Tafarn Gymraeg boblogaidd ym Mangor yn cau ei drysau dros dro

Tafarn y GlobFfynhonnell y llun, Google
  • Cyhoeddwyd

Mae Tafarn y Glôb, un o dafarndai Cymraeg mwyaf adnabyddus Bangor, wedi cau ei drysau dros dro oherwydd yr hyn a ddisgrifiwyd fel "amgylchiadau anodd dros ben".

Dywedodd y perchnogion eu bod yn gobeithio mai mesur dros dro fydd y cau ac y bydd modd ailagor y dafarn yn y dyfodol.

Nid oes rhagor o fanylion wedi'u cyhoeddi hyd yma ynghylch natur yr amgylchiadau na pha mor hir y bydd y Glôb ar gau.

Mae'r cyhoeddiad wedi arwain at negeseuon niferus o gefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol gan gwsmeriaid sy'n gobeithio gweld y dafarn yn ailagor cyn bo hir.

Mewn neges a gafodd ei osod y tu allan i'r dafarn ac a rannwyd ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y perchnogion: "Helo bawb. Oherwydd amgylchiadau anodd dros ben, mae'n rhaid i'r Glôb gau am gyfnod."

Ychwanegwyd: "Gobeithio mai dros dro y bydd hyn - mwy o fanylion i ddilyn, methu chi'n barod, môr o gariad."

Mae'r Glôb yn dafarn draddodiadol boblogaidd gyda phobl leol a myfyrwyr, ac mae wedi bod yn fan cyfarfod amlwg i gymuned Gymraeg Bangor ers blynyddoedd.

Dywedodd y dafarn y byddai rhagor o wybodaeth yn cael ei rhannu maes o law.