Galar: Grŵp i weddwon yn annog dynion i estyn llaw dros yr wŷl

Lyn Roberts yn sefyll o flaen coeden Nadolig
Disgrifiad o’r llun,

Fe sefydlodd Lyn Roberts Grŵp Gweddwon Môn a Gwynedd yn 2018

GanGareth Wyn Williams
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

I lawer o bobl mae cyfnod y Nadolig yn un llawn prysurdeb, yng nghwmni teulu a ffrindiau.

Ond i eraill, mae'n gallu bod yn gyfnod tu hwnt o unig.

Dros y Sul daeth dros 30 o bobl at ei gilydd ar gyfer cinio Nadolig Grŵp Gweddwon Môn a Gwynedd.

Cafodd y grŵp ei sefydlu wyth mlynedd yn ôl gan Lyn Roberts yn dilyn marwolaeth ei gŵr, Daf, ddwy flynedd ynghynt.

Y cinio nadolig
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cinio Nadolig y grŵp ei gynnal yn Nant yr Odyn ger Llangefni brynhawn Sul

Dywedodd Lyn, sy'n wreiddiol o Elim ger Llanddeusant ar Ynys Môn ond bellach o Bontrug ger Caernarfon, eu bod nhw wedi cychwyn gyda dim ond saith aelod.

Ond erbyn hyn mae'n ddolen gyswllt hollbwysig i nifer, wrth gynnig y cyfle i fynychu digwyddiadau a hyd yn oed mynd ar wyliau tramor.

"Dwi'n methu'r gŵr bob dydd o'r flwyddyn... ond i rai pobl, sydd ganddyn nhw ddim plant, wrth gwrs mae'n fwy anodd iddyn nhw," meddai Lyn.

Aelodau ar long pleserFfynhonnell y llun, Lyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai aelodau yn mynd ar dripiau tramor rheolaidd

Dywedodd iddi benderfynu cychwyn y grŵp yn 2017 gan nad oedd cymorth amlwg ar gael, ac mai unigrwydd oedd wedi ei hysgogi yn y lle cyntaf.

Ond wedi tyfu'n gyflym, bellach mae tua 70 yn mynychu'n rheolaidd.

"Roedd fy ffrindiau i gyd dal hefo'u gwŷr, a ti'n teimlo fel 'chydig o gwsberen wedyn," meddai.

"Mynd i'r theatr... dydy o'm yn braf mynd ar ben dy hun nacdi?

"Byddan ni'n mynd i'r opera neu ryw ddrama, mae 'na lot ohonon ni'n mynd i'r Galeri yng Nghaernarfon, ac ar wyliau wrth gwrs.

"Dydy'r rhan fwya' ohonon ni ddim isio mynd ar wyliau ar ben ein hunain.

"Dwi'n synnu faint sy'n dweud eu bod nhw'n falch o'r grŵp 'ma ac yn dweud bysan nhw'n methu gwneud hebddo."

Ailia Lewis a Cadi Evanson yn eistedd wrth y bwrdd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ailia Lewis (chwith) a Cadi Evanson (dde) yn mynychu digwyddiadau'r clwb gyda'i gilydd

Mae mwyafrif llethol yr aelodau yn fenywod, gydag ychydig iawn o ddynion yn mynychu.

Yn ôl rhai o'r aelodau, byddai'n braf gweld mwy o ddynion yn ymuno a chymryd rhan.

Dywedodd Cadi Evanson, gynt o Dudweiliog ond bellach o Gaergybi: "Roeddech chi'n mynd fel cyplau, hefo'r gŵr neu bartner, ond dydi hynna ddim yn digwydd wedyn... mae o'n sioc fawr.

"Mae o wedi bod yn werth chweil i mi a fyswn yn methu gwneud hebddo fo.

"Dim ond llond llaw o ddynion sy'n dod yn aelodau, ond dwi'n meddwl 'sa ni'n licio gweld grŵp o ddynion yn creu grŵp, ac hefyd fasa'n gallu ymuno hefo ni yn y pendraw."

Ychwanegodd ei chyfaill, Ailia Lewis sydd hefyd yn byw yng Nghaergybi: "Fel 'da chi'n mynd yn hŷn mae'ch plant yn tyfu ac yn gadael cartra' ac rydach chi fwy ar ben eich hun, a'r wyrion yn mynd ffordd eu hunain.

"Mi ydach chi'n unig ond 'da ni gyd yn yr un sefyllfa... a dyna dwi'n licio."

Gwyneth Davies
Disgrifiad o’r llun,

Gwyneth Davies: "'Da ni'n gallu mynd ar wylia' hefo cwmni a 'da ni'n cael andros o hwyl!"

Dywedodd Gwyneth Davies o Fenllech: "Oeddwn i'n unig ac mae unigrwydd yn beth mawr.

"Ar ben fy hun dydi o ddim mor hawdd i fynd [i lefydd] yr un fath.

"'Da ni'n gallu mynd ar wylia' hefo cwmni a 'da ni'n cael andros o hwyl!"

'Dim byd i'w golli'

Ond o'r llond llaw o ddynion sydd yn mynychu'n rheolaidd, beth maen nhw'n ei feddwl?

Yn wreiddiol o Gwm Gwendraeth, mae Alan Wyn Jones bellach yn byw ger Porthaethwy.

"Mae unigrwydd gwahanol yn taro pawb, ond mae'n gyfle i siarad am bethau arall y tu allan i'r teulu.

"Hyd yn hyn, prin o ddynion sydd yma ac mae 'na drafodaeth wedi bod am beth fyddai'n denu mwy o ddynion, ond mewn gwirionedd s'dim ateb nag oes?

"Fy neges i [i ddynion] fydde 'does dim byd i'w golli'... mae'r coffi'n dda iawn ac mae'r gwmnïaeth yn well!"

Alan Wyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alan Wyn Jones yn un o'r ychydig ddynion sy'n mynychu'r grŵp ar hyn o bryd

Mae Lyn yn credu bod dynion angen mwy o anogaeth i ymuno â grwpiau o'r fath, ond y byddan nhw'n elwa o gael y cyfle i rannu eu profiadau gydag eraill sydd hefyd wedi colli rhywun sy'n agos iddyn nhw.

"Pan maen nhw [dynion] yn dod, mae 'na gymaint o ferched o gwmpas, ac ella ein bod ni'n cynnig mwy o bethau i ferched na dynion.

"Os fysa 'na fwy o ddynion yn ymuno, mi fydd 'na fwy o ddigwyddiadau yn cael eu trefnu ar eu cyfer nhw."

Eryl Casey
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eryl Casey yn awyddus i weld mwy o ddynion yn ymuno

Ategodd Eryl Casey, aelod arall sy'n eithaf newydd i'r grŵp: "'Da ni ar agor i bawb ac mae'r croeso yn un cynnes.

"Ond mae dynion i'w gweld yn fwy swil yn dod ymlaen, ond rydyn ni am iddyn nhw rannu'r un cynhesrwydd.

"Y mwyaf o ddynion fydd yn ymuno, y mwyaf allwn ei gynnig."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol