Cwpl o Wynedd yn codi arian am driniaeth canser arbrofol yn Yr Almaen

Mae gan Meinir Siencyn ganser gradd 4 yn ei hesgyrn a'i bron ac yn ôl ei phartner, Emyr Davies, eu gobaith rŵan ydi teithio i'r Almaen i geisio cael triniaeth yno
- Cyhoeddwyd
Mae cwpl o Wynedd wedi diolch am haelioni "anhygoel" ffrindiau a theulu wrth iddyn nhw godi arian at driniaeth canser arbrofol yn yr Almaen.
Mae gan Meinir Siencyn o Lanberis ganser gradd 4 yn ei hesgyrn a'i bron ac yn ôl ei phartner, Emyr Davies, eu gobaith rŵan ydi teithio i'r cyfandir i geisio cael triniaeth yno.
Mae eu hapêl wedi codi dros £85,000 mewn ychydig ddyddiau gydag Emyr yn dweud fod yr ymateb wedi bod yn anhygoel ac yn "overwhelming".
Roedd gan Meinir ganser nôl yn 2013 ond ar ôl curo hwnnw, daeth ergyd enfawr pedair wythnos yn ôl sef fod y canser wedi dychwelyd.

Fe wnaeth canser Meinir ddychwelyd pedair wythnos yn ôl
Mae Meinir yn parhau yn Ysbyty Glan Clwyd ar ôl datblygu sepsis ac mae'n derbyn triniaeth gan feddygon.
Yn ôl Emyr ei phartner, mae'r wythnosau diwethaf wedi bod o blith y mwyaf heriol.
"Mae'n rili gwael, oedd 'na bwynt lle o'n i'n meddwl fod hi am fynd," meddai.
"Oedd yr infection 'di mynd yn rili drwg ac yn fast.
"O'n i jest methu deffro hi, oedd o'n rili scary. Mi ddoth hi'n ôl, deffro, ond o'dd hi'n rili confused.
"O'n i ar un pwynt [yn] mynd nôl a mlaen a meddwl dyma ni - this could be the diwedd ac yna yn trio meddwl am stwff.
"O'dd o'n ofnadwy o emosiynol. 'Dan ni 'di bod yn meddwl priodi a phetha', a'r ddau o'n ni'n sôn am hynna, felly oedd y ddau o'n ni'n meddwl fod hi am fynd cyn bo hir."

"Mae'n rili gwael, oedd 'na bwynt lle o'n i'n meddwl fod hi am fynd," meddai Emyr
Ar ôl derbyn triniaeth bellach yn Ysbyty Glan Clwyd mae cyflwr Meinir wedi sefydlog, er ei bod hi'n dal yn wael o hyd.
Mae'r ddau wedi bod yn ymchwilio i driniaeth arbrofol yn Yr Almaen sy'n cynnig triniaeth wahanol i'r hyn sydd ar gael yng Nghymru.
Bwriad Emyr ymhen dyddiau ydi ceisio gwneud y daith 13 awr mewn car i gyrraedd y clinig gyda Meinir.
"Mae 'na risg efo hynny, siŵr Dduw, oherwydd mae 'na risg efo experiment," meddai Emyr.
"Ond hefo'r risg, mae o mwy fyny i'r person i evaluatio'r risg ac os ti eisiau gwneud o neu beidio."

"Mae 'na ffenest 'ŵan lle mae'n rhaid i hyn ddigwydd ac os 'di o ddim… yn anffodus mae'r canser yn mynd i fynd yn waeth"
Yn ôl Emyr, mae'r driniaeth yn ystyried gwybodaeth genetig y canser sy'n gwneud hi'n haws ei dargedu.
Ond mi ddaw hynny ar gost, ac mae'r driniaeth sydd dan sylw yn costio oddeutu £150,000.
Mae Emyr eisoes wedi codi degau o filoedd ac yn dweud fod haelioni pobl wedi bod yn anhygoel.
"Ma'n boncyrs... oedd o'n emosiynol ynddo'i hun.
"O'n i'n meddwl 'sa fo'n mynd fyny ond doeddwn i ddim yn meddwl 'sa fo'n mynd fyny mor fast.
"O'n i'n disgwyl o rhywsut ond mae o mor overwhelming yn emotionally, especially pan oedd hi'n rili sâl oherwydd ti'n sylwi faint mae pobl yn meddwl o Meinir.
"Ma' 'di bod yn rili neis, yn amazing, anhygoel a 'dan ni mor ddiolchgar."
Yn ôl meddygon, gan fod gan Meinir ganser gradd 4 mae disgwyl i hynny derfynu ei bywyd ac mae Emyr yn dweud ei fod o ar dân eisiau gwneud y daith i'r cyfandir mewn gobaith o gael atebion.
"Mae 'na ffenest 'ŵan lle mae'n rhaid i hyn ddigwydd ac os 'di o ddim… yn anffodus mae'r canser yn mynd i fynd yn waeth ac ella deith y diwedd.
"I ni mae'n amazing bod ni 'di cyrraedd lle 'dan ni wedi cyrraedd - 'dan ni mor ddiolchgar."

"Dwi'n shocked - dwi wedi bod yn crio, a jest y cyfeillgarwch sydd yna yng Nghymru a ffrindiau fi gyd," meddai Meinir mewn fideo o'i gwely yn yr ysbyty
Mewn fideo o'i gwely yn yr ysbyty mae Meinir hefyd wedi diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ei hapêl.
"Dwi jest eisiau dweud diolch am bob cefnogaeth," meddai.
"Dwi'n shocked - dwi wedi bod yn crio, a jest y cyfeillgarwch sydd yna yng Nghymru a ffrindiau fi gyd. O'n i jest rili ddim yn disgwyl hwn.
"Dwi jest yn gobeithio neith o 'neud be' 'da ni'n trio neud ac achub bywyd fi.
"Diolch, a dwi'n caru chi gyd. Gobeithio 'neith o weithio."
Mae'r ddau rŵan yn gobeithio teithio draw i'r Almaen o fewn dyddiau gan ddefnyddio'r pres a godwyd at driniaeth arbrofol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.