BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.
MONDAY
17th November 2014
Text only
RAW Cymru
pigion raw
Tirlun Cymru
blaenorol 1 | 2 | 3 | 4 | 5 nesaf

Gethin JonesGethin Jones, cyflwynydd Blue Peter
Tirlun Cymru, gan David Williams

Yn arferol, fy hoff lyfrau yn gyffredinol ydy llyfrau chwaraeon neu hunangofiannau.

Ond yn ddiweddar dw i wedi dod o hyd i lyfr o'r enw Tirlun Cymru gan David Williams

Mae'n llawn lluniau lliw ac mae'r testun dwyieithog yn sôn am dirlun a daearyddiaeth Cymru.

Llyfr perffaith, yn enwedig i beilot sy'n hoffi hedfan hyd a lled y wlad yn ei 'Cessna' bach!

Gwybodaeth pellach


i fynyOmlet
Siân ThomasSiân Thomas, cyflwynwraig Radio Cymru
Omlet, gan Nia Medi

Yn aml iawn, fy hoff lyfr i ydy'r ola' i mi ei ddarllen, gan ei fod yn ffres yn y cof, felly mae'r ffefryn yn newid yn gyson.

Ar ôl dweud hynny, ma' ambell lyfr yn fythgofiadwy, ac yn ffefryn parhaol.

Darllenais 'Tân ar y Comin' gan T.Llew Jones pan oeddwn i'n ifanc iawn - 'roeddwn wedi fy hudo, ac mae nofelau T.Llew Jones yn dal yn ffefrynnau hyd heddiw.

Nid llyfrau plant mohonynt, ond llyfrau sy'n apelio at y plentyn ym mhob un ohonom ni, ac mae hynny'n grefft arbennig iawn.

Beth am y ffefrynnau ar hyn o bryd? Mae 'Omlet' gan Nia Medi yn llyfr sy'n codi gwên a chodi'r ysbryd.

Mae hanes Angharad Austin, athrawes 33 oed, mor ddoniol fel y byddwch yn eich dyblau yn chwerthin o'r dechrau i'r diwedd. Ac un gair o rybudd. Os ydych chi'n ystyried cael triniaeth 'colonic irrigation' - darllenwch hwn yn gyntaf!

Gwybodaeth pellach


i fynyTheleri Thŵp
Huw StephensHuw Stephens, DJ Radio 1
Theleri Thŵp, gan Dewi 'Pws' Morris

Wnes i ddarllen hwn mewn bron iawn i un darlleniad. Mae mor ddoniol - chi'n debygol o chwerthin o leiaf unwaith ar ôl darllen pob tudalen.

Mae ffordd Dewi Pws o sgwennu yn debyg iawn i'r ffordd mae'n siarad - yn naturiol a syml ond yn disgrifio a chofio pethe doniol drwy'r amser.

Ar ôl ei weld e'n actio ac ar y teledu am flynyddoedd, roeddwn i'n ffan o Dewi Pws ers sbel, ond ddim yn gwybod llawer amdano. Ond mae'r llyfr yn ddiddorol tu hwnt, ac yn llawn storïau doniol a difyr!

Gwybodaeth pellach




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy