Y trenau cyntaf ers 56 mlynedd yn stopio yn Bow Street

  • Cyhoeddwyd
Tren cyntaf gorsaf Bow StreetFfynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y trenau'n stopio yn Bow Street ar y ffordd i, ac o, Aberystwyth

GanSara Gibson
Gohebydd BBC Cymru

Mae trenau wedi dechrau defnyddio gorsaf yng ngogledd Ceredigion 56 mlynedd ar ôl i'r hen orsaf gau.

Doedd dim ffanffer wrth i'r gwasanaeth 09:12 o Fachynlleth i Aberystwyth aros yn yr orsaf am y tro cyntaf fore dydd Sul.

Cafodd yr agoriad ei gadw'n dawel am fod swyddogion yn awyddus i sicrhau na fyddai twr o selogion rheilffordd yn cael eu temtio i dorri'r cyfyngiadau.

Mae'r prosiect £8m i ailagor yr orsaf ar Linell Cambrian, sy'n cysylltu Aberystwyth a Pwllheli â Birmingham a'r Amwythig, yn ben llanw 11 mlynedd o waith.

'Annog pobl' i'w ddefnyddio

"Mae'r hwb trafnidiaeth yma wedi bod yn llafur cariad i gymaint o bobl", meddai'r cynghorydd lleol, Paul Hinge.

"Mae 'na gymaint wedi cyd-weithio er mwyn cael hwn i ddigwydd, gan gynnwys Grŵp Defnyddwyr y Rheilffordd, swyddogion Cyngor Sir Ceredigion a'r holl bartneriaethau eraill.

"Roedd hi mor bleserus gwylio'r trên cyntaf yn cyrraedd yr orsaf wedi 56 mlynedd, ond rydw i hefyd yn awyddus i annog pobl i ddefnyddio'r cyfleuster yma, oherwydd y mwyaf o ddefnydd sy'n cael ei wneud ohono y mwyaf yw'r cyfle i ni allu ehangu ar y ddarpariaeth", meddai.

Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: "Mae hon yn garreg filltir bwysig i ni a byddem wedi hoffi ei dathlu'n fwy, ond nid yw hynny'n briodol ac yn ddiogel ar hyn o bryd."

Yn ogystal â gorsaf rheilffordd mae'r safle hefyd yn gartref i orsaf fysiau newydd sydd yn gwasanaethu ardaloedd i'r gogledd o Aberystwyth.

Gorsaf Bow Street yn 1962Ffynhonnell y llun, Ben Brooksbank
Disgrifiad o’r llun,

Fe gaeodd gorsaf wreiddiol Bow Street yn 1965 fel rhan o doriadau Beeching. Mae'r safle hwnnw bellach drws nesa i'r orsaf newydd

Hwb economaidd?

Mae'r orsaf newydd wedi ei lleoli filltir o gampws arloesi newydd Prifysgol Aberystwyth ym Mhenrhyn-coch, ac mae llwybr aml-bwrpas newydd wedi cael ei chwblhau gerllaw sy'n cysylltu Bow Street gyda phentrefi cyfagos.

Gobaith y cynghorydd lleol ydy y bydd y datblygiad yma'n rhoi hwb i'r ardal.

"Er bod y gwaith yma wedi cychwyn ym mis Mawrth 2020 rydyn ni yn yr ardal yma wedi derbyn 25 cais cynllunio ar ôl blynyddoedd o beidio a chael dim un", meddai Paul Hinge.

"Os ydy hynny yn gyfan gwbl oherwydd dyfodiad yr orsaf, alla i ddim dweud, ond holl bwrpas y datblygiad yma oedd denu busnesau o safon uchel a phobl i fyw yn y rhan yma o ganolbarth Cymru, i dyfu'r economi, a chaniatáu i bobl gogledd Ceredigion i gael bywyd gwell."

Disgrifiad,

Vernon Jones, sy'n byw yn y pentref, yn ymateb i agoriad yr orsaf

"Ar ddiwedd y dydd mae hwn yn arwydd o'r ffordd rydyn ni'n gobeithio y bydd pobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yng ngogledd Ceredigion", meddai Mr Hinge.

"Gallwch chi neidio ar y trên neu fws i fynd i Aberystwyth neu Fachynlleth yn hytrach na defnyddio car.

"Ydy, mae Covid yn rhwystro pobl ar hyn o bryd," ychwanegodd, "ond fe fydd hwn o fantais enfawr pan fydd pethau'n dechrau agor eto, ac fe fydd - gobeithio - yn dod a phobl i'r ardal, nid yn unig ar gyfer hamdden, ond ar gyfer gwaith."

A welwn ni fwy o orsafoedd newydd?

Mae gweinidogion a phenaethiaid rheilffyrdd Cymru yn gobeithio mai gorsaf Bow Street yw'r gyntaf o lawer o orsafoedd ledled Cymru sy'n cael eu hystyried i wella seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae prosiect i ailagor gorsaf Sanclér yn Sir Gaerfyrddin wedi sicrhau £4.7m o gyllid Llywodraeth y DU tra bod Llywodraeth Cymru eisiau cymorth arian Llywodraeth y DU i adeiladu gorsafoedd yng Ngharno ym Mhowys, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint ac yn Nhrelái yng Nghaerdydd.

Mae gweinidogion yng Nghymru hefyd wedi cefnogi gorsaf gwerth £30m yng Nghaerdydd yn Llaneirwg.

Mae pedair gorsaf arall - tair yng Nghasnewydd ac un ym Magwyr yn Sir Fynwy - hefyd wedi cael eu hargymell gan gomisiwn a gafodd gefnogaeth Llywodraeth Cymru er mwyn ceisio lleddfu tagfeydd ar yr M4 yn dilyn dileu traffordd M4 newydd i'r de o Gasnewydd.

Hen orsaf Carno, PowysFfynhonnell y llun, Carno Station Action Group
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrch wedi bod ar droed ers degawdau i ail-agor gorsaf Carno ym Mhowys

"Mae gennym ni lawer o uchelgeisiau ar gyfer ailagor nifer o orsafoedd rheilffordd a chynyddu nifer y gwasanaethau ond mae rheilffyrdd yn cael eu rhedeg gan lywodraeth y DU," meddai Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth Cymru, Lee Waters.

"Rydyn ni'n sownd yn y seidins ychydig. Heb i lywodraeth y DU gytuno, nid oes gennym ni'r modd i'w cyflawni.

"Rydyn ni wedi galw am roi pwerau ychwanegol i Gymru ar gyfer seilwaith rheilffyrdd."

Dywedodd Llywodraeth y DU y gallai, a bod, Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn adeiladu ac uwchraddio gorsafoedd, yn ychwanegol at y cyllid a ddarperir yn San Steffan.

"Mae'r llywodraeth hon wedi ymrwymo £1.5bn i reilffyrdd Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf," ychwanegodd llefarydd ar ran yr Adran Drafnidiaeth.

"Mae manyleb, caffael a rheoli gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru wedi'i ddatganoli i weinidogion Cymru ac rydyn ni'n gweithio'n agos gyda nhw."

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol