Cyn-chwaraewr Cymru Kenny Jackett wedi marw yn 64 oed

Enillodd Kenny Jackett 31 cap dros Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-chwaraewr Cymru a chyn-reolwr Abertawe Kenny Jackett wedi marw yn 64 oed.
Cafodd Jackett ei eni yn Watford, ond roedd yn gymwys i gynrychioli Cymru trwy ei dad, ac aeth ymlaen i ennill 31 cap rhwng 1982 a 1988.
Bu'n cynrychioli Watford trwy gydol ei yrfa fel chwaraewr, cyn gorfod ymddeol yn 28 oed oherwydd anafiadau.
Aeth ymlaen i reoli Abertawe, Millwall, Wolverhampton Wanderers, Portsmouth a Leyton Orient.
Yn fwyaf diweddar bu'n gyfarwyddwr pêl-droed Gillingham, cyn iddo ymddiswyddo fis Tachwedd 2024 oherwydd rhesymau meddygol.

Jackett yn dathlu ennill Tlws y Gynghrair gydag Abertawe yn Stadiwm y Mileniwm yn 2006
Fe gymrodd Jackett yr awenau gan Brian Flynn fel rheolwr Abertawe yn 2004, gyda'r clwb yn y drydedd adran ar y pryd.
Sicrhaodd yr Elyrch ddyrchafiad yn ei dymor llawn cyntaf wrth y llyw, cyn colli yn rownd derfynol y gemau ail gyfle y tymor canlynol.
Ond fe lwyddodd Abertawe i ennill Tlws y Gynghrair y tymor hwnnw, gyda buddugoliaeth dros Gaerliwelydd yn Stadiwm y Mileniwm.
Dywedodd y clwb y bydd Jackett yn "cael ei golli'n fawr gan bawb oedd yn ei adnabod, ond mae ein clwb a'r gamp gyfan mewn lle gwell o'i herwydd".
"Bydd wastad ganddo le arbennig yng nghalonnau cefnogwyr Abertawe, a does dim amheuaeth am ei le yn hanes ein clwb."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.