 Twf
y Wladwriaeth Gymreig
 Un o longau'r Llychlynwyr
Her y Llychlynwyr
Cafodd Rhodri’r teitl Rhodri Fawr yn bennaf ar sail ei fuddugoliaeth
dros y Llychlynwyr yn 856. Dechreuodd y Llychlynwyr ymosod ar arfordiroedd
Prydain ac Iwerddon yn y 780au. Yr oeddent yn ymosod ar y mynachdai
cyfoethog a diamddiffyn, a hynny efallai sy’n esbonio pam fod yr Eglwys
Geltaidd wedi edwino. Prin yw’r olion bod y Llychlynwyr wedi ymsefydlu
yng Nghymru. Yn Lloegr, yr Alban ac Iwerddon y mae’r Llychlynwyr yn
ymsefydlu, a rhwng y 780au a 1100 fe fyddent yn chwarae rhan amlwg
yng ngwleidyddiaeth y pedair gwlad.
Cyfraith Cymru
Fel ei daid y mae Hywel yn cael cyfenw. Fe yw Hywel Dda, yn bennaf
mae'n debyg am fod traddodiad yn ei gysylltu â chyfundrefnu cyfreithiau’r
wlad. Yn ôl llawysgrifau diweddarach digwyddodd hyn yn Hendy-gwyn
tua’r flwyddyn 940. Cyfraith draddodiadol yw Cyfraith Cymru, nid gwaith
y brenin, gyda phwyslais ar gymodi yn hytrach na chadw trefn drwy
gosbi.
Y berthynas â Lloegr
Y mae'r Llychlynwyr yn chwalu’r wladwriaeth Seisnig. Y mae Wessex
yn goroesi, ac y mae ymgyrch yn dechrau yn ystod teyrnasiad y Brenin
Alfred (bu farw yn 899) i uno Lloegr o dan lywodraeth Wessex. Bu farw
Rhodri Fawr mewn brwydr yn erbyn y Saeson. Y mae Hywel Dda yn dilyn
llwybr mwy cymodlon. Y mae’n mynychu’r llys Seisnig ac yn cydnabod
arglwyddiaeth y Sais. Ond y mae Gruffudd ap Llywelyn yn fwy ymosodol.
Fel rhan o’i ymgyrch i uno Cymru y mae’n meddiannu tiroedd a fu unwaith
ym meddiant y Cymry, i’r dwyrain o Glawdd Offa. Y mae Harold, Brenin
Wessex, yn ymosod ar Gymru yn 1063, ac y mae Gruffudd yn cael ei ddal
a’i ladd. Dair blynedd yn ddiweddarach y mae William, Dug Normandi,
yn eistedd ar orsedd Lloegr.
|
 |

|