John Hardy, cyflwynyddMiss Pringle a'r Tatŵ, gan Harri Parri
Prin iawn ydy'r nofelydd all wneud i chi chwerthin yn uchel wrth ddarllen. Mae Harri Parri yn sicr yn un o'r rheiny ac mae ei gasgliad diweddara yn dilyn llwybr llwyddiannus ei waith blaenorol.
Cryfder Harri Parri yw ei gymeriadau. Mae trigolion Porth yr Aur yn hen ffrindiau, ac mae darllenwyr cyson yn gyfarwydd â ffaeleddau Jac Blac, Oli Paent a'r Mulligans ond eto'n barod i faddau, a maddau drwy chwerthin yn hytrach na dwrdio.
Hiwmor syml, agos atoch chi sydd yma. Ffraethineb cefn gwlad a dawn dweud aruthrol.
Mae'r iaith yn ogleddol ond fel yn y clasur 'Uncle Tom's Cabin' mae'n bosib codi'r rhythm drwy ddarllen yn uchel. Neu'n well byth, prynwch gopi o'r CD a chyd-ddarllen gyda champwaith John Ogwen sydd bellach yn llais i gymeriadau unigryw Harri Parri.
Gwybodaeth pellach