Dafydd Iwan, gwleidydd a chanwr gwladMartha, Jac a Sianco, gan Caryl Lewis
Y ddau awdur a roddodd flas imi ar ddarllen yn ifanc oedd T.Llew Jones ac Islwyn Ffowc Elis.
Ond y llyfr sydd wedi gwneud yr argraff fwyaf arnaf yn ddiweddar yw nofel Caryl Lewis 'Martha, Jac a Sianco'.
Ar yr olwg gynta', mae'r stori'n ddigon cyffredin. Ond mae'r ysgrifennu mor rhwydd a difyr, a'r cymeriadu mor fyw fel na allwch ond ymgolli'n llwyr yn y llyfr.
Yn fy marn i, Caryl Lewis yw un o'r awduron mwyaf cyffrous a gwreiddiol i ymddangos yng Nghymru ers blynyddoedd lawer.
Gwybodaeth pellach