
Dyw Caerdydd heb ennill yn eu 10 gêm ddiwethaf bellach, wedi iddyn nhw gael eu trechu gan Queens Park Rangers yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fercher.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi 37 munud, gydag Andre Gray yn rhwydo yn dilyn pas dda gan Andre Dozzell.
Gyda chwarter awr yn weddill bu bron i bethau fynd o ddrwg i waeth i Gaerdydd, wrth i'r capten Sean Morrison rwystro ergyd Lyndon Dykes ar y llinell gôl i'w atal rhag dyblu'r fantais.
Er hynny roedd QPR eisoes wedi gwneud digon i selio'r triphwynt, a hynny yn ail gêm y rheolwr dros dro, Steve Morison wrth y llyw.
Er iddo gael gêm gyfartal yn erbyn Stoke dros y penwythnos - gan ddod â rhediad o wyth colled yn olynol i ben - mae'r canlyniad yn golygu nad ydy Caerdydd wedi ennill gêm ers 12 Medi.
Mae'r Adar Gleision yn aros yn y 21ain safle yn y Bencampwriaeth - un pwynt ac un safle yn unig yn uwch na safleoedd y cwymp.