Fan heddlu newydd i helpu swyddogion yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Fan lles heddlu cyntaf Cymru yn cael ei groesawu

GanSion Pennar
Gohebydd BBC Cymru

Mae Heddlu'r Gogledd wedi mabwysiadu cerbyd newydd fydd yn cefnogi eu swyddogion wrth iddyn nhw ddelio â digwyddiadau.

Y llu ydy'r cyntaf yng Nghymru i gael "fan les", sy'n cynnig lloches, cegin fach a thoiled i heddweision.

Cafodd ei brynu gan gangen Ffederasiwn yr Heddlu yn y rhanbarth, sy'n ei ddisgrifio fel "cam mawr ymlaen".

'Nôl ym mis Rhagfyr, rhybuddiodd y Ffederasiwn bod ysbryd yn isel ymhlith staff yr heddlu.

Roedd 65% o'r rheiny a ymatebodd i'w harolwg yn dweud bod y pandemig wedi cael effaith negyddol arnyn nhw yn eu gwaith.

tu fewn i'r fan
Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr heddlu bod y fan yn rhywle i ddod â thyst i fewn i roi lloches, cynnig paned ac i siarad

Yn ôl Trystan Bevan, un o swyddogion y Ffederasiwn yn y gogledd, mae'r cerbyd pwrpasol yn arwydd o newid mewn agweddau.

"Mae'n gam mawr ymlaen o lle 'dan ni wedi bod o'r blaen," meddai. "Oes, mae gynnon ni faniau yn yr heddlu - ond dim un efo toiled ynddo fo.

"Mae'n dangos ein bod ni'n edrych mwy ar edrych ar ôl ein swyddogion a bod eu hiechyd a'u lles yn dŵad ymlaen."

Cyn y pandemig, byddai swyddogion mewn ardaloedd gwledig weithiau yn gorfod cnocio ar ddrysau pobl leol i ofyn am ddefnyddio'u toiled, meddai.

"Mewn damwain, lle mae rhywun wedi ei ladd ar y ffordd, am 03:00, does 'na unlle i gael rhywbeth cynnes i'n swyddogion ni, does 'na ddim toiled ar gael, does 'na ddim lloches i wneud gwaith papur. Be' mae'r cerbyd yma'n gwneud ydy gwneud hynny i gyd."

Y fan yn cael ei defnyddio mewn digwyddiad diweddar yn WrecsamFfynhonnell y llun, NWPF
Disgrifiad o’r llun,

Y fan yn cael ei defnyddio mewn digwyddiad diweddar yn Wrecsam

Dim ond ers pythefnos mae'r fan yn rhan o'r llu ond mae wedi cael defnydd yn barod, gan ddilyn swyddogion i archwiliad yn ardal Wrecsam yr wythnos ddiwethaf.

Yn ôl y Rhingyll Arwel Hughes, sy'n gweithio yng ngorsaf Bangor, bydd yn galluogi swyddogion i weithio'n well ac yn gynt.

"Dwi'n cofio achlysuron lle oeddan ni'n siarad efo pobl ar bwys y lôn mewn gwynt a glaw," meddai.

"Rŵan, os medran ni gael y fan yno, mae'n rhywle i ddod â thyst i fewn - rhywle cynnes i roi lloches i'r tyst, cynnig paned ac efallai toiled - ac yn rhywle i siarad.

"Os ydy rhywun yn oer ac yn wlyb, dydy rhywun ddim yn meddwl am ei waith gystal ag y byddai rhywun mewn amgylchiadau fel sydd yn y fan 'ma."

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol