Agor cwest i farwolaethau dau gaiaciwr aeth ar goll oddi ar arfordir Pwllheli

Simon a Connor

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Simon Wilson a Connor Parfitt eu gweld am y tro olaf yn mynd i mewn i'w caiacau ar yr arfordir ger Pwllheli ar 21 Gorffennaf

  • Cyhoeddwyd

Mae cwestau wedi agor i farwolaethau dau gaiaciwr aeth ar goll oddi ar yr arfordir ger Pwllheli.

Cafodd cyrff Connor James Parfitt, 24, a Simon Anthony Wilson, 34, eu canfod dau ddiwrnod ar wahân ar ôl cael eu gweld am y tro olaf ym Mhwllheli ar 21 Gorffennaf.

Roedd Mr Wilson yn byw ac yn gweithio fel glanhawr ym mharc gwyliau Hafan y Môr ac mi gafodd ei ganfod ar yr arfordir yn Llwyngwril ger Dolgellau ar 28 Gorffennaf.

Glanhawr oedd Mr Parfitt hefyd ac roedd yn dod o Blackpool. Cafwyd hyd i'w gorff ef ar draeth yn Llanfarian ger Aberystwyth ar 26 Gorffennaf.

Clywodd y gwrandawiad yng Nghaernarfon fod y ddau wedi cael eu gweld yn mynd i mewn i'r caiacau am tua 19:00 ar 21 Gorffennaf yn Hafan y Môr.

Yna, cafon nhw eu hadrodd fel pobl coll ddeuddydd yn ddiweddarach pan na ddychwelon nhw.

Arweiniodd hyn at ymgyrch fawr yn yr awyr ac ar y môr i geisio dod o hyd iddyn nhw.

Cadarnhaodd y Crwner Cynorthwyol, Sarah Riley fod corff Mr Parfitt wedi'i ganfod ar draeth Morfa Bychan ger Aberystwyth, bum diwrnod yn ddiweddarach.

Cafodd Mr Wilson ei ddarganfod yn y dŵr yn Llangwril ddeuddydd ar ôl hynny ac fe gadarnhaodd parafeddygon ei fod wedi marw tua 19:30.

Dywedodd y Crwner fod archwiliadau post mortem wedi'u cynnal ar 6 Awst, gan gynnwys profion tocsicoleg.

Maen nhw'n dal i ddisgwyl canlyniadau'r profion a dydy achos y marwolaethau heb gael ei gadarnhau eto.

Cafodd y cwest ei ohirio tra bod ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.