Rhybudd coch am wres eithafol i rannau o Gymru am y tro cyntaf

Rhybudd coch ac orenFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
  • Cyhoeddwyd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi'r rhybudd coch cyntaf erioed am wres eithafol ar gyfer rhannau o dde a chanolbarth Cymru ddydd Mercher a ddydd Iau.

Dyma'r lefel uchaf o rybudd tywydd, gyda rhagolygon y gallai'r tymheredd gyrraedd rhwng 38C a 40C mewn rhai ardaloedd.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod y gwres a'r lleithder eithriadol yn debygol o gael effaith ar y boblogaeth gyfan, nid dim ond y rhai mwyaf bregus.

Mae'r rhybudd coch mewn grym rhwng 09:00 ddydd Mercher a 21:00 nos Iau, ac yn disodli'r rhybudd oren a gyhoeddwyd ddydd Sul.

Mae'r rhybudd coch yn berthnasol i ardaloedd Caerdydd, Casnewydd, Abertawe, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gâr, Powys, Sir Fynwy, Caerffili, Torfaen, Blaenau Gwent a Merthyr Tudful.

Dywedodd meteorolegydd BBC Cymru, Sabrina Lee, mai dyma'r rhybudd coch cyntaf erioed am wres eithafol i Gymru ers cyflwyno'r system rhybuddion yn 2021.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, gallai'r tymheredd gyrraedd rhwng 38C a 40C mewn rhai rhannau o'r ardal dan sylw, gyda lefelau uchel o leithder yn gwneud iddi deimlo'n boethach fyth.

Mae rhagolygon yn awgrymu y gallai Cymru dorri ei record tymheredd uchaf ar gyfer mis Mehefin, sef 33.7C a gofnodwyd ym Machynlleth yn 2000.

Mae posibilrwydd hefyd y bydd y tymheredd yn herio record uchaf erioed Cymru o 37.1C, a gofnodwyd yn Sir y Fflint yn 2022.

Llywodraeth Cymru yn 'monitro'

Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod y gwres yn debygol o gael effaith sylweddol ar fywyd bob dydd, gyda risg o oedi ar ffyrdd a rheilffyrdd, problemau i seilwaith sy'n sensitif i wres a mwy o bwysau ar wasanaethau brys.

Mae nosweithiau trofannol hefyd yn debygol mewn rhai ardaloedd, gyda'r tymheredd ddim yn mynd yn is na 20C dros nos, gan leihau'r cyfle i bobl adfer o'r gwres.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu "grŵp i fonitro ac ymateb i effeithiau'r gwres eithafol".

Rasio Ceffylau wedi ei ganslo

Mae cyfarfod rasys ceffylau yn Ffos-las yn Sir Gaerfyrddin wedi cael ei ganslo ddydd Mercher oherwydd y gwres.

Dywedodd y trefnwyr ar gyfryngau cymdeithasol:

"Er nad oes rhybudd coch mewn grym yma, mae'r penderfyniad wedi ei wneud er lles y ceffylau, gan ystyried yr amodau a'r angen i deithio i'r cwrs rasio."

Bydd casgliadau sbwriel ac ailgylchu yng Nghaerdydd yn dechrau yn gynharach yn y dydd, a chasgliadau gwastraff gardd yn cael eu hatal yr wythnos yma.

Dywedodd Cyngor Caerdydd y bydd casgliadau yn dechrau am 5yb rhwng dydd Mawrth a dydd Gwener, er mwyn cadw eu gweithwyr yn ddiogel yn ystod y tywydd poeth.

Dyn yn yfed dŵr yn yr haul
Disgrifiad o’r llun,

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cyfres o gynghorion i bobl ar sut i gadw'n ddiogel yn ystod y cyfnod o wres eithafol

Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yng Nghymru wedi cyhoeddi 'galwad frys' ar i bobl drwy Gymru edrych ar ôl ei gilydd wrth i'r wlad wynebu cyfnod o wres eithafol.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru, dolen allanol y gall salwch sy'n gysylltiedig â gwres effeithio ar unrhyw un, ond bod y peryglon yn fwy i bobl hŷn, babanod a phlant ifanc

Maen nhw wedi cyhoeddi cyfres o gynghorion ar gyfer aros yn ddiogel yn y gwres:

  • Aros mewn mannau cysgodol

  • Yfed digon o ddŵr drwy'r dydd

  • Cadw adeiladau yn oerach drwy gau llenni a ffenestri yn ystod y dydd, a'u hagor eto fin nos.

  • Defnyddio eli haul gyda SPF 30 neu uwch gydag amddiffyniad UVA sydd yn o leiaf 4 seren

Maen nhw hefyd yn cynghori i beidio gorchuddio pramiau a chadeiriau babanod a phlant gyda blancedi, gan y gall hynny gaethiwo'r gwres.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y dylid cynllunio'r diwrnod er mwyn osgoi'r oriau poethaf, gan fynd â'r ci am dro neu fynd i wneud ymarfer corff yn gynnar yn y bore, neu'n hwyr fin nos.

"Mae angen i ni addasu y ffordd rydyn ni'n byw yn ystod cyfnodau o wres eithafol i sicrhau bod pawb yn cadw'n iach," meddai yr Athro Sarah Jones o Iechyd Cyhoeddus Cymru:

"Gallai cymryd ychydig funudau i gadw golwg ar deulu, ffrindiau neu gymdogion arbed bywydau."

Sacha a Tyrone Williams, a Jane Devine ar bier Penarth
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Sacha Williams oedd ym Mhenarth gyda'i gŵr Tyrone a'u ffrind Jane mae nhw'n bod yn synhwyrol tra'n mwynhau'r tywydd cynnes

Ar y promenâd ym Mhenarth ddydd Llun roedd pobl yn mwynhau'r haul, ond roedd y rhan fwyaf yn cytuno bod y rhybuddion yn ddefnyddiol er mwyn helpu pobl i baratoi ar gyfer y gwres llethol.

"Os ydych chi'n gweithio gyda phobl fregus, mae'n rhoi cyfle i chi baratoi," meddai Sacha Williams oedd yn ymweld â Phenarth o'r Coed Duon.

"Ond i ni, mae'n fater o fod yn gall a'i fwynhau - gan ein bod ni'n siŵr o gael llawer o law cyn bo hir," meddai gan chwerthin, gan ychwanegu bod ganddi byllau padlo yn barod ar gyfer ei chŵn.

Wrth fwynhau hufen iâ yn ystod ei awr ginio dywedodd Nate Thomas ei fod yn mwynhau'r haul.

"Dydyn ni ddim yn cael llawer o haf, felly pan mae'r gwres yn dod, dwi'n ei fwynhau," meddai.

Eloise Morris a Lana Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eloise Morris a Lana Morgan yn rhagweld y bydd y caffi maen nhw'n gweithio ynddo ym Mhenarth yn brysur iawn erbyn canol yr wythnos

Yn y Pier Cafe, er eu bod yn gwerthu hufen iâ, mae'r ffriwyr poeth hefyd ymlaen ar gyfer y sglodion.

"Mae'n gallu mynd yn eitha poeth os ydych chi'n coginio ger y ffriwyr, felly mae ganddon ni ddwy ffan," meddai Eloise Morris sy'n gweithio yno.

Roedd hi a'i chydweithiwr Lana Morgan yn credu y byddai'n mynd yn brysur iawn erbyn dydd Mercher a dydd Iau, gyda chiwiau rownd y gornel erbyn min nos.

"Mae'n dda i'r busnes ac rydyn ni'n gweithio'n hirach ac yn cael mwy o dâl, sy'n neis," meddai Eloise.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig