Angen mynd i'r afael â phroblemau bwrdd iechyd 'ar frys' - gweinidog

Ysbyty Athrofaol CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn gyfrifol am ysbyty mwyaf Cymru - yr Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd

GanTeleri Glyn Jones
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae'r gweinidog iechyd wedi dweud fod y pryderon a godwyd mewn adroddiad beirniadol am Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn "annerbyniol" a bod "angen mynd i'r afael â nhw ar frys".

Cododd asesiad annibynnol ar y bwrdd iechyd bryderon am arweinyddiaeth, diwylliant, llywodraethu a chynllunio'r sefydliad.

Ychwanegodd: "Mae'r adroddiad yn glir bod heriau'r bwrdd iechyd yn systemig ac yn hirsefydlog, a bod angen gwaith ad-drefnu sefydliadol, un cynllun adfer, atebolrwydd cryfach, sicrwydd a newid diwylliannol."

Dywedodd y gweinidog iechyd Mabon ap Gwynfor na fydd y llywodraeth newydd yng Nghymru "yn caniatáu i faterion o'r fath barhau, a byddwn yn dal y bwrdd iechyd i gyfrif yn gadarn am ei berfformiad".

Dywed y bwrdd iechyd eu bod "yn cymryd canfyddiadau'r adroddiad o ddifrif ac yn cydnabod bod nifer o feysydd sydd angen eu gwella - rhaid mynd i'r afael â'r rhain ar frys".

'Diffyg agwedd gadarnhaol'

Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu ar ôl i Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro gael ei osod ar ail lefel uchaf goruchwyliaeth ac uwchgyfeirio'r GIG Cymru ym mis Mehefin 2025 - lefel 4, sydd un lefel yn is na mesurau arbennig.

Wedi'i ysgrifennu gan yr ymgynghorwyr annibynnol, yr Athro Em Wilkinson-Brice a Dr Pamela Johnston, mae'n canolbwyntio ar achosion sylfaenol y problemau presennol.

Bydd cam nesaf yr ymyrraeth yn ystyried sut i ddatrys y materion a godwyd.

Yn arbennig o feirniadol ydy'r canfyddiadau am arweinyddiaeth a diwylliant y sefydliad.

Mae'r adroddiad yn datgan bod "diffyg agwedd gadarnhaol, diffyg gosod cyfeiriad a diffyg gwneud penderfyniadau clir" gan y tîm gweithredol.

Mae'n dweud bod y "naratif ariannol wedi gallu hawlio'r agenda ar draul ansawdd gofal", a bod "methiant i ganolbwyntio ar ganlyniadau cleifion fel y prif fesur o lwyddiant".

Dywedodd staff fod "cred eang nad oes gan y rheolwyr y gallu i drawsnewid gwasanaethau o fewn Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro".

Mae'r adroddiad yn cyfeirio at fethiant i "ailosod" ar ôl Covid, pan ymddeolodd llawer o staff profiadol, a bod "bwlch mewn gallu rheoli yn y gweithlu".

Mae yna "ddiwylliant wedi treiddio o ddiymadferthedd dysgedig (learned helplessness)" o fewn y bwrdd iechyd, yn ôl yr adroddiad, yn ogystal â "diffyg cyflymder a brys hyd yn oed wrth wynebu materion difrifol".

Mae'r adroddiad yn sôn am "ddiffyg herio" gan nad yw pobl eisiau ymddangos yn annifyr, a bod "safbwyntiau mewnblyg, hierarchaidd a hen ffasiwn".

Mabon ap Gwynfor
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mabon ap Gwynfor wedi disgrifio'r problemau o fewn Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro fel "annerbyniol"

Cafodd staff eu cyfweld yn ddienw ar gyfer yr adroddiad, ac fe glywodd yr ymgynghorwyr am "ddiwylliant hirsefydlog (dros ddegawdau) o oddef ymddygiadau gwael gan staff, gan gynnwys diffyg cwrteisi, diffyg parch a gwaith tîm gwael, gyda methiant i fynd i'r afael â'r rhain hyd yn oed pan fydd tîm cyfan yn cael ei effeithio'n negyddol".

Ymhlith canfyddiadau eraill yr adroddiad mae "anaeddfedrwydd digidol", sy'n "rhwystro cynnydd" y bwrdd iechyd yn sylweddol.

Mae'n dweud bod tystiolaeth wedi'i rhannu gyda'r ymgynghorwyr o "o leiaf un broses" lle na chafodd claf ei ddilyn i fyny oherwydd bod darn o bapur a oedd wedi'i bostio o dan ddrws wedi cael ei golli.

Mynegwyd rhwystredigaeth hefyd fod y bwrdd iechyd, yn ogystal â'i gyfrifoldebau lleol, yn darparu gofal arbenigol iawn ar gyfer poblogaeth ehangach Cymru ac yn gartref i Ganolfan Drawma Fawr Cymru, ond nad yw'r cyfraniad hwnnw'n cael ei gydnabod yn y model ariannu.

Mae "diffyg cytundeb a chyfathrebu ynghylch cynlluniau ar gyfer yr ystâd", gan gyfeirio at seilwaith ysbytai sy'n dirywio, ac mae 'na "siom ddiwylliannol a cholli ffydd bellach yn y balchder yr oedd llawer unwaith yn ei deimlo wrth weithio i'r bwrdd iechyd".

O ran llywodraethu, mae'r adroddiad yn dweud fod y bwrdd yn "brin o fanyldeb", bod "rheoli risg yn cael ei ddeall yn wael", ac nad yw "ansawdd a diogelwch yn cael eu blaenoriaethu'n gyffredinol".

Mae polisïau adnoddau dynol yn cael eu hamlygu fel rhai sy'n cael eu gweithredu'n anghyson, gyda'r angen i wella atebolrwydd ar bob lefel y sefydliad.

Mae'r adroddiad hefyd yn codi pryderon am y cynlluniau sydd eisoes ar waith i fynd i'r afael â'r problemau yn y bwrdd iechyd.

Mae'n dweud, er bod "llu o ddogfennau bwriad strategol lefel uchel sy'n aml yn cael eu disgrifio fel cynlluniau", nad oes "dealltwriaeth gyffredin" ledled y bwrdd iechyd o "beth sy'n cyfansoddi cynllun", a bod diffyg o ran "gweithredu a chyflwyno" y cynlluniau hynny.

Mae'r adroddiad yn cydnabod bod gwelliannau wedi'u gwneud ar lefel y bwrdd a llywodraethu ers penodi cadeirydd newydd, ac mae'n pwysleisio bod gan y bwrdd iechyd enghreifftiau o "ofal rhagorol".

Disgwyl 'gwelliannau parhaus'

Dywedodd Mabon ap Gwynfor, gweinidog iechyd newydd Plaid Cymru, mewn datganiad ysgrifenedig i'r Senedd: "Mae'r adroddiad yn nodi bod gweithlu ymroddedig a brwdfrydig sy'n parhau i ymrwymo i sicrhau bod diogelwch cleifion yn flaenoriaeth.

"Mae'n amlwg o'r adroddiad fod staff yn aml wedi bod yn gweithio mewn amgylchiadau heriol ac anodd ond eu bod yn parhau i ddarparu safonau gofal o ansawdd uchel.

"Er ei bod yn amlwg bod cryn dipyn o ffordd i fynd eto i sicrhau bod perfformiad cyffredinol y bwrdd ar y lefel y byddem ni fel llywodraeth a'r cyhoedd yn ei disgwyl, rwy'n croesawu'r cynnydd sydd wedi'i wneud yn y meysydd hyn."

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd ei fod yn disgwyl gweld "gwelliannau parhaus" a "sicrwydd y gellir eu gwreiddio'n barhaus" pan fydd yn cadeirio cyfarfod gyda'r bwrdd iechyd ym mis Tachwedd 2026.

'Hyderus y gallwn ni wella'

Dywedodd Chris Bown, prif weithredwr dros dro Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro bod "sawl newid y mae angen i ni eu gwneud" a'i fod "yn hyderus y gallwn ni wella ein rheolaeth ariannol a defnyddio'r arian yn fwy effeithiol".

Mae hefyd yn ffyddiog bod modd gwella'r diwylliant o fewn y bwrdd "er gall hynny gymryd peth amser".

"Mae'n mynd i gymryd blwyddyn cyn i bobl ddechrau teimlo 'mae pethau'n dechrau gwella'," meddai.

"Rwy' wedi cael sesiwn heddiw gyda bron 480 o aelodau staff, yn gwrando ar rai o'u cwestiynau ac mae gyda ni bobl wirioneddol frwdfrydig ac ardderchog - os gall unrhyw un wneud hyn, gall Caerdydd a'r Fro."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.