 Cymdeithas
a Gwleidyddiaeth Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar

Cafwyd cynnydd ym mhoblogaeth y trefi
Y boblogaeth a’r economi
Yn 1536 yr oedd tua 278,000 yn byw yng Nghymru. Y mae’r rhif yn codi
i tua 360,000 yn 1620 ac efallai 500,000 erbyn 1750. Y prif resymau
am y cynnydd yw dwysâd mewn setliad gwledig, y cynnydd mewn masnach
am fod bywyd yn fwy sefydlog, a’r amrywiaeth cynyddol yn natur y gweithgarwch
economaidd. Yn ganolog o hyd i’r economi mae magu gwartheg a defaid
a phrosesu eu cynnyrch, er mae gweithfeydd plwm, glo, haearn a llu
o grefftau a galwedigaethau eraill yn cynnig cyfleon economaidd newydd
hefyd.
Rhaniadau dosbarth
Yn yr unfed ganrif ar bymtheg, o leiaf, mae’r boblogaeth yn ôl pob
tebyg, yn cynyddu’n gyflymach na’r economi, ac o ganlyniad mae safonau
byw y bobl yn dioddef. Y mae chwyddiant - mae prisiau’n pedryblu rhwng
1530 a 1640 - yn gwneud y sefyllfa’n waeth.
Y mae nifer y rhai heb dir yn cynyddu wrth i’r uchelwyr ychwanegu
at eu hystâdau. Yn ôl pob tebyg yr oedd tua 30% o’r boblogaeth yn
druenus o dlawd. Maent yn byw mewn hofelau un ystafell, heb na ffenestr
na simnai, ac maent yn gorfod ufuddhau i Statud y Gweithwyr 1563,
sy’n dweud bod y bobl di-eiddo’n hanfodol wasaidd. Oherwydd pryder
y gallai’r sefyllfa greu ansefydlogrwydd pasiwyd Deddf y Tlodion yn
1601; mae’n rhoi’r hawl i awdurdodau’r plwyf godi trethi i gynnal
y tlodion, i drefnu prentisiaeth i blant amddifad ac i gosbi dihirod
segur. Mân ffermwyr a thyddynwyr yw hanner y boblogaeth.
Yn yr ardaloedd mwyaf ffafriol, megis Bro Morgannwg, mae’r tyddynnwr
yn eitha cyfforddus, er yn ystod cyfnodau o newyn megis 1585-7, 1593-7
a 1620-23 mae llawer yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd.
Y mae’r dosbarth proffesiynol, y marsiandwyr, y crefftwyr mwyaf sylweddol
a’r iwmyn yn cynrychioli tua 15% o’r boblogaeth.Y mae pwer y dosbarth
hwn ar gynnydd.
Erbyn
y 18fed ganrif y mae yna ddosbarth canol sylweddol o ddoctoriaid,
cyfreithwyr a swyddogion y llywodraeth, ac mae’r tai maent yn eu codi
yn nodwedd ddeniadol yn nhrefi Cymru. Y mae’r mwyaf llwyddiannus,
ymhlith y cyfreithwyr yn fwyaf arbennig, yn ceisio ymgodi, ac ymuno
â’r 5% sy’n berchnogion tir. Y mae aelod o’r dosbarth uwch yn gallu
dod ymlaen yn y byd mewn nifer o ffyrdd: gall briodi etifeddes, gall
ymgyfoethogi yn rhinwedd ei swydd, drwy gael ffafr frenhinol neu fenter
fasnachol neu - fel smyglwr neu fôr-leidr - trwy anwybyddu’r gyfraith;
fe all dorri calon gwrthwynebydd llai cefnog trwy ddwyn achosion cyfreithiol
yn ei erbyn; gall gymryd eiddo yr eglwys neu’r goron; gall gymryd
tir trwy fygwth. Y mae’r dulliau hyn yn galluogi’r gwyr mawr i ychwanegu
at eu heiddo.
Erbyn y 19eg ganrif y mae ugain o deuluoedd Cymreig yn berchen ar
o leiaf ugain mil o erwau’r un, a bydd y cyfoethocaf ohonynt, y Williams
Wynn o Wynnstay ger Wrecsam, yn berchen ar 150,000 o erwau.
Gwlad a thref
Yn y cyfnod modern cynnar y mae Cymru gyfan yn wledig fwy neu lai.
Er bod yna 54 o ganolfannau sydd â rhywfaint o statws trefol, nid
ydynt ar y cyfan fawr mwy na phentrefi.
Y trefi â’r swyddogaethau llawnaf yw’r prif drefi: Caerfyrddin, Aberhonddu,
Dinbych a Chaernarfon.
Y
dref fwyaf yw Caerfyrddin - tua dwy fil o drigolion yn 1560 a thua
phedair mil yn 1770. O ran maint mae Wrecsam yn weddol agos.
Y mae’r trefi’n tyfu wrth i bobl adael y wlad, a’r mwyafrif ohonynt
yn Gymry. Felly mae’r elfen Seisnig oedd mor nodweddiadol o drefi
Cymru’r Canol Oesoedd yn lleihau. Pobl y trefi, er yn lleiafrif bychan,
yw elfen fwyaf deinamig y wlad. Rhwydwaith o gymunedau lleol, bychain
yw’r ardaloedd gwledig. Mae cyflwr y ffyrdd yn golygu nad yw pobl
yn crwydro ymhell o’u milltir sgwâr. Y mae ofergoeliaeth yn gyffredin,
ac mae gan y bobl lawer o ffydd mewn triniaethau llysieuol a diodydd
hudol, mewn hud a lledrith i ddelio ac ysbrydion drwg, ac mae barbareiddiwch
yn dderbyniol wrth ymdrin â gwrachod.
|
 |

|