Cyhuddo dyn 37 oed ar ôl ymosodiad difrifol yng Ngheredigion

Stryd BethelFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae dyn 37 oed wedi'i arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol yn dilyn digwyddiad yng Ngheredigion dros y penwythnos.

Mae dyn 20 oed wedi dioddef anafiadau difrifol mewn ymosodiad ar Stryd Bethel yng Ngheinewydd am tua 00:51 ar ddydd Sadwrn, 4 Gorffennaf.

Mae'r dyn yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.

Cafodd y dyn 37 oed ei gyhuddo ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad a bod ag arf ymosodol yn ei feddiant mewn lle cyhoeddus.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos mewn llys ddydd Llun.

Mae dyn 59 oed a gafodd ei arestio hefyd ar amheuaeth o ymosod wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau barhau.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu sydd â gwybodaeth a allai helpu'r ymchwiliad, i gysylltu â nhw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol