
Mae dyn 63 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad un cerbyd ger Llannerchymedd, Ynys Môn prynhawn Mercher.
Roedd John Owen yn ffermwr lleol ac yn teithio mewn Isuzu Rodeo du, a bu farw yn y fan a'r lle yn dilyn y gwrthdrawiad ar Lon Leidr yn Llandyfrydog.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r lleoliad yn fuan ar ôl 17:00 ac er gwaethaf eu hymdrechion gorau, nid oedd modd achub ei fywyd.
Cafodd y ffordd ei chau er mwyn caniatáu i dîm fforensig yr heddlu gynnal ymchwiliad trylwyr i amgylchiadau'r digwyddiad.
Ail-agorwyd y ffordd yn fuan ar ôl 21:00 nos Fercher.
Dywedodd y Sarjant Raymond Williams o'r Uned Plismona Ffyrdd: "Mae marwolaeth sydyn ac annisgwyl yn dilyn gwrthdrawiad ffordd bob amser yn sioc ac rwy'n estyn fy nghydymdeimlad â theulu Mr Owen ar yr adeg anodd hon.
"Rwy'n apelio ar unrhyw un a oedd yn teithio yn ardal Llandyfrydog ar y pryd a welodd y gwrthdrawiad neu allai fod â lluniau dash cam sy'n dangos yr Isuzu Rodeo du cyn y gwrthdrawiad i gysylltu trwy ffonio 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 21000526628."