Dau Gymro i gystadlu mewn pencampwriaeth ralïo ceir trydan arloesol

Llun yn dangos dyn ifanc efo gwallt brown, Ioan, yn gwenu i'r camera efo'r car melyn a llwyd i'w weld yn y cefndirFfynhonnell y llun, Vauxhall
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ioan yn dweud ei fod wedi cael y "dileit" o ralïo gan ei dad, sydd hefyd yn cystadlu yn y gamp

GanJeia Puri-Evans
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Bydd gyrrwr rali ifanc o Landysul a'i gyd-yrrwr o Flaenau Ffestiniog yn cystadlu ym mhencampwriaeth rali Ewropeaidd un-gwneuthuriwr (one-make) trydan cynta'r byd ym mis Mai.

Mae'r gyrrwr Ioan Lloyd, 23, wedi arwyddo cytundeb gyda Vauxhall, wrth iddyn nhw ddychwelyd i fyd chwaraeon moduro am y tro cyntaf ers 2009 ar gyfer pencampwriaeth ADAC GSE.

"Mae fe mor brin dyddie' 'ma bod manufacturer yn dod tu ôl i yrrwr ifanc, yn enwedig ym Mhrydain. Fi dal ffaelu credu fe," meddai Ioan.

Dywedodd rheolwr-gyfarwyddwr Vauxhall, Steve Catlin, bod Ioan yn "un o'r gyrwyr ifanc mwyaf cyffrous".

Llun yn dangos dyn ifanc wedi plygu lawr wrth ymyl car llwyd a melynFfynhonnell y llun, Vauxhall
Disgrifiad o’r llun,

"S'dim un teimlad yn dod yn agos i ddreifio car rali," meddai Ioan

Er bod Ioan wedi bod yn ralïo ers bron i ddegawd, doedd o erioed wedi gyrru car trydan tan iddo ddechrau hyfforddi ar gyfer y bencampwriaeth yma.

Wrth drafod y cytundeb, dywedodd: "Os fyse chi wedi dweud wrth Ioan oedd yn 14 oed - pan we'n i'n dechrau ralïo - bydde fe byth wedi credu chi.

"Sai'n credu hyd yn oed lan i flwyddyn yn ôl."

Y llynedd fe enillodd Ioan a'i gyd-yrrwr Siôn Williams deitl Cwpan Rali Stellantis.

"Dyna beth rhoio ni ar y map," meddai Ioan.

Wedi hynny fe ddaethon nhw'n ail ym mhencampwriaeth ralïo ieuenctid Prydain eleni.

Mae Vauxhall yn credu mai Ioan ydy'r Cymro cyntaf i yrru i'r gwneuthurwr ers Dai Llewellin o Hwlffordd yn 1995.

Llun yn dangos car llwyd a melyn ar drac rasio.Ffynhonnell y llun, Vauxhall
Disgrifiad o’r llun,

Bydd pawb yng nghystadleuaeth yr ADAC GSE yn gyrru'r Mokka GSE Rally

Mae Ioan wedi bod ym Madrid yn ddiweddar i lansio'r Mokka GSE Rally - y car newydd y bydd ef a'i wrthwynebwyr yn cystadlu ynddyn nhw.

Roedd Ioan wedi synnu gyda pherfformiad y car, gan ddweud ei fod yn ymateb yn sydyn ac yn bwerus.

"Sai 'di dreifio dim un car trydanol o gwbl cyn wythnos diwethaf," meddai wrth Cymru Fyw.

"Ma' fe'n wahanol a ma'n mynd i gymryd bach o ddysgu ac ymarfer, ond fi'n credu bod e'n step ymlaen.

"Fi'n meddwl ma' lot o bobl yn mynd i fod yn shocked gyda pa mor dda yw e.

"S'dim dowt ma' fe'n rhywbeth sy'n mynd i fod yn part o fy ngyrfa i yn mynd ymlaen, so ma'n good thing bo' fi'n dechrau'n gynnar nawr."

Dywedodd Ioan iddo gael y "dileit" o ralïo gan ei dad, sydd hefyd yn cystadlu yn y gamp, a'i fod yn "lwcus iawn" o'i deulu.

"Ma' pob un yn supportive iawn o be' fi'n 'neud."

Wrth drafod ei gariad at geir, dywedodd Ioan fod ralïo yn "rhoi teimlad sbesial chi methu cael gyda unrhyw beth arall.

"'So chi'n meddwl am ddim byd arall, ma' just full focus ar ddreifio y gore' ti'n gallu.

"S'dim un teimlad yn dod yn agos i dreifo car rali."

Wrth baratoi ar y bencampwriaeth, mae Ioan wedi bod i'r Almaen i ddatblygu'r car ac arbrofi "i weld beth sy'n gweithio orau".

Bydd saith rownd y bencampwriaeth ADAC GSE yn cael eu rhannu ar draws chwe gwlad wahanol yn Ewrop, gan gychwyn yn Eindhoven, Yr Iseldiroedd ym mis Mai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig