 Diwedd
annibyniaeth Cymru

Achau Llywelyn Fawr
Blynyddoedd olaf y dywysogaeth
Yn y pum mlynedd wedi Cytundeb Aberconwy mae Llywelyn yn ceisio atgyfnerthu’i
dywysogaeth sydd wedi’i lleihau. Ag yntau’n ymwybodol bellach o bwer
Coron Lloegr mae’n talu gwrogaeth a’i dreth. Y mae’r Brenin Edward
yn ymddangos yn gymodlon ac y mae’n bresennol yn Eglwys Gadeiriol
Caerwrangon yn 1278 ym mhriodas Llywelyn ac Elinor de Montfort, nith
Brenin Ffrainc, Brenin Lloegr ac Ymerawdwr Rhufeinig Sanctaidd. Ond
o dan yr wyneb y mae yna gryn dyndra. Yn y rhannau o Wynedd a gipiwyd
gan y brenin y mae’r swyddogion brenhinol yn ormesol. Mae Arglwyddi
Deheubarth wedi’u dal gan y weinyddiaeth frenhinol yng Nghaerfyrddin
a Cheredigion. Mae barn y Cymry’n cael ei diystyru pan fo materion
Cymreig o bwys yn cael eu setlo dan gyfraith Lloegr yn hytrach na
chyfraith Cymru. Mae hyd yn oed cynghreiriad y brenin, Dafydd, yn
ei gadarnle yn Ninbych yn cael ei ddadrithio. Yn wir, Dafydd sy’n
gyfrifol am ddechrau cadwyn o ddigwyddiadau sydd maes o law yn arwain
at dranc ei frenhinlin. Ar Sul y Blodau 1282 mae’n ymosod ar Gastell
Penarlâg, gweithred sy’n arwain at wrthryfel yn y rhan fwyaf o Gymru.
Mae Llywelyn yn oedi. Nid yw’n ymuno â’r gwrthryfel am rai misoedd.
Mae’n gwneud hynny, yn arwyddocaol efallai, rai misoedd yn ddiweddarach,
ar ôl marw ei wraig Elinor ar enedigaeth eu hunig blentyn, Gwenllian.
Y rhyfel annibyniaeth olaf
Yn 1282 mae Brenin Lloegr yn benderfynol o ennill buddugoliaeth lwyr,
er mae cost y fuddugoliaeth yna yn nhermau amser, ymdrech ac arian,
yn ei siomi. Mae Edward yn ymosod ar Lywelyn o'r de, o'r dwyrain ac
o'r môr. Mae cefnogwyr Llywelyn yn ennill rhai brwydrau. Fe
gafodd Edward ei rwystro ganddyn nhw yn y gogledd-ddwyrain; mae cynghreiriaid
Llywelyn yn y de yn dal eu tir yn Nyffryn Tywi; mae ymdrechion ei
wrthwynebwyr i groesi afon Menai ar bont o gychod yn drychineb. Yn
hwyr yn 1282 mae Llywelyn yn penderfynu galw am gefnogaeth gwyr y
canolbarth. Yno, yng Nghilmeri ger Llanfair ym Muallt, mae’n cael
ei ladd ar 11 Rhagfyr 1282. Mae’r frwydr yn parhau. Mae Dafydd yn
cymryd y teitl Tywysog Cymru. Mae’n cael ei ddal wrth droed Cadair
Idris ar 25 Ebrill 1283 ac yn cael ei ddienyddio yn Amwythig.
Y Brenin Edward a threfn Cymru
Erbyn 1283 mae’r Gymru a fu dan lywodraeth frodorol bellach o dan
awdurdod y brenin. Nid yw hyn yn wir am y Mers. Yr arglwyddi yno oedd
prif gynghreiriaid y brenin yn y rhyfel ac felly ni ellid cymryd eu
pwer oddi arnynt. Yn wir, mae’n rhaid i Edward wobrwyo ei brif gefnogwyr
drwy roi iddynt arglwyddiaethau newydd yn Ninbych, Rhuthun, Y Waun
a Iâl. Y mae’r rhan fwyaf o’r tiroedd sydd wedi’u gorchfygu yn cael
eu rhannu’n chwe sir - Môn, Caernarfon, Meirionnydd, Ceredigion, Caerfyrddin
a Fflint. Yn 1301 y mae’r siroedd hyn yn cael eu rhoi i etifedd y
brenin, Edward, a aned yng Nghaernarfon yn 1283.
Mae’n cael ei arwisgo’n Dywysog Cymru; felly y mae breuddwyd Llywelyn
o dywysogaeth Gymreig yn parhau fel atodiad i goron Lloegr. Er yn
cael ei rheoli gan frenin Lloegr nid yw Cymru’n dod yn rhan o Loegr,
ac nid yw’r Cymry’n cael eu trin yr un fath â’r Saeson o ran
y gyfraith, trethi a pherchnogaeth tir. Y mae bodolaeth y Dywysogaeth
a’r Mers yn sicrhau arwahanrwydd daearyddol Cymru, ac y mae deddf
y brenin, Statud Rhuddlan, yn sicrhau parhad yr arwahanrwydd ethnig
hefyd.
Tynged y teuluoedd brenhinol Cymreig
Mae merch Llywelyn, Gwenllian, yn cael ei hanfon i leiandy, felly
hefyd Gwladys, merch Dafydd. Mae meibion Dafydd yn treulio gweddill
eu dyddiau mewn carchar. Dim ond un o frodyr Llywelyn, Rhodri, sy’n
goroesi, ac mae e’n dewis byw’n dawel yn Surrey. Y mae gweddillion
Tý Deheubarth yn parhau fel mân dirfeddianwyr. Dyna hefyd hanes
rhai o hen deuluoedd Morgannwg a Phowys Fadog.
|
 |

|