Newid hinsawdd: Antarctica 'fel ffenest mewn i'r dyfodol'

  • Cyhoeddwyd
Huw GriffithsFfynhonnell y llun, Huw Griffiths - UKRI BAS
Disgrifiad o’r llun,

Y biolegydd morol o Geredigion, Huw Griffiths

GanGuto Rhys Huws
BBC Cymru Fyw

Ers i'r biolegydd morol, Huw Griffiths, ddechrau gweithio yn Antarctica 22 mlynedd yn ôl mae dau ddarn anferth maint dwy wlad fach o'r rhewlif a "fyddai wedi bod yno ers miloedd o flynyddoedd" wedi diflannu.

Ers iddo adael ei gartref, sy'n eistedd ar glogwyn yn Llanon ym Mae Ceredigion, i fentro i fyd gwaith yn berson ifanc mae hanner y graig o dan dŷ ei fam yn anweledig gan fod lefel y môr yn codi.

Mae gweithio yn Antarctica "fel ffenest mewn i'r dyfodol" meddai Huw Griffiths, 46, sy'n gweithio i'r British Antarctic Survey ac wedi cynghori ar gyfresi Frozen Planet ll a Planet Earth ll.

"Mae tŷ fy mam un cae i ffwrdd o'r môr. Dyw e ddim am ddisgyn mewn i'r môr eto, ond mae mor agos i'r môr a gall e fod."

'Newid hinsawdd yn fygythiad enfawr'

Swydd Huw Griffiths ydi darganfod ac astudio creaduriaid ar waelod y môr yn Antarctica ac astudio effaith newid hinsawdd, pobl a llygredd ar ecosystem y rhan yma o'r byd.

"Mae gennym ni enwau i tua 8,000 o rywogaethau gwahanol ac wrth ystyried y cyflymder rydyn ni'n eu darganfod nhw, rydyn ni'n credu bod yna rhywle rhwng 17,000 a 20,000 o rywogaethau gwahanol o dan y dŵr, felly dydyn ni ddim ond yn gwybod am lai na'u hanner," meddai Huw.

Yr olygfa o Orsaf Ymchwil RotheraFfynhonnell y llun, Huw Griffiths - UKRI BAS
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa o Orsaf Ymchwil Rothera yn Antartica

"Mae'n rhaid mynd yn ddyfnach ac yn ddyfnach i ddarganfod y rhai newydd. Mae wastad rhywbeth newydd amdanyn nhw."

Mae Antarctica'r un maint ag Ewrop ac mae'r amrywiaeth anferth o greaduriaid sydd yn byw yno yn rhai sydd wedi bod yn byw yn llwyddiannus yno ers oes y deinosoriaid.

"Mae'r ardal yma yn rhy oer i ysglyfaethwyr modern, fel crancod a siarcod ac yn y blaen," esbonia Huw. Ond nid ysglyfaethwyr y môr sydd yn peri'r peryg mwyaf i'r creaduriaid mae Huw yn eu hastudio, ond y ffordd rydyn ni'n byw fel pobl.

"Mae newid hinsawdd yn fygythiad enfawr oherwydd rydyn ni'n gweld bygythiad mawr i bethau sydd wedi arfer bod yn oer iawn wrth i ddŵr gynhesu."

Rhai o'r anifeiliaid mae Huw Griffiths wedi eu darganfodFfynhonnell y llun, Huw Griffiths - UKRI BAS
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r anifeiliaid mae Huw Griffiths wedi eu darganfod

'Chwarae gyda dy ben di'

Nid ar chwarae bach mae archwilwyr fel Huw yn mynd lawr i Antarctica i dreulio cyfnodau yn astudio. Ar gyfer taith ym mis Chwefror mi fyddai'r biolegydd wedi pacio ei fag ym mis Medi gan fod gymaint o waith paratoi i wneud. Yna unwaith mae rhywun yno, mae'n fyd hollol wahanol.

"Ers talwm mi fyddai pobl yn mynd lawr yno am bump i chwe blynedd. Byddai hynny yn chwarae gyda dy ben di - roedd pobl yn dod yn ôl a byddai pethau wedi newid yn y byd. Ti'n byw mewn lle anial lle dim ond ti sydd yno gyda dy waith a dy stwff.

"Dwyt ti ddim angen cerdyn credyd, dwyt ti ddim angen poeni am ddiogelwch os wyt ti'n gadael eiddo yn rhywle. Mae'n fybl od o ddiogelwch llwyr pan rwyt ti lawr yno.

Huw yng ngorsaf ymchwil Rothera yn AntarticaFfynhonnell y llun, Huw Griffiths - UKRI BAS
Disgrifiad o’r llun,

Huw yng ngorsaf ymchwil Rothera

"Munud rwyt ti yn y bybl yno mae'n fyd hollol wahanol ac yn aml mae'n anodd i bobl ddychwelyd i'r byd go iawn."

Ac yntau wedi bod yn gwneud y daith yno yn rheolaidd am 22 mlynedd, fel arfer am gyfnodau o chwe mis, mae Huw wedi gweld newidiadau pryderus yn sgil newid hinsawdd mewn cyfnod reit fyr.

"Mae'n anodd gweld y newidiadau pan ti yno," meddai Huw. "Mae 'na fwy o ddiwrnodau gwlyb, gyda glaw yn hytrach nag eira.

"Pan rydyn ni'n mynd i'r orsaf rydyn ni yn gweld fod y rhew yn cilio. Pan ti'n cymharu â lluniau o 10 mlynedd yn ôl yn unig, ti'n gallu gweld y gwahaniaeth. Rwyt ti yn gallu gweld ar y peninsula bod dros 80% o'r glaciers yn toddi.

Mynyddoedd iâFfynhonnell y llun, Huw Griffiths - UKRI BAS
Disgrifiad o’r llun,

Mynyddoedd iâ

"Mae'n eithaf brawychus. Mae tymheredd yn codi ac yn achosi i'r rhewlifoedd gracio. Ers i fi ddechrau fy swydd mae dau ddarn wedi diflannu oddi ar ddiwedd y peninsula, rhai fyddai wedi bod yno am filoedd o flynyddoedd.

"I roi pethau mewn persbectif, mae Antarctica yn un faint ag Ewrop, ac mae'r rhain fel maint dwy wlad fach. Pan ti'n rhoi'r rhai sydd wedi diflannu i gyd at ei gilydd - mi fydda fe maint De Affrica, 1.5 miliwn cilomedr sgwâr."

Morloi FfwrFfynhonnell y llun, Huw Griffiths - UKRI BAS
Disgrifiad o’r llun,

Mae anifeiliaid fel y Morloi Ffwr yma mewn perryg anferth yn Antarctica oherwydd newid hinsawdd

'Mae'n rhaid atal y cynnydd yn lefel y môr'

Mae Huw yn cydnabod nad yw'n dasg hawdd i ddarbwyllo pobl pa mor enfawr yw problem newid hinsawdd. Ond ag yntau wedi gweithio fel cynghorydd gwyddonol gyda BBC Earth ar Frozen Planet ll a Blue Planet ll, mae'n sicr fod ffynonellau fel addysg ac adloniant yn allweddol er mwyn sicrhau fod y neges yn cyrraedd.

"Roedd gweld rhewlifoedd yn toddi yn Frozen Planet ll yn ffordd dda o ddangos oherwydd mi gafodd o ei roi fel trosiad yn dda - bod darnau yn torri i ffwrdd, sy'n golygu ein bod ni yn 'torri'r' byd.

"Mae rhaglenni fel hyn yn dda oherwydd mae'n gwneud y byd yma ar gael i bawb. Dydi pobl ddim yn casáu gwyddoniaeth… dwi'n meddwl bod 'na deimlad bod pobl yn teimlo bod gwyddoniaeth i geeks. Ond dydy hyn ddim yn wir.

Morloi 'Crabeater'Ffynhonnell y llun, Huw Griffiths - UKRI BAS
Disgrifiad o’r llun,

Morloi 'Crabeater'

"Mae'n ffordd hawdd o gael y cyhoedd i fod â diddordeb mewn natur ac mae cael rhywun fel David Attenborough yn gwneud hyn yn wych oherwydd mae'n cael ymateb emosiynol gwylwyr."

Mae Huw yn un o 200 o bobl o 17 gwlad sydd yn rhan o brosiect Marine Ecosystem Assessment of the Southern Ocean sy'n edrych ar effaith newid hinsawdd ar anifeiliaid ac ecosystem y rhan yna o'r byd. Mae'n cyfaddef nad yw darbwyllo gwleidyddion a deddfwriaethwyr yn dasg hawdd chwaith.

Pengwiniaid yn AntarticaFfynhonnell y llun, Huw Griffiths - UKRI BAS
Disgrifiad o’r llun,

Pengwiniaid

Yng nghynhadledd COP27 2022 rhoddwyd yr adroddiad o flaen y bobl sydd mewn pŵer ac wrth wneud hynny roedd rhaid bod yn ofalus o ran sut mae'r wybodaeth yn cael ei roi, fel mae Huw yn ei ddweud:

"Mae'n bwysig wrth wneud hyn i beidio gorlwytho nhw gyda gwybodaeth - mae o ynglŷn â bod yn y lle iawn gyda'r gynulleidfa iawn a rhannu'r negeseuon pwysig.

"Mae'n bwysig rhoi syniad iddyn nhw o be allen nhw wneud am y peth. Er nad wyt ti yn gallu cynnig datrysiad llawn, rwyt ti yn gallu rhoi syniad.

"O ran Antarctica, y broblem sydd yn achosi'r mwyaf o niwed yno yw allyriadau carbon deuocsid. Os wyt ti eisiau i'r byd fod yn saff mae'n rhaid atal y cynnydd yn lefel y môr yn yr Antarctica."

Huw yn gweithio ar y llong 'Boaty Mcboatface'Ffynhonnell y llun, Huw Griffiths - UKRI BAS
Disgrifiad o’r llun,

Huw yn hel creaduriaid newydd o waelod y môr ar y llong ymchwil

'Estyniad o'r plentyn ar y traeth'

Taniodd diddordeb Huw ym maes bioleg morol dim ond dafliad carreg o'i dŷ ar draeth Llanon ble byddai'n crwydro i ddarganfod crancod, pysgod a gwymon yn y pyllau yn nyddiau ei blentyndod.

"Rwyf wastad wedi bod â diddordeb mewn pethau fyddai'n gwneud pobl eraill yn sâl," meddai. "Fel cranc, neu rywbeth slimy, sydd heb lygaid neu efo lot o lygaid, neu heb goesau neu gyda lot o goesau!

Ser brauFfynhonnell y llun, Huw Griffiths - UKRI BAS
Disgrifiad o’r llun,

Sêr brau o waelod y môr

"Erbyn ro'n i'n tua chwech oed roeddwn yn gallu dweud lle mae modd darganfod mathau penodol o anifeiliaid ar y traeth, fel crancod.

"Mae'n od oherwydd dyma yw fy swydd, a fi dal i wneud yr union yr un peth ond mewn amgylchedd llawer mwy extreme, gydag offer mwy, a budget mwy. Dyna, am wn i, yw'r gwahaniaeth mwyaf.

"Mae'r cyffro o weld pethau doeddet ti byth yn gwybod oedd yn bodoli, neu does neb arall wedi gweld yn estyniad o'r plentyn 'na ar y traeth, yn darganfod neidr neu granc newydd ti heb weld o'r blaen."

Huw GriffithsFfynhonnell y llun, Huw Griffiths - UKRI BAS
Disgrifiad o’r llun,

Mae Huw wedi cael dau o'i ddarganfyddiadau wedi eu enwi ar ei ôl

'Mae hyn wedyn ynglŷn â phobl, bywydau pobl'

"Mae'n fyd gwahanol. Weithiau mae'n rhaid i fi binsio fy hun i sylweddoli bod y lle yn real," meddai Huw gyda darlun o Antarctica yn ei ben.

Ond er fod swrealaeth yr hyn mae'n ei brofi ym mhen pella'r byd yn Antartica yn anodd ei gredu, mae realaeth y peth yn llawer agosach at adref na fyddai'r biolegydd erioed wedi dychmygu.

"Dwi yn poeni am y peth. Bob tro mae ein timau yn edrych ar rywbeth rydyn ni yn darganfod mwy o dystiolaeth o'r niwed mae newid hinsawdd yn cael.

Ice shelfFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Antarctica yn dadmer ar gyfartaledd o 150 biliwn tunnell y flwyddyn yn ôl NASA

"Pan ti'n gweld y newidiadau eithafol yn Antarctica mae'n ffenest mewn i be sydd yn mynd i ddigwydd yn y dyfodol. Un diwrnod mae darn enfawr o rew yno a'r diwrnod nesaf mae wedi diflannu ac mae'n mynd i achosi i lefel y môr godi.

"Os rwyt ti yn edrych ar y newid yn lefel y môr ac yn cyflymu hwnna, faint o amser sydd tan mae tŷ fy mam ar ymyl y dibyn? A beth am ei chymdogion hi sydd yn agosach at y môr?

"Mae hyn wedyn ynglŷn â phobl, bywydau pobl."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig