'Cytunodd fy merch, 18, yn syth i roi ei holl organau cyn marw'

Menna Owen yn gwenu tua'r camera - merch yn ei harddegau gyda gwallt brown  wedi ei dorri mewn steil lle mae'r gwallt yn fyrrach un ochr y pen na'r llall Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Menna Owen, 18, y llynedd yn yr ysbyty ble mae ei mam yn nyrs

  • Cyhoeddwyd

Mae rhieni wedi disgrifio'u balchder ynghylch "gwaddol" eu merch a gytunodd i'w holl organau gael eu rhoi cyn ei marwolaeth yn 18 oed y llynedd.

Fe rannodd Beth a Malcolm Owen o Bontypridd hanes eu merch Menna wrth i'r gwasanaeth iechyd fynegi pryder bod llai o deuluoedd yn fodlon caniatáu i organau anwyliaid gael eu defnyddio - gostyngiad o bron 20% dros y pum mlynedd diwethaf ar draws y DU.

Mae dau glaf yn eu 20au bellach "yn gwneud yn eithriadol o dda" yn dilyn trawsblaniadau calon ac ysgyfaint yn sgil penderfyniad Menna.

Mae'r corff sy'n gyfrifol am y cynllun rhoi organau ar draws y DU yn gobeithio perswadio miliwn o bobl i gofnodi penderfyniad ar Gofrestr Rhoi Organau'r GIG cyn diwedd 2026.

Yn ôl NHSBT mae teuluoedd yn caniatáu defnydd organau anwyliaid mewn 90% o achosion ble mae'r unigolyn eisoes wedi cofnodi eu dymuniad - ffigwr sy'n gostwng i lai na 50% os nad oes cofnod.

Yng Nghymru, mae 1.4m o bobl wedi cofnodi eu dymuniad ar y gofrestr.

Bu farw Menna, o Don-teg, fis Mawrth 2025 yn dilyn ataliad ar y galon yn sgil trawiad epileptig.

Roedd yn byw gydag epilepsi, yn llwyddo i'w reoli ac ond wedi cael tri thrawiad.

On roedd hi'n anarferol o flinedig ar ôl mynd adref o'i gwaith cyn i'w mam ei chanfod yng nghanol ataliad yn yr ystafell ymolchi ddiwrnod ei thrawiad olaf.

Cafodd ei chludo mewn ambiwlans i'r ysbyty lle mae ei mam yn gweithio fel nyrs niwroleg.

Daeth i'r amlwg bod y trawiad wedi achosi niwed catastroffig i'w hymennydd, a bod Menna yn annhebygol o oroesi.

'Byswn i'n ddiolchgar pe taswn i angen trawsblaniad'

Dywedodd Beth Owen wrth BBC Cymru bod sgwrs wedi codi ynghylch rhoi organau wrth i Menna baratoi i fynd i'r brifysgol.

"Dywedodd Menna yn syth, ie, byddai hi'n cynnig unrhyw beth," meddai.

"Pan ddywedais i 'nid dy cornbilennau (corneas) - they are the windows to your soul'... dywedodd 'Fydda i mo'u hangen! Geith nhw beth bynnag maen nhw mo'yn. Byswn i'n ddiolchgar pe taswn i angen trawsblaniad.' A dyna fe.

"Go brin wnaethon ni feddwl mai o fewn cwta wythnosau y byddwn ni'n gwneud penderfyniad yn yr uned gofal critigol."

Malcolm a Beth Owen ar soffa yn cael eu holi ar gamera am eu merch Menna
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Malcolm a Beth Owen bod gwybod yn union beth oedd dymuniad Menna wedi gwneud gwahaniaeth pan ddaeth yr amser i wneud penderfyniad eithriadol o anodd

Dywed y ddau eu bod yn cael "cysur mawr" o wybod bod rhodd Menna wedi achub dau fywyd, ac wedi cael llythyrau o ddiolch yn y ddau achos.

"Gawson ni lythyr hyfryd gan fam y ferch a gafodd ysgyfaint Menna... yn dweud pa mor dda mae hi'n gwneud," dywedodd Malcolm.

"Roedd yn cydnabod ein galar - bod ein galar ni [wedi arwain at] orfoledd iddyn nhw ac y bydden nhw'n gwneud eu gorau i anrhydeddu Menna a meddwl amdani bob diwrnod," meddai Beth.

"Yna yn fwy diweddar glywson ni gan y dyn ifanc a gafodd calon Menna, unwaith eto yn cydnabod ein galar ac yn dweud y bydd yn anrhydeddu Menna bob diwrnod ac mae e'n gwneud yn arbennig o dda, felly rydym yn falch o hynny."

Ychwanegodd Malcolm: "Mae pob dim yn benderfyniad anodd ac fe wnaeth wahaniaeth i ni.

"Pe tasen ni heb gael y sgwrs gyda Menna, fe fyddai wedi bod yn llawer anoddach nag oedd i gytuno i'r rhodd - y sgwrs honno oedd y gwahaniaeth.

"Mae'r hyn a ddigwyddodd yn dorcalonnus - ni allai feddwl am ddim byd gwaeth. Ond o ran rhoi organau, roedden ni'n gwybod yn union beth oedd dymuniad Menna.

"Cawsom drafodaeth yn ei gylch ac mae angen i bobl gael y sgwrs yna."

Ben HUmeFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwymp mewn faint o deuluoedd sy'n fodlon i organau anwyliaid gael eu defnyddio yn "gymhleth", meddai Ben Hume

Pwysleisiodd Ben Hume, is-reolwr y gwasanaeth organau a thrawsblaniadau yn y DU, pa mor bwysig yw trafod dymuniadau gydag aelodau eich teulu.

"Mae'r system yn dibynnu ar bobl yn optio mewn ar y foment achos mae gan y teulu y dweud olaf, felly mae'n bwysig bod pobl yn cofrestru eu dymuniadau ar yr organ donor register, ac yn sgwrsio am hynny gyda'u teuluoedd nhw hefyd."

Mae'r rhesymau dros y cwymp mewn faint o deuluoedd sy'n fodlon caniatáu i organau anwyliaid gael eu defnyddio yn "gymhleth" meddai Mr Hume, a dydy'r gwasanaeth "ddim yn hollol sicr" am y sefyllfa.

Ond dywedodd bod cofrestru yn hanfodol, oherwydd "pan mae pobl yn gwybod yn union be' rydych chi eisiau, maen nhw'n teimlo'n well i gefnogi'r penderfyniad hynny".

"Pan da chi yn neud yn siŵr bod eich dymuniadau yn glir, mae pobl yn teimlo'n llawer gwell i gefnogi hynny."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig