'Dydy cael plant heb stopio fy anturiaethau awyr agored'

Ceri Norton-Jones a GruffFfynhonnell y llun, Ceri Norton-Jones
GanLlio Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae bod allan yn yr awyr agored yn y mynyddoedd yn rhywbeth mae Ceri Norton-Jones wastad wedi mwynhau ei wneud.

Ar ôl cyfnod yn teithio o amgylch y byd, a byw dramor mewn lleoedd fel Nepal, De America a Seland Newydd, dychwelodd yr athrawes o Ruthun i Gymru am gyfnod, yn llawn bwriadu mynd yn ôl i deithio.

Ond digwyddodd rhywbeth a newidiodd ei chynlluniau, meddai; syrthiodd mewn cariad gyda Chymru a mynyddoedd Eryri eto.

Gai a CeriFfynhonnell y llun, Ceri Norton-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Daeth gweithgareddau awyr agored â Gai a Ceri at ei gilydd - maen nhw nawr eisiau pasio'r un diddordeb ymlaen i'w meibion

Ar ôl cyfarfod ei gŵr, Gai, roedd dêts y ddau yn golygu cerdded i fyny mynydd a gwersylla gyda'r machlud.

Felly roedd hi'n gwneud synnwyr i'r ddau eu bod am fagu eu meibion – Gruff sy'n ddwy a Wilff sy'n dri mis oed – i fwynhau anturiaethau yn yr awyr agored hefyd.

"Oedden ni o hyd yn siarad, 'ti'n meddwl unwaith 'da ni'n cael plant, fyddwn ni'n gallu gneud hyn? Campio yn y mynyddoedd efo babi?'

"O'n i reit benderfynol yn meddwl 'dwi'm yn dallt pam lai'. Ti'm isho colli pwy wyt ti.

"Cyn i ni gael plant, o'dd pawb yn deud 'enjoy it while it lasts, achos 'neith o i gyd newid'.

"O'dd hwnna'n poeni fi, y basa popeth dwi'n joio'i 'neud yn gorfod stopio. O'dd bywyd ni yn lyfli cyn cael plant, so pam newid o?

"Dydi o heb – dwi'n gallu ei 'neud o i gyd efo nhw, dwi jyst yn gorfod eu cario nhw!

Ceri a'r teuluFfynhonnell y llun, Ceri Norton-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r teulu yn mwynhau'r awyr iach mewn lleoliadau hardd

'Teimlo fel fi fy hun'

Mae Ceri a'i theulu'n mynd am dro ledled gogledd Cymru yn rheolaidd, a'r nod yw mynd allan i'r awyr iach a chrwydro lleoliadau prydferth Cymru.

Roedd Ceri wastad wedi rhannu lluniau ohoni'n cerdded mynyddoedd, cadw'n ffit a chwblhau triathlons ar ei chyfrif Instagram. Mae'r cynnwys dal yn dangos yr un pethau, eglura, dim ond fod yna ddau berson bach yn ymuno gyda hi bellach!

 ffitrwydd a chrwydro'n yr awyr agored wastad wedi bod yn bwysig i Ceri, roedd yn benderfynol fod hyn am barhau i fod yn rhan o'i bywyd hi, hyd yn oed pan oedd hi'n feichiog.

"Dwi wastad wedi bod wrth fy modd efo ffitrwydd, teimlo'n iach, teimlo'n dda. Dywedodd y midwife yn y check cynta', os ti wedi bod yn neud o, i gario 'mlaen. Felly 'nes i.

Ceri a GruffFfynhonnell y llun, Ceri Norton-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Ar gopa Foel Fenlli gyda Gruff, ychydig wythnosau cyn genedigaeth Wilff

"Dwi'n meddwl fod o 'di helpu efo'r recovery, i nghael i nôl ar fy nhraed yn gynt, a nhelpu fi i deimlo fel fi fy hun eto.

"Ges i C. Section efo Gruff, ac o'dd hi tua pedair wythnos cyn teimlo fel o'n i'n gallu cerdded yn iawn eto, ac o'dd hwnna'n amser rili frustrating. Ond dwi'n meddwl ar ôl hynny o'n i'n fwy penderfynol i gario 'mlaen fel o'n i.

"'Nes i redeg 5k ar due date fi efo Wilff – erbyn diwedd o'n i'n trio gwneud be' bynnag o'n i'n gallu i'w gael o allan! Diwrnodau ar ôl ei eni o, oedden ni allan yn cerdded, a 'di mynd lawr i Niwbwrch i gael diwrnod ar y traeth."

Gruff, Ceri a WilffFfynhonnell y llun, Ceri Norton-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Taith i'r traeth am y tro cyntaf, a Wilff ychydig ddyddiau oed

Y babell, y bwyd... a'r clytiau

Dydy anturiaethau Ceri a Gai o bosib ddim cweit mor eithafol ag oedden nhw cyn y plant, wrth gwrs, a natur y dyddiau allan teuluol yn cerdded wedi newid rhyw fymryn.

"O'r blaen fasa ni 'di mynd i fyny'r Wyddfa neu'r Garn yn Eryri wrth i'r haul fachlud – 'dan ni ddim yn gneud hynny rŵan! Rŵan 'da ni'n mynd rownd Cwm Idwal, neu am dro yn fwy lleol fel Wepre Park.

"Pellteroedd llai, yr amseroedd tu allan yn fyrrach, gorfod cario mwy, a gorfod meddwl am fwyd a rest, a beth 'san nhw'n mwynhau ei wneud. Mae Gruff yn licio chwarae efo dŵr, felly 'da ni'n trio meddwl am fynd i afonydd neu lynnoedd. Ond jest trio bod tu allan sy'n bwysig.

"Gobeithio y byddan nhw'n tyfu i fyny i garu Cymru a'r llefydd prydferth 'da ni'n mynd â nhw iddyn nhw."

Ceri a WilffFfynhonnell y llun, Ceri Norton-Jones

Diolch byth, mae Gruff yn dechrau cerdded mwy bellach, achos mae cario'r ddau a'r holl offer angenrheidiol eithaf anodd, meddai!

"Blwyddyn dwytha, o'dd Gruff jyst di troi'n un, ac odd gan Gai Gruff ar ei gefn, y pethau campio ar ei ffrynt, ac o'n i'n cario bag arall o bethau campio – achos ma 'na lot i fynd, fel clytiau, wipes, snacs, dŵr.

"Ond 'nath o gysgu'n dda, a ni'n cael ista tu allan yn mwynhau'r machlud – o'dd o'n lyfli. Ac o'dd o'n anhygoel i ddeffro a gweld y wawr a'r mynyddoedd.

TeuluFfynhonnell y llun, Ceri Norton-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r teulu o bedwar wedi bod am wyliau gwersylla byr yn agos at adref - yr her nawr yw i fynd am un pellach, gyda'r holl gêr!

"Y plan rŵan ydy trio'i 'neud o efo'r ddau ohonyn nhw. Mae 'na spot 'da ni isho campio ynddo. Mae o rhyw 1.5km ac efo cario petha' campio... 'da ni'n trio buildio'n hunain fyny rŵan i'w 'neud.

"Os fasa Gruff yn gallu cerdded dipyn bach, a bod ni'n gallu cario'r pethau campio, a bod fi'n cario Wilff, dwi'n meddwl fydd o'n bosib – dyna ydy'r gôl haf yma, i drio campio yn y mynyddoedd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb