Hywel Gwynfryn, darlledwrHanes Cymru, gan John Davies
'Roeddwn i'n casáu Hanes fel pwnc yn yr ysgol! Pam? Oherwydd ein bod ni'n dysgu am hanes Lloegr.
Fe gaem wersi am frenhinoedd fel Harri'r wythfed, ond 'doedd dim son am Owain Glyndwr, a neb yn crybwyll Llywelyn Fawr.
Diolch i'r drefn mae'r sefyllfa wedi newid erbyn heddiw, ac mae 'na lawer mwy o bwyslais ar ddysgu hanes Cymru - a'r beibl wrth gwrs ydy Hanes Cymru gan John Davies.
Dyma lyfr sy'n gyffrous i'w ddarllen, yn llawn gwybodaeth hanfodol i unrhyw un sydd eisiau ymdeimlo a'i orffennol fel Cymro.
Hwn ydy un o lyfrau mawr yr ugeinfed ganrif - mewn unrhyw iaith.
Gwybodaeth pellach