 Twf
y Wladwriaeth Gymreig
 Clawdd Offa
Gosod ffiniau Cymru
Rhwng 650 a 750 y mae’r Saeson yn cryfhau eu gafael ar y gwastadeddau.
Hyd yn oed yn yr Alban y mae’r rhan fwyaf o’r teyrnasoedd Brythoneg
neu Gymreig yn nwylo’r Saeson. Ond cyn i hynny ddigwydd y mae’r ardaloedd
hyn yn cynhyrchu’r llenyddiaeth Gymraeg gyntaf sydd wedi goroesi.
Y mae lluoedd y Saeson yn gwasgu’n arbennig o galed ar Bowys. Y mae
cerddi Heledd yn farwnad wych i helbulon y deyrnas. Erbyn cyrraedd
mynyddoedd Cymru y mae’r Saeson yn dechrau blino. Y mae Offa, Brenin
Mercia yn synhwyro hynny. Tua’r flwyddyn 780 y mae’n gorchymyn codi
amddiffynfa yn ymestyn o fôr i fôr, Clawdd Offa, adeiladwaith rhyfeddol
yn ail hanner y milflwyddiant Cristnogol cyntaf ym Mhrydain, aeth
ymhell tuag at bennu ffiniau Cymru.
Yr anogaeth i uno
Efallai
bod Clawdd Offa yn dihuno ymwybyddiaeth y Cymry o’u cenedligrwydd.
O fewn cenhedlaeth o godi’r clawdd y mae rhan helaethaf o’r wlad o
dan reolaeth un dyn, Rhodri Brenin Gwynedd. Erbyn ei farw yn 877 yr
oedd Powys a Seisyllwg ( i bob pwrpas Ceredigion a Chaerfyrddin yn
ddiweddarach) yn rhan o’i deyrnas. Ond mae undod y Gogledd a Seisyllwg
yn chwalu ar ei farw, ond daw uno eto dan arweiniad ei wyr, Hywel
(a fu farw yn 950). Y mae ef hefyd yn teyrnasu dros Ddyfed a Brycheiniog.
Dyfed, Seisyllwg a Brycheiniog o hyn allan fyddai’r Deheubarth. Y
mae’r uno yn cyrraedd ei benllanw o dan un o’i ddisgynyddion, Gruffudd
ap Llywelyn, Erbyn 1057 y mae wedi uno Cymru gyfan.
|
 |

|