
Dywed Cyngor Gwynedd bod rhan o'r llwybr yn ansefydlog iawn
Mae 'na bryder y gallai rhan o Lwybr Arfordir Cymru yn Nefyn gael ei symud oherwydd y bygythiad o dirlithriadau.
Mae Cyngor Tref Nefyn yn poeni y gallai symud y llwybr oherwydd tir ansefydlog rwystro pobl rhag gweld y golygfeydd - mae'r llwybr yn ymestyn uwchlaw'r traeth ac yn edrych dros Borthdinllaen.
Yn ôl un arbenigwr mi fydd rhagor o fygythiadau i lwybrau tebyg ar draws Cymru wrth i newid hinsawdd waethygu yn y dyfodol.
Wrth ymateb fe ddywedodd Cyngor Gwynedd fod adroddiad diweddar wedi dangos fod rhan o'r llwybr yn "ansefydlog iawn" a'u bod yn edrych ar opsiynau i ddatrys y sefyllfa.
Dyma'r foment y digwyddodd tirlithriad ar draeth Nefyn
Mae Cyngor Gwynedd yn gwarchod bron i 200 milltir o lwybr yr arfordir ar draws y sir.
Ers rhai blynyddoedd mae pryderon wedi bod am sefydlogrwydd y tir ac roedd tirlithriad sylweddol ar y traeth yn 2021.
Ond pryder Cyngor Tref Nefyn yw y gallai rhan o'r llwybr sy'n ymestyn o Lôn y Traeth tuag at Benrhyn Nefyn gael ei symud ymhellach tua'r dref oherwydd pryderon am ddiogelwch.
"Y bygythiad ydi fod pobl leol ac ymwelwyr yn mynd i golli un o'r adnoddau pwysicaf sydd ganddo ni," meddai'r Cynghorydd Gruffydd Williams.
"Pan ti'n cerdded rownd llwybr y castell ac yn edrych allan dros y bae, mae'n un o'r tirluniau mwyaf gogoneddus sydd gennym ni yng Nghymru.
"Mae'n hollbwysig bod ni'n cadw'r adnodd yma."

Mae Nefyn wedi profi sawl tirlithriad sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf
'Pwysig ar gyfer busnesau'
Gyda'r llwybr ledled Cymru yn denu ymwelwyr yn ogystal â thrigolion lleol, mae'r cyngor tref yn poeni hefyd am yr effaith posib ar yr economi leol pe bai'r llwybr yn cael ei symud yn ôl gan guddio'r golygfeydd. Â
Yn ôl Mared Llywelyn, cadeirydd y cyngor tref, mae swyddogion wedi bod yn dosbarthu holiaduron i fusnesau lleol i'w holi am eu barn.
"Mae'r holiaduron yn dangos pwysigrwydd y llwybr ar gyfer eu busnesau," meddai.

Mae'r llwybr yn denu pobl i Nefyn, medd Mared Llywelyn sy'n gadeirydd ar y cyngor tref
"Mae'n un o'r elfennau sy'n denu pobl yma ac yn ogystal â hynny mae'n wych ar gyfer lles pobl sy'n byw yma."
Mae un arbenigwr wedi dweud wrth Newyddion S4C y gellid disgwyl rhagor o dirlithriadau a bygythiadau i lwybr yr arfordir ledled Cymru wrth i sgil effeithiau newid hinsawdd ddod i'r amlwg.
"Da ni'n mynd i weld mwy o fygythiadau a mwy o dirlithriadau i'r llwybr," medd Dr Paula Roberts sy'n darlithio mewn Rheolaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor.

Gellir disgwyl rhagor o dirlithriadau, medd Dr Paula Roberts o Brifysgol Bangor
"Pan mae 'na fwy o ddŵr yn y system, mwy o egni - mae'r gronynnau yn dueddol o fethu a nodwedd ddaearegol tu hwnt i ddylanwad dyn ydi hwnnw.
"Yn y bôn, newid hinsawdd sy'n rhannol gyfrifol - mae tirlithriadau wedi digwydd yn hanesyddol yna."
Ychwanegodd Dr Roberts fod y bygythiadau yn her enfawr i awdurdodau lleol gan fod diogelu'r arfordir yma yn gostus ac o bosib ddim ond yn ateb tymor byr neu ganolig.
Gobaith Cyngor Tref Nefyn ydi gwneud cais am bres drwy gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU i ddiogelu'r tir a chadw'r llwybr lle mae o ar hyn o bryd.
'Dim bwriad cau'
Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd mai'r flaenoriaeth yw "cadw cerddwyr a chymunedau lleol yn ddiogel".
"Rydym yn gwerthfawrogi fod llwybr Penrallt Nefyn yn adnodd pwysig a phoblogaidd ac rydym yn pwysleisio ei fod yn parhau i fod ar agor ac nad oes bwriad i'w gau.
"Mae nifer o dirlithriadau wedi bod yn ardal Nefyn a Morfa Nefyn yn ddiweddar.
"Yn anffodus realiti'r sefyllfa ydi ein bod ni'n debygol o weld mwy o ddigwyddiadau o'r fath wrth i lefel y môr godi ac wrth inni brofi mwy o dywydd eithafol oherwydd newid hinsawdd."

Mae Cyngor Gwynedd yn pwysleisio bod y llwybr yn parhau ar agor ac nad oes bwriad i'w gau
Ychwanegodd llefarydd fod "adroddiadau peirianyddol diweddar wedi datgelu fod y rhan o lwybr Penrallt yn ansefydlog iawn"."Rydym wedi bod yn edrych ar yr opsiynau posib i ddatrys hyn - opsiynau a fyddai'n parhau i ganiatáu mynediad i lwybr yr arfordir yn y tymor hir."Rydym wedi bod yn trafod gyda Chyngor Tref Nefyn ac yn parhau i fonitro'r sefyllfa." Â
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2021

- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2021

- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2021
