntaf mewn llywodraeth yn cyhoeddi adolygiadau a phwyllgorau."
Dywedodd llefarydd iechyd Llafur Cymru, eu harweinydd Ken Skates, ei bod yn "siomedig bod Plaid Cymru ddim yn gallu dweud o hyd pryd y bydd rhestrau aros dwy flynedd yn cael eu dileu".
"Wedi 10 mis o restrau aros yn gostwng, maen nhw wedi dechrau mynd am i fyny yng Nghymru - mae'r rheiny sydd ar restrau aros angen atebion, nid amserlenni amhendant."
Dywedodd Natasha Asghar AS, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig eu bod "yn croesawu buddsoddiad newydd a chamau i fynd i'r afael ag amseroedd aros annerbyniol yn y gwasanaeth iechyd".
Ond maen nhw hefyd yn pwysleisio mai "dyma'r un Blaid Cymru sydd wedi cefnogi penderfyniadau cyllidebol Llafur dro ar ôl tro dros y 27 mlynedd diwethaf – y penderfyniadau hynny sydd wedi arwain at y safonau gwael y mae cleifion yn eu hwynebu heddiw."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.