Pryd fydd clybiau Cymru'n wynebu ei gilydd tymor nesaf?

O'r chwith i'r dde rheolwr Caerdydd Brian Barry Murphy, rheolwr Wrecsam Phil Parkinson, rheolwr Abertawe Vitor Matos a Christian Fuchs, rheolwr Casnewydd.
Disgrifiad o’r llun,

Mae rheolwyr Caerdydd, Wrecsam, Abertawe a Chasnewydd yn gwybod cyfres y gemau ar gyfer tymor nesa

GanCarl Roberts
Gohebydd chwaraeon BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Gyda Cwpan y Byd yn hawlio penawdau a dominyddu'r sianeli teledu mae'n annodd troi sylw at y tymor pêl droed newydd - tan heddiw efallai.

Mae'r gemau ar gyfer tymor newydd yr EFL wedi cael eu cyhoeddi a bydd Caerdydd yn croesawu Wrecsam i'r brifddinas ar gyfer gêm agoriadol y tymor.

Bydd tri tîm o Gymru yn y Bencampwriaeth ar gyfer tymor 2026/27 - Wrecsam, Abertawe a Chaerdydd, a hynny am y tro cynta ers tymor 1980/81.

Oherwydd hynny bydd chwe gêm ddarbi y tymor nesa - tair gêm cyn y Nadolig a'r gweddill yn y flwyddyn newydd.

Daw cyfle cynnar yn y tymor i Wrecsam allu dial ar Gaerdydd am eu curo nhw yng Nghwpan yr EFL tymor diwetha.

"Mae rivalry Cymreig i gychwyn ein hail dymor yn y bencampwriaeth yn ffordd ardderchog o gychwyn yr ymgyrch ac rydym yn edrych ymlaen at weld ein holl gefnogwyr gwych yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Awst 17," meddai rheolwr Wrecsam Phil Parkinson.

Gemau darbi Gymreig y Bencampwriaeth tymor nesa

17/8/26 Caerdydd v Wrecsam

5/9/26 Abertawe v Wrecsam

28/11/26 Abertawe v Caerdydd

6/3/27 Wrecsam v Caerdydd

13/3/27 Caerdydd v Abertawe

10/4/27 Wrecsam v Abertawe

Gemau'r Nadolig

Tu hwnt i'r gemau darbi, mae'r cefnogwyr yn awyddus i wybod ble fydd eu timau yn chwarae dros y Nadolig.

Ar ŵyl San Steffan mae Caerdydd yn chwarae gartref yn erbyn Millwall tra bydd Wrecsam yn teithio 40 milltir o'r Stok Cae Ras i gae Stoke City, Stadiwm Bet 365.

Yng nghanolbarth Lloegr bydd Abertawe hefyd, a siwrne o tua 150 o filltiroedd i wynebu Wolves.

Blwyddyn newydd dda?

Mae gemau dydd Calan yn draddodiad pêl-droed ac mi fydd hi'n flwyddyn newydd dda o ran teithio i gefnogwyr Abertawe a Wrecsam.

Charlton Athletic sy'n ymweld â Stadiwm Swansea.com ar ddiwrnod cyntaf 2027 a Bolton Wanderers sy'n teithio i wynebu Wrecsam.

Ond bydd cefnogwyr Caerdydd ar y bws yn gynnar ar gyfer y daith o 135 o filltiroedd i Southampton.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.