Digwyddiadau Mas ar y Maes wedi 'denu atgasedd a sylwadau sarhaus'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Paned o GĂȘ
Disgrifiad o’r llun,

Mae digwyddiadau Mas ar y Maes wedi bod yn rhan o'r Eisteddfod Genedlaethol ers Prifwyl Caerdydd yn 2018

Mae Mas ar y Maes, sy'n cynnal a hyrwyddo digwyddiadau LHDTC+ yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn dweud fod rhai o'r digwyddiadau eleni wedi "denu atgasedd a sylwadau sarhaus".

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd yr Ɣyl fod "brwdfrydedd, egni a sylwadau cadarnhaol" mwyafrif y bobl fu'n mynychu'r digwyddiadau yn ystod yr wythnos wedi bod yn destun balchder mawr i'r trefnwyr.

Ond aeth ymlaen i ddweud ei bod yn "dorcalonnus" fod rhai digwyddiadau wedi denu sylwadau negyddol.

Ychwanegodd fod hynny yn "ein hatgoffa o bwysigrwydd bodolaeth Mas ar y Maes".

Mae digwyddiadau Mas ar y Maes wedi bod yn rhan o'r Eisteddfod Genedlaethol ers Prifwyl Caerdydd yn 2018.

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan Mas ar y Maes

CaniatĂĄu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatñd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan Mas ar y Maes

"Diolch i'r cannoedd ohonoch sydd wedi heidio draw i ddigwyddiadau #MasArYMaes yn Eisteddfod Ceredigion eleni," meddai datganiad Mas ar y Maes, sydd wedi cael ei ail-drydar gan gyfrif yr Eisteddfod.

"Mae'ch brwdfrydedd, egni a'ch sylwadau cadarnhaol yn llenwi'r partneriaid a'r trefnwyr Ăą balchder.

"Serch yr holl bositifrwydd, mae'n dorcalonnus bod rhai o'n digwyddiadau wedi denu atgasedd a sylwadau sarhaus.

"Mae'n holl bartneriaid, perfformwyr a chyfranwyr yn gwbl glir - nid oes croeso i gasineb ar faes yr Eisteddfod, na chwaith wrth ymateb i'n cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Mae targedu perfformwyr, rhai ohonynt sy'n bobl ifanc, yn llwyr annerbyniol.

"Er lleiafrif yw'r ymatebion negyddol, mae'n ein hatgoffa o bwysigrwydd bodolaeth Mas ar y Maes a'r frwydr o waredu casineb sydd yn parhau."

CabarelaFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Ymysg digwyddiadau Mas ar y Maes eleni oedd perfformiad Cabarela ar lwyfan y Pafiliwn nos Fawrth

Ddydd Mercher fe wnaeth yr Eisteddfod rannu lluniau ar Twitter o sesiwn Amser Stori Drag yn y Pentref Plant.

Fe wnaeth y lluniau hynny ddenu sylwadau negyddol gan sawl person a oedd yn dweud fod y sesiwn yn anaddas i blant - sylwadau sydd bellach wedi'u cuddio gan yr Eisteddfod.

Diwrnod yn ddiweddarach, mewn ymateb i'r post gwreiddiol, dywedodd yr Eisteddfod ar Twitter: "Diolch i bawb sydd wedi cefnogi'r sesiwn hon.

"Rydyn ni'n ymroddedig i ddathlu amrywiaeth o bob math ar bob un o'n llwyfannau gan gynnwys y Pentref Plant."

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X 2 gan eisteddfod

CaniatĂĄu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatñd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X 2 gan eisteddfod

Yn gynharach yn yr wythnos dywedodd Iestyn Wyn o Stonewall Cymru fod Cymry yn "licio meddwl" eu bod nhw'n gynhwysol tuag at bobl LHDTC+, ond bod "dal ffordd i fynd" i sicrhau bod pobl o fewn y gymuned yn gyfforddus yn mynegi eu hunain.

"Mae pethau'n gwella'n bendant, ond mae dal ffordd i fynd," meddai.

Pynciau cysylltiedig