Dadorchuddio plac yn Nhonypandy i goffáu Brwydr Maes de Winton

TonypandyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Undeb y Ffasgwyr Prydain eu gyrru o Donypandy ar ôl 30 munud yn dilyn brwydr ffyrnig gyda phrotestwyr gwrth-ffasgaidd

  • Cyhoeddwyd

Bydd plac glas yn cael ei ddadorchuddio yn Nhonypandy ddydd Sadwrn i goffáu digwyddiad sy'n cael ei ystyried yn un o'r rhai mwyaf arwyddocaol yn hanes cymdeithasol a gwleidyddol Cwm Rhondda.

90 mlynedd yn ôl, ar 11 Mehefin 1936, fe ddigwyddodd yr hyn sy'n cael ei adnabod fel Brwydr Maes de Winton, pan geisiodd cynrychiolwyr Undeb Ffasgwyr Prydain (BUF) gynnal rali yn Nhonypandy.

Fe drodd yn frwydr ffyrnig rhyngddyn nhw a thua 6,000 o brotestwyr gwrth-ffasgaidd, yn cynnwys glowyr lleol, sosialwyr, comiwnyddion ac undebwyr llafur.

Gorfodwyd y BUF i roi'r gorau i'w rali ar ôl 30 munud, a'u hanfon o'r dref.

Erthygl bapur newydd o'r cyfnodFfynhonnell y llun, Guto Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae erthygl bapur newydd o'r cyfnod yn disgrifio'r hyn ddigwyddodd yn Nhonypandy ym mis Mehefin 1936

Cafodd y BUF ei sefydlu gan y gwleidydd Oswald Mosley yn y 30au, wrth i Adolf Hitler a Benito Mussolini amlygu eu hunain yn Ewrop - a Mosley yn ceisio'u hefelychu yn y DU.

Ar raglen Dros Ginio dywedodd trefnydd y digwyddiad dadorchuddio yn Nhonypandy, ac ysgrifennydd y Blaid Gomiwnyddol ym Mhontypridd, Guto Davies bod y frwydr yn un arwyddocaol, fel diwedd ar ymgais y BUF i geisio sefydlu yng Nghymru.

"Ar y diwrnod hyn yn 1936 wnaeth Oswald Mosley ddanfon y Crysau Duon - y British Union of Fascist lan i Tonypandy.

"O'n nhw eisoes wedi ceisio sefydlu eu hunain yn Abertawe, Caerdydd, Pontypridd, a hon oedd yr ymdrech olaf wedyn i goncro Cwm Rhondda mewn ffordd.

"Ond ar fyr rybudd, o'n nhw'n amcan bod torf leol o 6,000 wedi troi allan, ac mewn byr o amser a gyda dyrnau a cherrig yn cael eu taflu, mi g'as y ffasgwyr eu gyrru allan o Gwm Rhondda yn gyflym iawn, a dyna'r tro olaf wedyn y gwnaeth y British Union of Fascists geisio gwneud unrhyw beth yng Nghymru."

Guto DaviesFfynhonnell y llun, Guto Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd trefnydd y digwyddiad dadorchuddio, Guto Davies ei fod yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o'r hanes

Cafodd 37 o brotestwyr gwrth-ffasgaidd eu harestio yn sgil y frwydr, a chael eu cyhuddo o wahanol droseddau yn cynnwys achosi terfysg.

Fe gafodd nifer ohonyn nhw ddedfrydau o garchar, ac aeth pedwar o'r rhai a gafodd eu carcharu i wirfoddoli yn ddiweddarach i'r Brigadau Rhyngwladol yn Rhyfel Cartref Sbaen.

Roedd nifer o ddigwyddiadau tebyg i'r un yn Nhonypandy yn yr un cyfnod, gyda'r cyfan yn dod i ben ym mis Hydref 1936 gyda Brwydr Cable Street yn Llundain.

Ond yn ôl Guto Davies, roedd yr hyn ddigwyddodd yng Nghwm Rhondda yr un mor arwyddocaol.

"Brwydr Maes de Winton oedd ein Cable Street ni," meddai.

'Mi g'as y ffasgwyr eu gyrru allan o Gwm Rhondda yn gyflym iawn'

Guto Davies ar Dros Ginio yn nodi 90 mlynedd ers Brwydr Maes de Winton

Dywedodd hefyd bod gosod y plac glas yng Nghyfrinfa Glofa'r Cambrian yn Nhonypandy yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o'r hanes.

"Wrth gwrs y'n ni'n coffáu beth ddigwyddodd 90 mlynedd yn ôl, ond mi fyddwn ni'n ei roi fe yn y cyd-destun beth sy'n digwydd heddi," meddai Mr Davies.

"Mae ffasgiaeth yn dal ar droed yn y gwledydd hyn, ac yn sicr mae'n rhaid i ni barhau'r frwydr yn erbyn hiliaeth a ffasgiaeth, felly mi fyddwn ni'n canolbwyntio ar hynny hefyd yn y digwyddiad ddydd Sadwrn."

Dywedodd y Cynghorydd Scott Emanuel o Gyngor Rhondda Cynon Taf y bydd y seremoni ddydd Sadwrn yn "gyfle i fyfyrio ar dreftadaeth gymdeithasol a gwleidyddol gyfoethog yr ardal, ac i gydnabod y dewrder a'r undod a ddangoswyd gan y rhai a safodd i amddiffyn gwerthoedd democrataidd".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig