Sul y Tadau: Y tad a'i ddau fab o Fangor sy'n caru snwcer

Mark, Jaiden a Rio yng Nghlwb Snwcer Llanfairpwll
- Cyhoeddwyd
Atgof cynharaf Rio Chung o Fangor, sy'n 13 mlwydd oed, ydi cael bwrdd snwcer dwy droedfedd pan oedd yn ddyflwydd a bod wrth ei fodd.
A phan oedd Rio'n faban fe sylweddolodd ei dad, Mark, sy'n chwaraewr snwcer ei hun, fod ei fabi bach yn dangos diddordeb yn y gêm.
Meddai: "Pan oedd Rio tua wythnos oed oedd o'n gwylio snwcer ar y llawr a'i law o fel fod o'n gafael mewn ciw."

Rio gyda'i fwrdd snwcer dwy droedfedd pan oedd yn ifanc iawn, a llun mwy diweddar ohono
Ddiwedd Ebrill enillodd Rio Bencampwriaeth Cymru dan 16 ac ym mis Gorffennaf bydd yn cynrychioli Cymru am yr wythfed tro yn erbyn Iwerddon.
Ac mae ei frawd bach Jaiden, sy'n naw oed, hefyd yn disgleirio yn y gêm ac wedi cynrychioli ei wlad.
"Ers i Jaiden fod yn ifanc iawn, mae o wedi fy ngweld i a Rio'n chwarae ac wedi cael interest i wylio a chwarae ei hun," eglurai Mark.
A hithau'n Sul y Tadau, Cymru Fyw fu'n sgwrsio gyda'r tri am eu cariad at y gêm ac at gefnogi ei gilydd.
O fyrddau snwcer dwy droedfedd i gynrychioli Cymru
Tra'n tyfu i fyny ym Mangor, mae Mark yn cofio ei dad yntau hefyd yn mwynhau'r gêm.
"Oedd Dad yn joio gwylio snwcer pan o'n i'n ifanc a nes i ddechra' gwylio fo a gofyn am fwrdd.
"O hynna nes i ddechra' ar fwrdd bach ti'n rhoi ar y llawr i fwrdd mawr yn y garej.
"Nath Dad ddechra' mynd â fi i glwb City Leisure ym Mangor pan o'n i tua 15 oed ac ers hynna dwi wedi cario 'mlaen chwarae mewn league lleol a chystadlu mewn cystadlaethau rownd Cymru."

Rio a Jaiden yn cynrychioli Cymru yn y gamp
Mae Mark yn mynd â Rio i ymarfer i Glwb Snwcer Llanfairpwll am ddwy neu dair awr, bedair gwaith yr wythnos, tra bydd Jaiden yn mynd o leiaf unwaith yr wythnos.
Dywed fod mynd i'r clwb yn rheolaidd wedi bod yn rhan mawr o'u datblygiad.
"Dwi heb gynrychioli Cymru fel Rio a Jaiden. Dwi wedi trio ond dwi erioed wedi cael y cynnig i chwarae i Gymru fel yr hogia'.
"Dechreuodd Rio gystadlu pan oedd o'n naw oed ac o fewn saith mis roedd o'n cynrychioli Cymru."

Pwy sy'n chwarae snwcer yma... Jaiden neu Batman?
"Yr un peth efo Jaiden; nath o ddechra' cystadlu tua deunaw mis yn ôl a nath o hefyd gynrychioli Cymru ar ôl saith mis.
"Mae'r gêm yn dod reit naturiol iddyn nhw, felly dwi'n cweit envious ohonyn eu bod nhw wedi cynrychioli Cymru a dwi heb, ond dwi jest mor falch eu bod nhw'n 'neud mor dda!"

Mark yn rhoi gwers i'w feibion rai blynyddoedd yn ôl
'Mae Dad yn athro da iawn'
Ac mae Rio a Jaiden hefyd yn hynod ddiolchgar i'w tad am fod yn athro snwcer iddyn nhw, ac am ei gefnogaeth bob dydd.
"Mae Dad wedi dysgu fi ers dwi'n cofio, a rhoi cyfleoedd i fi a Jaiden deithio'r wlad a mynd i ffwrdd i wledydd eraill.
"Dwi'n ddiolchgar iawn am hynna, heb sôn am fynd â fi i Llanfairpwll bedair gwaith yr wythnos. Dwi jest yn joio snwcer gymaint."
Ychwanegodd Jaiden: "Mae Dad yn athro da iawn, a dwi'n mwynhau chwarae pŵl efo'n gilydd adra hefyd."
Mae bwrdd snwcer ychydig yn rhy fawr i gartref Mark, ei wraig Persida a'r bechgyn ym Mangor felly bwrdd pŵl sydd ganddyn nhw'n y tŷ.
"'Dan ni yn chwarae pŵl efo'n gilydd lot ac mae o'n mynd yn eitha cystadleuaol erbyn y diwadd," eglurai Rio.

Rio a Jaiden yn chwarae pŵl yn eu pyjamas rai blynyddoedd yn ôl
Wrth holi pwy sydd fwyaf cystadleuol, dywedodd Mark:
"Cwestiwn anodd, 'dan ni gyd yr un peth dwi'n meddwl.
"Fi sydd wedi dechra' bod yn gystadleuol a wedyn maen nhw wedi mynd yn fwy cystadleuol na fi 'wan!
"Mae hynny'n naturiol mae'n siŵr ers iddyn nhw gynrychioli Cymru. Do'n i ddim yn chwarae mor ddifrifol pan o'n i'n tyfu i fyny."

Mam, Dad a Jaiden yn dathlu llwyddiant Rio ar ôl dod yn Bencampwr Snwcer Dan 16 yng Nghymru eleni
Snwcer yn rhoi sgiliau bywyd
Er bod eu mam, Persida, yn mwynhau gwylio Rio a Jaiden yn chwarae dyw hi ddim yn hoffi eu gweld nhw'n cystadlu'n erbyn ei gilydd gan ei fod yn creu penbleth iddi ar bwy i gefnogi.
Ond yn ôl Mark, nid sgiliau chwarae yn unig mae snwcer yn ei roi i'w feibion ond sgiliau bywyd hefyd.
"'Dan ni jest yn gobeithio bo' nhw'n chwarae yn dda, a bod pwy bynnag sy'n colli ddim yn cymryd o'n rhy galad. A maen nhw dal yn dod off yn ffrindia' mawr achos maen nhw rhan fwya' o'r amsar," meddai.

Jaiden a Rio yn ysgwyd llaw ar ôl gêm gystadleuol
"Mae snwcer yn helpu nhw i aeddfedu a rheoli teimladau.
"Mewn gêm o snwcer dydi popeth ddim yn mynd y ffordd wyt ti isio o hyd, ac mae hynny'n wir mewn bywyd hyfyd. Rhaid dysgu delio efo teimladau a dwi'n credu bod snwcer yn rhoi aeddfedrwydd iddyn nhw.
"Mae cystadlu yn helpu etiquette a manners hefyd; ti'n cyfarfod a chwarae yn erbyn pobl newydd o wahanol gefndiroedd a gwledydd o hyd.
"Dwi'n gobeithio fydd hynny'n eu helpu mewn bywyd wrth iddyn nhw fynd yn hŷn."
Gwyliwch Mark, Rio a Jaiden yn ymarfer yng Nghlwb Llanfair
 Rio ar fin cynrychioli ei wlad yn erbyn Iwerddon unwaith eto ymhen rhai wythnosau, ei uchelgais yw "chwarae snwcer yn broffesiynol, ennill pencampwriaeth y byd a rhoi gogledd Cymru ar y map".
Neges Mark i'w feibion Rio a Jaiden ar Sul y Tadau yw:
"Dwi jest isio nhw joio be' bynnag maen nhw'n hoffi, does dim pwysau o gwbl i fod yn broffesiynol. Maen nhw'n ifanc a gyda gymaint o opsiynau."
"Os ydyn nhw'n hapus, yna dwi'n hapus hefyd."

Y triawd snwcer - Jaiden, Mark a Rio Chung
Gwrandewch ar Rio yn sgwrsio ar Radio Cymru:
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2022

- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2025

- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2025
