Esyllt Sears: 'Falch i roi llais i famau sengl'

- Cyhoeddwyd
"Dwi'n credu bod fi'n rhiant gwell achos bod fi ddim gyda'r plant drwy'r amser."
O addasu i beidio byw gyda'r plant llawn amser i ddelio gyda defnydd plant o dechnoleg, mae'r comedïwr Esyllt Sears yn rhannu ei phrofiadau fel mam sengl mewn podlediad newydd - Speaking As A Mother.
Bu Esyllt yn trafod ei newid byd a'r pynciau sy'n cael eu trafod ar y pod gyda Cymru Fyw.
Meddai am y podlediad mae hi'n ei gyflwyno gyda'r comedïwr Robin Morgan o Gaerdydd: "Roedd y ddau o ni ishe neud podcast gyda'n gilydd a does 'na ddim podcast comedi yng Nghymru le mae rhieni yn siarad am fagu plant.
"Mae'r deinamig sy' gyda ni bach yn wahanol. Fel arfer mewn podcast mae naill ai 'da ti cwpl sy' gyda'u gilydd yn barod neu dau berson o'r un rhyw – be' sy'n wahanol 'da ni yw bod ni'n ddyn a menyw sy' ddim gyda'i gilydd.
"Ac mae sefyllfa'r ddau berson yn wahanol. Mae Robin yn briod a gyda'r plant trwy'r amser a dwi wedi gwahanu a'n rhannu'r amser gyda'r plant.
"Yn draddodiadol y ffordd arall rownd fydde fe - mai y fenyw fyddai 'da'r plant drwy'r amser."

Esyllt a Robin Morgan
Newid byd
Mae Esyllt, sy'n fam i ddau o blant, yn siarad ar y pod am y newid byd sy'n digwydd wrth rannu'r gofal gyda'i chyn-ŵr: "Oedd e'n gyfnod o addasu achos ti'n mynd o fod 'mae'r plant 'da ti trwyr amser' ac yn sydyn dyw nhw ddim a ti'n gorfod ailasesu, yn enwedig fel mam achos ti'n colli dy hun rhyw faint yn y plant.
"Er bod pethe wedi newid lot, yn anochel, fel y rhan fwyaf o famau, ti'n teimlo mai ti sy'n cario mwy o'r baich emosiynol. Oedd hwn yn gyfnod o addasu mawr ac yn sydyn ti'n meddwl 'beth yw rôl fi nawr?'
"Dwi'n cael amser nawr i weithio a gweld ffrindiau – pan mae'r plant gyda fi dwi'n gallu rhoi'r holl amser iddyn nhw a chanolbwyntio arnyn nhw yn llwyr.
"Dwi'n cofio pan oedden nhw'n rili fach ti'n breuddwydio am gael diwrnod i dy unan. Ond dyw e ddim yn hawdd, ti'n gweld ishe nhw a'n teimlo fe'n rhyfedd weithiau.
"Ti byth yn stopio meddwl amdanyn nhw a beth mae nhw angen."
Rhoi llais i famau sengl
Wrth drafod ei sefyllfa a'r heriau sy'n codi fel mam sengl ar y podlediad - mae Esyllt wedi cael ymateb da gan rieni sengl eraill, meddai: "'Nes i sôn am wylie ysgol pan ti ar ben dy hunan a pha mor anodd yw e pan ti'n riant sengl. Mae'n anodd pan ti gyda'r plant yn y gwyliau ond mae hefyd yn anodd pan dyw'r plant ddim gyda ti.
"Yn sydyn ti'n teimlo'n unig ac mae pawb ar wyliau gyda'u plant eu hunain. Mae'n gallu neud i ti deimlo'n ynysig. Ar ôl rhannu hynny ges i lot o negeseuon gan bobl yn dweud bod nhw'n teimlo fel na, a heb glywed unrhywun yn siarad amdano o'r blaen.
"Mae'r pethau 'na'n rili neis achos ti jest yn siarad am dy fywyd – ti ddim yn neud e achos bod ti'n gobeithio bod e'n mynd i helpu pobl eraill. Ond pan mae fe yn helpu ac maen nhw'n gallu uniaethu gyda rhywun dwi'n falch mod i wedi siarad amdano.
"Ti wastad yn dysgu fel rhiant – tin gorfod addasu gyda'r plant. Fel rhiant sengl dwi'n credu mewn jest mynd gyda dy reddf a gwybod bod ti'n neud job iawn.
"Dyw'r ffaith bod ti ar ben dy hunan ddim yn golygu bod ti'n neud job gwaeth.
"Dwi'n gobeithio bod 'na rhywbeth i bawb yn y pod o ran sefyllfa magu plant."
Yn ogystal â pherfformio standyp mae Esyllt yn cyflwyno ac yn sgriptio rhaglenni radio a theledu gan gynnwys Gareth Gwynn and Esyllt's Scrapbook a The News Quiz.
Yn y podlediad mae hi a Robin yn trafod pynciau difrifol fel defnydd blant o dechnoleg a thracio lleoliad y plant ond gyda hiwmor, yn ôl Esyllt: "Dwi ddim yn rhiant sy' byth wedi poeni loads am y plant.
"Mae pethe yn codi fel defnydd ffôns – ond mae na ffyrdd o gwmpas y pethau yma.
"Mae'n anodd i bob rhiant – mae gymaint o sialensau dyddie 'ma 'nath rhieni ni byth gorfod ddelio gyda.
"Mae popeth mor rhyngwladol nawr, ti ddim jest yn byw yn dy filltir sgwar. Mae'r plant yn cael eu exposeio i gymaint o bethau a ti'n gorfod dal lan gyda popeth.
"Y ffôn, technoleg ac AI – dwi'n poeni fwya' am y plant yn tyfu lan a methu meddwl dros eu hunain a llunio barn eu hunain.
"Dwi'n credu bod ni'n cael hi'n anoddach ond ti'n gorfod rhoi credit i'r plant am fod yn resilient ac yn ddeallus. A ti'n gorfod trystio byddan nhw'n iawn.
"A maen nhw'n mynd i feio ti am rhywbeth. Mae pob plentyn yn beio eu rhieni am rhywbeth."

Comedi
Mae Esyllt yn cydnabod fod comedïwyr yn gweld y doniol ymhob sefyllfa a fod gwarchod preifatrwydd y plant tra'n siarad ar bodlediad am fagu nhw wedi bod yn flaenoriaeth iddi a'i phartner ar y pod: "Pan mae pethau mawr yn digwydd a ti'n trio navigateio dy ffordd trwyddo fe, ar y dechrau ti ddim yn gweld e'n ddoniol.
"Ond pan ti yn sydyn yn gorfod rhannu dy blant 'da rhywun mae e'n beth mor fawr a'r peth pwysicaf yw bod ti'n neud yn siŵr fod y plant yn iawn.
"Ar ôl bach o amser mae na elfennau ti'n gallu gweld sy'n sili ac yn wahanol - ti'n gallu cymryd cam yn ôl a gweld pethe fel mae nhw.
"Mae rhai pethau eitha' harrowing – ar ôl un o'r penodau cyntaf o'r podcast 'nath fy chwaer gysylltu 'da fi i ddweud bod hi heb ddeall sut o'n i'n teimlo wedi i fi sôn am y ffaith mod i ffaelu mynd mewn i stafelloedd gwely y plant pan dyw nhw ddim yma.
"Mae comedians wastad yn trio gweld yr ochr ddoniol i bethau," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd28 Mai 2023

- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2019
