'Llygod mawr, gwylanod, pryfed' a drewdod wrth i sbwriel bentyrru

David Power yn sefyll o flaen biniau gwastraff wedi eu gorlenwi, i'r pwynt lle mae rhagor o wastraff wedi'i wasgaru ar hyd y llawr o'u cwmpas. Mae'n gwisgo crys-t du ac mae ganddo wallt llwyd, Ffynhonnell y llun, Kieran Molloy
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y preswylydd David Power bod y gwastraff yn atynnu cathod, cŵn, llygod mawr a gwylanod

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl sy'n byw mewn bloc o fflatiau yng Nghaerdydd yn dweud eu bod wedi cael llond bol ar weld y pentwr o wastraff y tu allan i'w hadeilad yn tyfu, gan ddenu llygod mawr, gwylanod, a phryfed.

Dywedodd preswylwyr Cwrt Coles wrth y Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol (LDRS) am y problemau sy'n cael eu hwynebu oherwydd y sbwriel a'r gwastraff sy'n ymgasglu y tu allan i'w fflatiau.

Fe ddywedodd un preswylydd nad oedd y sbwriel wedi cael ei gasglu ers tua 10 wythnos, er oedd eraill yn dweud efallai mai pedair wythnos oedd wedi bod.

Dywedodd David Power, sy'n byw mewn fflat ger y pentwr o wastraff, ei fod wedi gweld y gwastraff yn denu cathod, cŵn, llygod mawr a gwylanod i'r ystâd.

'Gymaint o bryfed'

"Mae mwy o bryfed yr haf hwn nag erioed o'r blaen. Efallai fod hynny oherwydd yr holl dywydd poeth, ond 'dw i hefyd yn meddwl mai'r biniau sydd ar fai," meddai Mr Power.

Dywedodd hefyd bod y broblem wedi bod yn mynd yn ei flaen "am amser hir bellach", ac nad oes digon o finiau ar gyfer y bloc o fflatiau, sy'n arwain at sbwriel yn cael ei bentyrru ar eu pennau.

Dywedodd Marcy Webbe: "Mae mwy o bryfed yn y fflat a dwi'n credu bod hynny am eu bod nhw'n dod o'r biniau.

"Maen nhw'n gallu cael i mewn drwy'r ffenestri, ac mae 'na gymaint yn rhagor ohonyn nhw."

Dywedodd hefyd ei fod yn gallu clywed llygod mawr yn sgrialu o gwmpas y pentwr pan y bydd yn mynd â'i finiau allan.

"Dw i'n cadw tua troedfedd o bellter draw wrth imi daflu rhywbeth. Mae'n rhaid imi gael gwared ar y sbwriel ond 'dw i'n teimlo'n ofnadwy am gyfrannu at y peth," meddai.

Mae'r bobl leol hefyd wedi dweud fod y gwylanod yn pigo'r sbwriel i fyny ac yn ei ollwng ar hyd strydoedd agos.

Dywedodd Sudha Talluru: "Does dim modd cael at yr ardal sbwriel gan fod gymaint o wylanod o'i gwmpas, ac maen nhw'n cyfrannu at ledaenu'r sbwriel ymhob man."

Ychwanegodd Webbe: "[Fe adawodd y gwylanod] lwyth o fwyd ar ben fy nghar yn ddiweddar, llwyth o domatos wedi pydru neu rywbeth."

Dywedodd Sudha Talluru yr oedd wedi rhoi gwybod am y broblem i FirstPort, cwmni rheoli Cwrt Coles. Ond nad oedd unrhyw beth wedi cael ei wneud.

Dywedodd: "Ti'n teimlo fel dy fod yn byw wrth ymyl canolfan ailgylchu.

"'Nes i fyth dychmygu gweld hyn yng Nghaerdydd."

Dywedodd roedd Cyngor Caerdydd wedi casglu'r gwastraff gwydr ac ailgylchu, ond wedi gadael y gwastraff cyffredinol.

Dywedodd llefarydd ar ran FirstPort: "'Dyn ni'n rhannu'r un pryderon ynghylch y gwastraff sy'n ymgasglu yng Nghwrt Coles, o ganlyniad i'r rheini sydd ddim yn breswylwyr yn defnyddio'r ardal i gael gwared ar eu gwastraff eu hunain yno hefyd.

"Mae'r cyfleusterau gwastraff yn cael eu darparu ar gyfer defnydd y preswylwyr yn unig, ac mae arwyddion clir wedi'u gosod yno i adlewyrchu hynny.

"Fodd bynnag, mae gwastraff ychwanegol yn cael ei gadw yno'n rheolaidd, sy'n rhoi pwysau ar y cyfleusterau sydd ar gael. Rydym wedi trefnu sawl gwaith i'r gwastraff ychwanegol gael ei dynnu oddi ar y safle."

Dywedon nhw fod contractwr difa plâu yn ymweld â'r safle bob mis, a bod archwiliadau rheolaidd yn cael eu cwblhau.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae casgliadau gwastraff ailgylchu a gwydr yng Nghwrt Coles yn parhau i gael eu cyflawni fel y drefn.

"Fodd bynnag, mae'r gwastraff cyffredinol sy'n pentyrru o amgylch y biniau cyhoeddus yn creu problemau mynediad arwyddocaol, gan atal criwiau rhag cwblhau'r casgliadau gwastraff yn ddiogel.

"Mae ein criwiau wedi dod ar draws amodau annerbyniol sawl gwaith ar y lleoliad, yn cynnwys ysgarthion dyn a chi ar handlenni'r biniau, cewynnau ar agor, a gwastraff rhydd o gwmpas y blychau.

"Mae'r amodau hyn yn risg difrifol i iechyd a diogelwch y staff gweithredol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig