Y grŵp cymunedol sy'n gofalu am wiwerod cochion Môn

Melissa Dhillon
Disgrifiad o’r llun,

Mae Melissa Dhillon yn gweithio fel Swyddog Addysg i'r grŵp cymunedol

GanLois Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Yn Sir Fôn, mae 'na grŵp o weithwyr dygn a gwirfoddolwyr sy'n sicrhau bod poblogaeth gwiwerod coch yn ffynnu yno. Mae Grŵp Coetir Cymunedol Llyn Parc Mawr yn cydweithio i greu coetir cynaliadwy ar gyfer bywyd gwyllt, ac eleni maen nhw wedi'u henwebu am wobr Gwneud Gwahaniaeth BBC Cymru Wales.

Sefydlwyd y grŵp yn ôl yn 2014 pan ddaeth pobl sy'n byw yn Niwbwrch a'r cyffiniau at ei gilydd gyda'r bwriad o greu lle i'r bobl leol fwynhau Coed Niwbwrch.

Mae'r grŵp yn rheoli 24 hectar o goetir ac yn gweithio i wella'r tir i'r coed a'r anifeiliad. Ymhlith y tasgau mae cael gwared ar blanhigion ymledol, codi sbwriel, plannu coed, creu cynefinoedd newydd, tynnu coed anniogel ac wrth gwrs, bwydo'r adar a'r gwiwerod coch.

Arwydd yng nghoedwig Niwbwrch yn dweud 'Llwybr y Wiwer Goch'
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwiwerod cochion i'w gweld yn rheolaidd yn y goedwig

Un sy'n gweithio i'r grŵp cymunedol fel Swyddog Addysg yw Melissa Dhillon.

Cafodd Melissa ei geni yn Birmingham, a symud i Gymru yn 2011. Ers hynny mae hi wedi dysgu Cymraeg a nawr yn defnyddio'r iaith bob dydd.

Roedd dysgu Cymraeg yn bwysig iawn iddi. Darllennodd yn rhywle ei bod hi'n cymryd chwe mlynedd i ddysgu Cymraeg a sylweddolodd nad oedd dosbarthiadau yn unig yn ddigonol, felly fe aeth ar gwrs trwytho Sylfaen/Pellach/Meistrioli.

Er mwyn atgyfnerthu'r dysgu fe ddechreuodd siarad Cymraeg gyda phlant yr ysgol leol drwy gynnal sesiynau garddio ar-ôl-ysgol yn Gymraeg.

Cafodd Melissa sgwrs gyda Shân Cothi am waith y grŵp cymunedol a'r hyn mae'n ei olygu iddyn nhw i dderbyn yr enwebiad.

Dywedodd Melissa: "Oedden ni'n rili synnu'n bod ni wedi cael ein enwebu am y wobr ac wedi cael i'r rownd derfynol hefyd... 'Doeddan ni ddim yn gwybod dim byd am y peth."

Mae Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yn cydnabod grwpiau ac unigolion sy'n weithgar yn eu cymunedau.

Llyn Parc MawrFfynhonnell y llun, Llyn Parc Mawr

Beth mae Grŵp Coetir Cymunedol Llyn Parc Mawr yn ei wneud?

Eglurodd Melissa: "Prif nod y grŵp yw rheoli y coetir er budd bywyd gwyllt lleol, yn cynnwys wiwerod goch, wrth gwrs, ac er budd y gymuned lleol hefyd." Mae gan y grŵp gytundeb gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i reoli'r coetir rhwng Niwbwrch a Malltraeth yn Ynys Môn a hynny i warchod bywyd gwyllt lleol.

Un o'r creaduriaid sy'n gynhenid i'r ardal yw'r wiwer goch ac mae gwaith y grŵp hwn wedi sicrhau bod poblogaeth y wiwerod coch yn dod yn ei flaen yn dda, ac i'w gweld yn ddyddiol.

"Dwi'n gweld [y wiwerod coch] lot o weithiau yn yr wythnos. Pan dwi'n mynd yno yn y bore, fel arfer maen nhw jyst yn y coetir a hefyd pan dwi'n jyst sortio pethau allan ar ddiwedd y dydd, maen nhw'n jyst rhedeg o gwmpas. Dwi'n gweld nhw lot rili. Dwi'n rili lwcus."

Un o wiwerod cochion yng Nghoedwig NiwbwrchFfynhonnell y llun, Llyn Parc Mawr
Disgrifiad o’r llun,

Un o wiwerod cochion yng Nghoedwig Niwbwrch

Mae'n debyg i boblogaeth y wiwer goch ar yr ynys grebachu yn yr 1980au yn sgil dyfodiad gwiwerod llwydion ar yr ynys. Roedd gweld wiwer goch ar yr ynys yn y '90au yn rhywbeth prin iawn.

Erbyn 1997 roedd llai na 40 o wiwerod coch yn weddill ar yr ynys – pob un yn yr un goedwig ac o'r un llinach fenywaidd.

Felly yn 2004 sefydlwyd prosiect cadwraeth i ailgyflwyno gwiwerod cochion i Fôn, ac roedd hynny'n golygu cael gwared ar y rhai llwydion. Yn 2016, cyhoeddwyd nad oedd yr un wiwer lwyd ar yr ynys.

Erbyn heddiw mae tua 700 o wiwerod cochion ar Ynys Môn, sef tua 60% o boblogaeth wiwerod cochion Cymru.

Ond nid dim ond y wiwerod coch sy'n cael effaith gadarnhaol ar yr ardal. Mae gan y grŵp tua 150 gwirfoddolwr cofrestredig, ac mae tua 70 o rheiny'n weithgar drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys myfyrwyr o Brifysgol Bangor, gan ddod â'r gymuned at ei gilydd. Dywedodd Melissa bod y grŵp yn cynnal sesiynau'n ymwneud â natur drwy gydol y flwyddyn.

Melissa wrth ei gwaith yn un o'r sesiynau basgedi helyg
Disgrifiad o’r llun,

Melissa wrth ei gwaith yn un o'r sesiynau basgedi helyg

"Rydym yn rhedeg sesiynau gwirfoddoli misol, sesiynau ysgol goedwig, sesiynau gwehyddu basgedi helyg, sesiynau llesiant coetir, a jest lot o ddigwyddiadau trwy'r flwyddyn yn y goedwig i drio cysylltu pobl â natur."

Bydd Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yn cael eu cynnal ar 19 Medi 2026 gyda'r uchafbwyntiau i'w clywed ar Bore Cothi yn fuan wedi hynny.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig