Huw Edwards wedi cystadlu am Goron yr Eisteddfod

Huw EdwardsFfynhonnell y llun, Heddlu'r Met
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cerddi'n trafod ei berthynas gyda'i dad, meddai Huw Edwards

GanJacob Morris
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Gallai'r cynnwys isod beri gofid i rai

Mae cyn-gyflwynydd newyddion y BBC, Huw Edwards wedi cystadlu yng nghystadleuaeth y goron.

O dan y ffugenw "Gelyn", dywedodd y cyn-ddarlledwr fod y cerddi yn trafod ei berthynas gyda'i dad, y diweddar Hywel Teifi Edwards.

Yn 2024, fe gafodd Huw Edwards ddedfryd o chwe mis o garchar, wedi ei ohirio am ddwy flynedd, ar ôl pledio'n euog i greu delweddau anweddus o blant.

Plediodd yn euog i dri chyhuddiad yn ymwneud â 41 o luniau a chlipiau fideo oedd wedi eu hanfon ato ar WhatsApp.

Dywedodd Huw Edwards mai "teyrnged i'm tad oedd y gerdd" ac "nid oedd gobaith yn y byd i mi ennill y gystadleuaeth".

Mewn ymateb dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol: "Ar ôl pob Eisteddfod rydym yn cael cyfnod o arfarnu i sicrhau fod prosesau yn briodol - a fydd eleni yn ddim gwahanol."

Barddoni 'am y tro cyntaf'

Nos Sul ar ei gyfrif Substack dywedodd Huw Edwards: "Am y tro cyntaf yn fy mywyd, rwyf wedi ceisio ysgrifennu cerdd. Cefais ysbrydoliaeth o un o brif themâu'r gystadleuaeth ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2026: y thema yw 'Adnabod'."

"Un o'r digwyddiadau mwyaf gofidus yn 2024 oedd gweld natur fy mherthynas â fy nhad yn cael ei gam-gynrychioli'n fwriadol gan y cyfryngau, ac yn enwedig gan newyddiadurwyr Cymraeg eu hiaith."

Roedd 41 wedi cystadlu am Goron Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las. Y dasg eleni oedd cyfansoddi cerdd neu gasgliad o gerddi hyd at 250 o linellau ar y testun 'Adnabod'.

Mae Newyddion S4C bellach wedi derbyn cadarnhad fod y beirniaid wedi gwerthuso'i gerdd dan y ffugenw "Gelyn" a'i roi yn y trydydd categori.

Yn gynharach eleni fe wnaeth ymgyrchwyr feirniadu ei benderfyniad i ddechrau blog, gan ddweud ei fod yn "amhriodol ac amharchus".

Sera Cracroft
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sera Cracroft yn credu ei bod hi'n "erchyll" fod Huw Edwards wedi cystadlu am y Goron

Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, mae Sera Cracroft - actores amlwg a goroeswraig cam-drin rhywiol fel plentyn - wedi beirniadu Huw Edwards.

"Dwi'm yn meddwl bod Huw yn sylweddoli pa mor erchyll ydy'r ffaith bod o wedi trio am y goron," meddai Ms Cracroft - sydd wedi siarad yn agored am ei phrofiad hi o ddioddef trais rhywiol fel plentyn.

"Tasa fo wedi ennill y goron, ma'r ddelwedd o'i weld o'n cael ei goroni o flaen ei wlad yn mynd i frifo lot o oroeswyr.

"Falle bod modd i Huw fod yn fwy diymhongar a thrio helpu pobl neu gyfrannu mewn rhyw ffor' neu ddysgu mwy am y troseddu mae o wedi eu cael yn euog ohonyn nhw."

'Byddai wedi bod yn gatastroffig'

Wrth alw am edrych eto ar reolau cystadlaethau'r Eisteddfod, sydd yn caniatáu i ymgeiswyr gystadlu dan ffugenw, dywedodd y byddai gweld Edwards yn ennill y gystadleuaeth wedi bod yn "gatastroffig".

"Tan i hyn ddigwydd, o'n i'n meddwl bod o'n syniad da ein bod ni ddim yn gwybod pwy oedd yn cystadlu," ychwanegodd.

"Ond mae'n rhaid i fi ddweud, dwi dan deimlad rŵan a dwi'n meddwl yn yr achos yma, byddai wedi bod yn gatastroffig gweld o'n cael ei goroni tasa fo wedi ennill."

"Maen nhw wedi edrych ar y fedal ddrama ddwy flynedd yn ôl, mae 'na bethau wedi codi fan'na... os oeddan nhw'n gallu gwneud hynny, mae isio iddyn nhw edrych ar hwn hefyd."

Mewn ymateb dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol: "Mae gennym broses yn ei le sy'n sicrhau nad oes neb, gan gynnwys y beirniad, yn gwybod ymlaen llaw pwy sydd wedi cystadlu.

"Ar ôl bob Eisteddfod rydym yn cael cyfnod o arfarnu i sicrhau fod prosesau yn briodol - a fydd eleni yn ddim gwahanol."

'Nid cerdd i'r Cymry Cymraeg cyfoglyd o hunan-gyfiawn'

Siaradodd Newyddion S4C gyda Sera Cracroft ar ôl derbyn yr e-bost isod gan Huw Edwards. Roedd hi'n ymwybodol ac yn cytuno ein bod ni'n cyhoeddi cynnwys yr ebost yn llawn.

"Teyrnged i'm tad oedd y gerdd. Dim byd mwy na llai na hynny," meddai Huw Edwards.

"Nid oedd gobaith yn y byd i mi ennill y gystadleuaeth ac fe wyddwn hynny. Roedd angen cywiro'r naratif gwenwynig a hybwyd gan y cyfryngau ddwy flynedd yn ôl.

"Nid cerdd oedd hi i'r Cymry Cymraeg cyfoglyd o hunan-gyfiawn - Sera yn eu plith - sy'n manteisio ar bob cyfle i gega yn ddifeddwl ar bob pwnc dan haul.

"Mae hi a'i thebyg yn rhy barod o lawer i anwybyddu effeithiau dinistriol afiechyd meddwl. Yn hynny o beth, maent yn driw i draddodiad papurau tabloid Llundain."

Yn ôl y bardd a'r newyddiadurwr Karen Owen: "Mae'n bwysig ein bod ni ddim yn mynd i banig am hyn. Dydy o ddim wedi torri rheol drwy gystadlu.

"Mae gan bawb yr hawl i ddefnyddio'r awen i wella a d'eud eu d'eud."

Ychwanegodd ei bod hi'n bwysig nad yw'r ffaith bod Mr Edwards wedi cystadlu yn "tynnu o fri'r gystadleuaeth".

"Dydy hi ddim yn ddymunol ond dylai'r enillydd ddim plygu ei ben neu ei phen."

Mae cystadleuwyr yn cyflwyno'u gwaith o dan ffugenw ac mae yna reol cyfrinachedd gan yr Eisteddfod Genedlaethol. Er gwaethaf hyn, mae Mr Edwards wedi cyhoeddi ei waith ar-lein.

Dywedodd Karen Owen: "Dydy hi ddim yn beth doeth i 'neud. Mae o'n amlwg yn gryf am sylw ac eisiau cael ei ochr o."

Yr enillydd yw 'dechrau a diwedd' y stori

Yn siarad ar Radio Cymru fore Mawrth, dywedodd Bethan Mair, aelod o bwyllgor llen yr Eisteddfod a Chyngor yr Eisteddfod, a sylwebydd ar lenyddiaeth, mai buddugoliaeth Martin Huws yw "dechrau a diwedd y stori" yma, gan ddweud bod angen canolbwyntio ar "fardd a llenor sydd wedi gweithio ei grefft am flynyddoedd o'r diwedd wedi dod i'r brig".

Gwrthododd awgrym bod ymgais Huw Edwards yn rheswm dros newid rheolau cystadlu'r Eisteddfod.

"Nagoes ddim am un eiliad. Mae'r rheol bod rhywun yn cystadlu dan ffugenw a bod pawb ar yr un lefel nes bod y beirniad yn datgan yn greiddiol i'r hyn y mae'r Steddfod yn sefyll drosto fe.

"Yn y pendraw, y beirniaid sydd â'r gair olaf, ac mae'r beirniaid yn yr achos hwn wedi gweld mai Martin Huws oedd yn fuddugol gyda set o gerddi hynod o heriol, herfeiddiol, 'falle fydd yn anodd i'w trin, ond gwaith celf am gam-drin."

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.

Mae'r erthygl hon a gyhoeddwyd ar 3 Awst wedi ei diweddaru i gywiro mai creu delweddau anweddus o blant oedd y troseddau a blediodd Huw Edwards yn euog iddynt, yn hytrach na bod â'r lluniau yn ei feddiant.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.