'Does neb yn haeddu hyn fwy' - Matthew Rhys yn falch o MBE tad ffrind ysgol fu farw

Matthew RhysFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae'r actor a seren Hollywood, Matthew Rhys wrth ei fodd bod tad ei ffrind ysgol, a fu farw yn dilyn anaf cas i'w gefn, wedi cael anrhydedd gan y Brenin - "does neb yn haeddu hyn fwy".

Cafodd Paul-André Blundell, a gynrychiolodd tîm rygbi Cymru dan-19, ei barlysu ar ôl cael ei daclo yn ystod gêm yn 2001.

Bu farw bum mis yn ddiweddarach yn 26 oed oherwydd clot gwaed yn ei ysgyfaint.

Dechreuodd rhieni P-A, fel roedd yn cael ei adnabod, Rob a Gerri Blundell ymgyrchu i ymwybyddiaeth o anafiadau i'r asgwrn cefn.

Mae Rob, sy'n 80 ac o'r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, bellach wedi derbyn MBE am ei wasanaethau i ymchwil a thriniaeth anafiadau i'r asgwrn cefn.

Mae "ymdrechion diflino" Rob a Gerri wedi bod yn aruthrol, meddai Matthew Rhys ac mae "mor falch" o'u gweld yn cael y gydnabyddiaeth maen nhw'n eu haeddu.

Paul-André Blundell a'i rieni Rob a GerriFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Paul-André Blundell ar ôl cael ei barlysu yn dilyn tacl mewn gêm rygbi

Mae rhywun yn y DU yn cael ei barlysu bob dwy awr yn dilyn anaf i'w hasgwrn cefn, yn ôl elusen Spinal Research.

Yr elusen yw'r un mwyaf yn y DU sy'n edrych ar gynnal ymchwil i anafiadau asgwrn cefn a'r triniaethau posibl.

Ers dros 20 mlynedd maen nhw wedi bod yn gweithio'n agos gydag elusen Trust PA, gafodd ei sefydlu gan Rob a Gerri, a nhw enwebodd Rob am ei MBE.

Mae'r elusen Trust PA wedi cyfrannu dros £600,000 tuag at godi ymwybyddiaeth o anafiadau i'r asgwrn cefn ac ariannu ymchwil a thriniaethau.

Cafodd eu hymgyrch, '"EYES UP" Safe Play Rugby', ei fabwysiadu gan Undeb Rygbi Cymru cyn cael ei ymgorffori yng nghanllawiau World Rugby.

Roedd Matthew Rhys yn un o noddwyr yr elusen, a llynedd fe ddaeth yn un o noddwyr cronfa newydd gafodd ei sefydlu gan Spinal Research er mwyn parhau i rannu neges P-A.

Rob a GerriFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rob ei fod yn emosiynol pan glywedd y newyddion am yr MBE

Dywedodd Rob fod y newyddion am yr MBE yn "hollol annisgwyl ond rhyfeddol" a'i fod "wir yn emosiynol" pan gafodd wybod.

"Y gwir yw bod cymaint o bobl wych wedi helpu a fy nghefnogi dros y blynyddoedd - yn enwedig Gerri sydd bob amser wrth fy ochr - mae hi'n haeddu hyn hyd yn oed yn fwy.

"Felly, byddaf yn derbyn yr anrhydedd arbennig hon nid yn unig ar fy rhan i ond ar ran Gerri a phawb arall sydd wedi bod yn rhan o'r daith."

Dywedodd Prif Weithredwr Spinal Research, Louisa McGinn: "Allen ni ddim bod yn fwy balch bod Rob wedi cael ei gydnabod yn y ffordd arbennig iawn yma.

"Mae ef a Gerri yn gwpl gwirioneddol nodedig sydd wedi ymdopi â'r drasiedi waethaf y gall rhiant ei hwynebu ac, er cof am eu mab, wedi gweithio'n ddiflino dros y 25 mlynedd diwethaf i geisio gwneud gwahaniaeth i eraill."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig