Meinir Gwilym, cerddor a chyflwynwraigO Tyn y Gorchydd, gan Angharad Price
Un o'm hoff lyfrau Cymraeg i ydy Cysgod y Cryman, gan Islwyn Ffowc Elis.
Rwy'n edmygu ceinder yr ysgrifennu yn gyntaf, a'r disgrifiadau celfydd.
Ond yn bennaf oll, mae'n stori dda gyda chymeriadau o gig a gwaed sy'n gwneud i chi chwerthin, crio, edmygu, caru a chasáu.
Edward Vaughan ydy'r dyn mwyaf gosgeiddig yn hanes llenyddiaeth Gymraeg!
Darllenwch y llyfr yma - clasur Cymraeg! Y nofel hon oedd enillydd Llyfr y Ganrif hefyd gyda llaw.
Yn fwy diweddar, un o'm hoff lyfrau ydy 'O Tyn y Gorchudd' gan Angharad Price - un o'r nofelau gyda'r diweddglo mwyaf annisgwyl i mi ei darllen erioed.
Gwybodaeth pellach