'Breuddwyd go iawn' i ferch, 16, gystadlu ym mhencampwriaeth marchogaeth

Martha ar geffylFfynhonnell y llun, Charlotte Bury Photography
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Martha ei henwi'r farchogwraig orau dan-16 yn y DU a'r 15fed gorau yn y byd

GanHarri Evans
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae merch 16 oed o Sir Conwy yn dweud ei fod yn "freuddwyd go iawn" i gael ei dewis i gynrychioli Tîm Marchogaeth Prydain ym mhencampwriaethau Ewrop.

Bydd Martha Glwys Jones, o Lanrwst, yn cystadlu fel rhan o dîm o bedwar yn y categori dan-16 yn y digwyddiad yn Le Mans, Ffrainc ym mis Gorffennaf.

Cafodd ei henwi'r farchogwraig orau dan-16 yn y DU a'r 15fed gorau yn y byd yn yr un categori ym mis Mai ac mae'n gobeithio ennill mwy o dlysau dros yr haf.

Ond mae costau sylweddol ynghlwm â marchogaeth ar y lefel hon, ac i allu fforddio cymryd rhan yn y digwyddiad mae'n chwilio am noddwyr i helpu â'r baich ariannol.

Martha JonesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r perthynas hefo'r ceffyl yn un o'r pethau mwyaf," meddai Martha

Dywedodd Martha ei bod wedi bod â diddordeb mewn marchogaeth ers yn blentyn ifanc.

Roedd yn gofalu am ei cheffyl cyntaf, Jac, yn chwech oed ym musnes stablau'r teulu yng Ngharmel, Llanrwst.

Buan iawn y daeth yn aelod o Glwb Merlota Aberconwy ac yn y blynyddoedd a ddilynodd fe ddatblygodd ddiddordeb mewn dressage - camp arbenigol lle mae'r ceffyl a'r marchog yn perfformio symudiadau mewn arena.

Eleni bydd Martha yn cystadlu ar gefn Cognac sydd eisoes wedi cystadlu mewn nifer o gystadlaethau pencampwriaeth yn Ewrop ac yn enwog o fewn y byd marchogaeth.

MarthaFfynhonnell y llun, Jasmine Punter Photography

"Dwi 'di bod hefo Cognac ers dechrau 2025. Mae pawb yn nabod o ym Mhrydain, mae o di bod ar y tîm ers 2016. Aeth o i'r Iseldiroedd am bach ond 'da ni'n hapus iawn fod o'n ôl," meddai Martha.

"Mae'r perthynas hefo'r ceffyl yn un o'r pethau mwyaf. Mae o'n gorfod dangos gymaint o trust yn y reidar achos 'da ni'n gofyn gymaint gennyn nhw.

"Y peth pwysig efo dressage ydi ein bod ni'n edrych yn dda efo'n gilydd."

'Gwaith canolbwyntio ar bopeth!'

"Mae'r ffordd 'da ni'n edrych, o ran ein gwisg, y tac, glendid, y ffordd dwi'n symud, y ffordd mae'r ceffyl yn symud i gyd yn bwysig," meddai Martha.

"Ac wedyn, mae'r berthynas sydd gennym ni wrth i'r ceffyl ymateb i mi a'r meini prawf sydd raid i ni eu dilyn, yn ofnadwy o bwysig.

"Rydyn ni'n cael ein marcio hefyd am y ffordd 'da ni'n cerdded, y trotian a'r carlamu. Mae 'na nifer fawr o bethau sy'n rhaid i ni wneud er mwyn llwyddo.

"Mae 'na waith canolbwyntio ar bopeth!"

MarthaFfynhonnell y llun, Charlotte Bury Photography

Yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Conwy, mae Martha newydd orffen ei harholiadau TGAU ac mae wedi gorfod bod yn ddisgybledig hefo'i hamser wrth iddi ymarfer ar gyfer y pencampwriaethau a gofalu am Cognac hefyd.

"Dwi newydd gael TGAU fi ac mae o di cymryd tîm a hanner i gael fi drwy hyn," meddai.

"O'n i'n hyfforddi pump neu chwe gwaith yr wythnos felly roedd trio gwneud pob dim - edrych ar ôl y ceffyl, cymryd y gofal gorau ohono fo, a gwneud fy ngorau yn fy arholiadau - yn cymryd lot o waith."

"Ro'n i'n gweithio oddi ar amserlenni gwahanol ro'n i wedi'u gwneud i allu gwneud pob dim," meddai Martha.

Ychwanegodd bod sicrhau amser ar gyfer gweld ffrindiau wedi bod yn anodd ond bod cymdeithasu rhwng adolygu ac ymarfer yn bwysig i "allu cael switch off o bob dim".

"Wnaethon ni lwyddo i wneud o yn y diwedd ac mae'r darn exciting o'n blaenau ni rwan."

MarthaFfynhonnell y llun, Charlotte Bury Photography

Fel merch a gafodd ei magu ar fferm odro yn Sir Conwy, dywedodd Martha fod ei chefndir yn wahanol iawn i'r rhan fwyaf o gystadleuwyr marchogaeth.

"Ers o'n i'n ifanc, o'n i'n gwylio dressage ac roedd gwylio pobl fel Charlotte Dujardin yn ysbrydoli fi - ond o'n i wastad yn teimlo fod o'n amhosib i fi fod ar dîm Prydain," meddai.

"Dwi'n dod o gefndir fferm yng ngogledd Cymru ac mae'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n cystadlu yn dod o gefndiroedd cyfoethog - i lot ohonyn nhw mae gwneud hyn yn normal."

'Mor falch'

Mae cymryd rhan mewn cystadlaethau, y teithio, cludo ceffylau, gofal iechyd y ceffyl, dillad cystadlu, taclau ac offer yn gostus iawn.

Y disgwyl yw y bydd y gost o gyrraedd y pencampwriaethau yn oddeutu £35,000, yn ôl Martha.

"O'n i mor falch i gael fy newis - mae o wedi bod yn freuddwyd go iawn. Mae 'na dîm mawr tu ôl fi ac mae o 'di bod yn gam mawr i bawb - mae 'na gymaint o waith yn mynd i mewn iddo.

"Ond mae'r gost wedi bod yn sioc fawr i ni ac i gyrraedd Ffrainc 'da ni'n gobeithio cael nawdd i helpu," meddai.

"Fyswn ni'n ddiolchgar iawn am be bynnag 'da ni'n cael."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig