Dynes yn ddieuog o berchen ar gi XL Bully a laddodd tad ei chymar

Fe blediodd Chanel Fong yn ddieuog i'r ddau gyhuddiad yn ei herbyn mewn cysylltiad â'r ymosodiad ci yn ei chartref ym mis Mai 2022
- Cyhoeddwyd
Mae dynes 33 oed o Wrecsam wedi ei chael yn ddieuog o berchen ar gi XL Bully a frathodd tad ei chymar gan achosi iddo waedu i farwolaeth.
Roedd Chanel Fong, 33, yn gwadu mai hi oedd piau'r ci o'r enw Cookie a ymosododd ar Keven Jones, oedd yn 62 oed ac o Gaer, ym mis Mai 2022.
Fe blediodd yn ddieuog hefyd i gyhuddiad mai hi oedd yn gyfrifol am y ci adeg yr ymosodiad tra roedd Mr Jones yn aros gyda'i fab, Joshua, a Ms Fong yn eu cartref yn Wrecsam.
Fe gymerodd y rheithgor yn Llys y Goron Caernarfon dair awr cyn dyfarnu'n unfrydol ei bod yn ddieuog o'r ddau gyhuddiad.
Fe griodd Ms Fong wrth glywed y dyfarniadau gan gofleidio perthnasau a ffrindiau ar ôl gadael y doc.

Bu farw Keven Jones o ganlyniad colled gwaed sylweddol wedi i'r ci frathu ei goes
Clywodd y llys fod Keven Jones mewn iechyd gwael cyn yr ymosodiad ac wedi bod yn cymryd methadon a moddion teneuo'r gwaed.
Dywedodd Ms Fong mai Joshua Jones, nad oedd yn y tŷ adeg yr ymosodiad, oedd biau'r ci - roedd yr erlyniad yn honni bod y ci yn eiddo i'r ddau ohonyn nhw.
Clywodd yr achos fod yna gŵn eraill ar yr aelwyd, a bod Keven Jones wedi mynd i'r ardd, tua 11:30, i ddod â dau ohonyn nhw, gan gynnwys Cookie, i'r tŷ.
Clywodd Ms Fong Mr Jones yn gweiddi ar Cookie "dos oddi arna'i", a'i bod hithau wedi galw ar y ci hefyd cyn i Mr Jones ddod ati mewn cyflwr "sigledig".
Pwyntiodd at ei goes, oedd yn gwaedu'n ddrwg, gan ddweud bod y ci "wedi 'nghael i, yn fanna".

Cafodd y ci, Cookie, ei ddifa ar ôl yr ymosodiad, a ddigwyddodd cyn i'r brîd XL Bully ddod dan waharddiad yn y DU
Galwodd Ms Fong y gwasanaethau brys a cheisio rhoi cymorth cyntaf iddo, ond bu farw Mr Jones.
Cafodd y ci ei ddifa maes o law.
Yn ei thystiolaeth i'w llys, dywedodd Ms Fong mai ei chymar oedd wedi gwneud yr holl drefniadau o ran bridio a chofrestru cŵn.
Dywedodd ei bod wedi dod ymlaen "yn dda iawn" gyda Keven Jones, a fu'n berchen ar sawl ci dros y blynyddoedd gan gynnwys ci brîd Bully adeg ei farwolaeth.
Ond fe gyfaddefodd yn ystod yr achos ei bod wedi "tanystyried" y risg bosib y gallai Cookie achosi niwed.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2024

- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2022

- Cyhoeddwyd24 Mai 2022

- Cyhoeddwyd23 Mai 2022
