Gall AI gael effaith 'enfawr' ar fyd chwaraeon, yn ôl arbenigwyr

Tomos Owen
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tomos Owen yn un o sylfaenwyr ap Pelly sy'n ceisio crynhoi data clybiau pêl-droed

GanLiam Evans
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mi allai'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial (AI) ym myd chwaraeon gael effaith "enfawr" a chadarnhaol wrth geisio gwella perfformiad athletwyr, hyfforddwyr a thorri ôl troed carbon y sector yng Nghymru, medd arbenigwyr.

Ar draws y wlad mae AI yn cael ei gyflwyno gan nifer o glybiau ac athletwyr er mwyn crynhoi data ac awgrymu syniadau o ran sut i wella perfformiad.

Yn ôl un sydd wedi sefydlu ap sy'n crynhoi data clybiau pêl-droed, mae AI yn cynnig nifer o gyfleoedd i'r byd chwaraeon ond mae'n rhaid bod yn wyliadwrus hefyd wrth ei roi ar waith.

Y gobaith, yn ôl rhai sy'n gweithio ar brosiectau tebyg yn M-SParc, Ynys Môn, yw y bydd AI yn helpu rheolwyr ac athletwyr i wneud penderfyniadau'n haws am ddyfodol eu meysydd.

Mi gafodd ap Pelly ei sefydlu yn 2023 gyda'r nod o grynhoi data clybiau pêl-droed er mwyn galluogi i reolwyr a pherchnogion wneud penderfyniadau doethach am y dyfodol.

Un o'r sylfaenwyr ydi Tomos Owen, 26 o Fenllech, Ynys Môn, sy'n dweud bod y cwmni rŵan yn bwriadu gwneud defnydd o AI ar draws yr ap i ehangu gallu a chapasiti.

"'Dan ni'n buildio platfform i glybiau proffesiynol, hyd yn oed rŵan mae clybiau mwya'r byd... mae ganddyn nhw gymaint o ddata a gwybodaeth ac mae'n byw ar tua 10-12 platfform," meddai.

"Mae'n wastio lot o amser a lot o bres ac yn colli'r wybodaeth - a gyda hynny, lot o bres. Felly 'dan ni'n buildio platfform lle mae popeth mewn un lle."

'Cyfle i greu mwy o swyddi yng Nghymru'

Mae gan y cwmni gytundeb erbyn hyn gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

Mae'r dechnoleg newydd yn gallu crynhoi gwybodaeth am gryfderau a gwendidau chwaraewyr, eu cytundebau, a'u hyfforddiant ac yna awgrymu strategaethau i unigolion sy'n gwneud penderfyniadau am y dyfodol.

"Dwi'n hyderus [mewn AI]", meddai Tomos Owen.

"Ond 'dwi hefyd yn deall ac yn hollol ymwybodol o'r pethau mae pobl yn dweud sydd ddim mor dda - fel mae'n defnyddio lot o egni.

"Ond i ni fel Pelly, mae'n siawns rili da i ni allu helpu'r bobl sy'n defnyddio [yr ap] a hefyd 'neud mwy o jobs i bobl Cymraeg, busnesau Cymraeg a 'dan ni eisiau mynd â Pelly o Ynys Môn i weddill y byd".

Debbie Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Debbie Jones wedi bod yn arwain cynllun sy'n edrych ar ffyrdd o helpu clybiau chwaraeon dorri allyriadau

Mae deallusrwydd artiffisial eisoes yn cael ei ddefnyddio ar draws y sector i adnabod athletwyr y dyfodol, i greu cynlluniau hyfforddi ac ennyn cefnogaeth cefnogwyr.

Ond yn M-SParc mae AI hefyd yn cael ei ddefnyddio i adnabod a thorri ôl troed carbon clybiau.

Mae Egni.AI yn feddalwedd sydd wedi ei datblygu yn M-SParc i adnabod sut all clybiau a chymdeithasau chwaraeon dorri allyriadau a hefyd arbed pres.

'Arbed amser' wrth ddadansoddi data

Un sydd wedi bod yn gweithio i ddatblygu'r cynllun ydy Dr Debbie Jones, Rheolwr Arloesedd Carbon Isel M-SParc.

"Y peth pwysig ydy bod o'n gallu casglu, hel a gweithio allan pethau efo data 'dan ni just ddim efo'r amser i'w wneud," meddai.

"Felly mae 'na lot o ddata allan yna a be' mae AI yn helpu ni 'neud ydy gweithio trwyddo fo a ffeindio'r wybodaeth 'dan ni angen i helpu ni wneud penderfyniadau.

"Mi allai hynny gynnwys creu polisi ailgylchu neu newidiadau trefniadau teithio o bosib."

Mae'n dweud unwaith mae'r AI yn cynnig syniadau ac atebion bod rhaid asesu hynny cyn gwneud penderfyniadau.

Wrth i'r gwaith o ddatblygu'r feddalwedd barhau, mae arbenigwyr yn awgrymu y gallai Cymru chwarae rhan ganolog yn y broses honno.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig