 Dyfodiad
y Normaniaid

Tapestri Bayeux
Pwy oedd y Normaniaid?
Daeth dugiaeth Normandi i fodolaeth yn 911 ar ôl i’r Northmyn neu’r
Llychlynwyr ymsefydlu yn Nyffryn y Seine yng ngogledd Ffrainc. Roeddent
yn bobl llawn bywyd, eu llywodraeth yn drefnus, ac o ganlyniad y mae
Normandi’n datblygu i fod yn un o ranbarthau mwyaf deinamig Ewrop.
Mae’n gymdeithas sy’n seiliedig ar ffiwdaliaeth - y mae’r dug yn rhoi
digon o dir i’w ddilynwyr i’w galluogi i gynnal marchogion i’w wasanaethu
adeg rhyfel. Yn dilyn Brwydr Hastings yn 1066, y mae Gwilym, dug Normandi,
yn cael ei goroni’n Gwilym I, brenin Lloegr. Ymhen fawr o dro y mae’n
rheoli’i deyrnas i gyd.
Ymosodiadau cynnar y Normaniaid ar Gymru
Digon gwan yw Cymru yn 1066 o ganlyniad i gwymp Gruffudd ap Llywelyn
dair blynedd ynghynt. Y mae yna lawer o ymladd mewnol a thywallt gwaed
ymhlith y rhai a fynnai fod yn ben cyn bod arweinwyr yn amlygu eu
hunain yng Nghymru. Y mae Gwilym yn sefydlu iarllaethau yng Nghaer,
Amwythig a Henffordd, lle mae dynion a thueddiadau pur ymosodol wrth
y llyw.
Erbyn 1086 mae iarll Henffordd wedi chwalu brenhiniaeth Gwent, y mae
iarll Amwythig wedi codi castell yn Nhrefaldwyn ac wedi meddiannu’r
rhan fwyaf o’r tir ar y ffin â Chymru, ac mae iarll Caer wedi cyrraedd
yn ddwfn i mewn i Wynedd. Ond mae Gwilym I yn cydnabod awdurdod Rhys
ap Tewdwr yn y Deheubarth ac yn derbyn awdurdod Iestyn ap Gwrgant
dros Forgannwg. Bu farw’r brenin y 1087. Y mae’r ymosodiadau’n dechrau.
Y mae Robert Fitzhammon yn cipio iseldir Morgannwg. Y mae Rhys ap
Tewdwr yn cael ei ladd ac mae Brycheiniog yn cael ei feddiannu. Y
mae iarll Amwythig yn sgubo trwy Bowys a Cheredigion i dde Dyfed ac
yn codi castell ym Mhenfro.
|
 |

|