BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.
MONDAY
17th November 2014
Text only
RAW Cymru
pigion raw
Y Brawd Houdini
blaenorol 1 | 2 | 3 | 4 | 5 nesaf

Guto HarriGuto Harri, gohebydd gogledd America y BBC
Y Brawd Houdini, gan Meic Stevens

Mae'n anodd credu bod un dyn wedi cael magwraeth mor greulon, byw bywyd mor wyllt a sgwennu rhai o'r geiriau mwyaf treiddgar a thyner yn yr iaith Gymraeg.

Mae hunangofiant Meic Stevens yn llawn hiwmor a hwyl, trasiedi a thrychineb. Bu bron iddo farw o fewn oriau i'w eni. Cafodd ei guro gan lystad ac fe fu'n ŵr ac yn dad gwael ei hun.

Priododd sgitsoffrenig, bu'n gaeth i falium ac yn feddwyn heb ei ail. Ond mae'n dalent aruthrol, ac fe fu'n meithrin ei ddawn dros ddegawdau - o bentref Solfach i dafarndai Caerdydd a chlybiau Llundain.

Mi ddywedodd Bob Dylan mai ef oedd y cyfansoddwr caneuon gorau ym Mhrydain. Mae'r gyfrol yma'n egluro beth ysbrydolodd y caneuon hynny.

Gwybodaeth pellach


i fynySeren Wen ar Gefndir Gwyn
Gwyneth GlynGwyneth Glyn, cerddor
Seren Wen ar Gefndir Gwyn, gan Robin Llywelyn

Un o fy hoff lyfrau Cymraeg, a llyfr na fydda i byth yn blino ei ddarllen, ydy 'Seren Wen ar Gefndir Gwyn' gan Robin Llywelyn.

Hanes ffantasîol ydy'r llyfr sydd, yn fy marn i, yn sefyll ysgwydd-yn-ysgwydd ag anturiaethau epig gan C.S. Lewis a J.R. Tolkien.

Mae yma gymeriadau lliwgar a chanddynt enwau hynod megis Anwes Bach y Galon a Tincer Saffrwm.

Mae'r awdur yn chwarae hefo geiriau fel consuriwr. Mae ei driciau yn tynnu'r darllenydd i mewn i fyd arall rhyfedd-gyfarwydd.

Yr hyn sy'n gwneud y gwaith yma yn glasur ydy ei fod o'n ymdrîn â themâu oesol mewn iaith lafar a llithrig. Mae'r geiriau yn dawnsio oddi ar y dudalen, a does gan y darllenydd ddim dewis ond ymuno yn y ddawns.

Llyfr hudolus ydy hwn, y byddai'n bechod i unrhyw un beidio â'i ddarllen.

Gwybodaeth pellach


i fynyTwyll Dyn
Dewi PwsDewi Pws, actor a diddanwr
Twyll Dyn, gan Eirwyn Pont-siân

Mae straeon Eirwyn Pont-siân yn un o'r pethe mwya doniol i mi eu clywed.

Wir, mi roedd o bron mor wirion a fi - a mae hynny'n dweud lot.

Rwy'n gallu clywed Pont-siân yn dweud y straeon wrth i mi eu darllen ac mae'r cymeriadau a'r lluniau yn dod yn fyw rhywsut.

Gwybodaeth pellach




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy