Cyhoeddi llywyddion anrhydeddus Eisteddfod y Garreg Las

Bydd pum llywydd anrhydeddus yn Eisteddfod Genedlaethol 2026
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prifardd Eirwyn George, a fu farw'n gynharach eleni, wedi cael ei enwi fel un o bum llywydd anrhydeddus yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Mae'r llywyddion yn cael eu dewis o'r ardal lle mae'r ŵyl yn cael ei chynnal, ac eleni mae hynny yn Llantwd, Sir Benfro.
Y rhai a fydd yn derbyn yr anrhydedd eleni ydy Margaret Daniels, Alun Ifans, Eddie Ladd, Ifan Phillips a'r diweddar Eirwyn George.
Cafodd yr unigolion eu henwebu gan bwyllgorau lleol, am eu cyfraniad at fywyd diwylliannol yr ardal a'r Gymraeg yn lleol.
Yn ôl Betsan Moses, prif weithredwr yr Eisteddfod: "Mae'n uchafbwynt blynyddol i dderbyn yr enwebiadau a'r cyfle i anrhydeddu'r bobl arbennig hyn sydd wedi rhoi o'u hamser yn ddiflino i fywyd diwylliannol eu hardal leol."

Bu farw'r Prifardd Eirwyn George ym mis Ebrill 2026
Bu farw'r Prifardd Eirwyn George ym mis Ebrill eleni, ac ar wahân i gyfnodau fel myfyriwr aeddfed yng Ngholeg Harlech ac ym Mhrifysgol Aberystwyth, bu'n byw ac yn gweithio yn Sir Benfro ar hyd ei oes.
Enillodd Goron Eisteddfodau Abertawe a'r Cylch yn 1982 a Llanelwedd yn 1983, gyda dwy gerdd wedi'u lleoli yn Sir Benfro.
Bu'n llyfrgellydd diwylliannol am flynyddoedd yn dilyn cyfnod yn addysgu, cyhoeddodd nifer o lyfrau - gan gynnwys ei farddoniaeth ei hun, ac fel rhan o'i waith ar y Pwyllgor Llên bu'n casglu deunydd ar gyfer y gyfrol 'Barddoniaeth Sir Benfro' - a fydd yn cael ei lansio yn yr Eisteddfod eleni.

Margaret Daniels ac Alun Ifans
Mae Margaret Daniels yn un o hoelion wyth y byd corawl lleol, yn gyn-arweinydd Côr Pensiynwyr Aberteifi a'r Cylch, ac fe sefydlydd Côr Merched Bro Nest yn 1992.
Mae hi'n parhau i arwain Côr Merched Bro Nest ynghyd â Chôr Meibion Blaenporth, mae hi'n arwain nifer o gymanfaoedd canu lleol, ac mae hi'n organydd i Gapel Blaenannerch hefyd.
Un o Sarn Bach, Pen Llŷn, ydy Alun Ifans yn wreiddiol, ond mae wedi ymgartrefu yn Sir Benfro ers ei ddyddiau coleg.
Bu'n brifathro cynradd Ysgol Casmael am dros 30 mlynedd, gan sefydlu oriel gelf yno sy'n dal i fodoli.
Mae hefyd yn awdur nifer o lyfrau, yn cyhoeddi cyfrolau i ddysgwyr Cymraeg, a bu'n gadeirydd ar Gymdeithas Waldo yn y gorffennol.

Bydd Eddie Ladd yn perfformio fel rhan o ddigwyddiadau i ddathlu 850 mlynedd o'r Eisteddfod eleni
Mae Eddie Ladd o ardal Aberteifi yn enedigol ac eleni mae hi'n dathlu 40 mlynedd ym myd y celfyddydau.
Bu'n gweithio gyda chwmnïau theatr arloesol fel Moving Being, Volcano a Brith Gof, gan berfformio, ysgrifennu a chyfrannu cerddoriaeth.
O 1989 datblygodd ei gwaith ei hun, gan berfformio mewn theatrau a lleoliadau anarferol ledled y byd, gan gyfuno dawns, lleferydd, cerddoriaeth a thechnoleg gan archwilio ei milltir sgwâr a'i chysylltiadau byd-eang.
Mae hi'n goreograffydd i gwmnïau fel Theatr Cymru ac Arad Goch, mae hi'n arwain prosiectau cymunedol, a bydd hefyd yn perfformio fel rhan o ddigwyddiadau i ddathlu 850 mlynedd o'r Eisteddfod eleni.
Dywedodd Ifan Phillips ei bod yn "fraint arbennig" bod yn un o lywyddion anrhydeddus y Brifwyl
Chwaraewr rygbi oedd Ifan Phillips tan i'w yrfa ddod i ben wedi damwain beic modur ddifrifol ym mis Rhagfyr 2021.
Cyn y digwyddiad hwnnw bu'n chwarae fel bachwr i'r Gweilch ac i dîm dan 20 Cymru.
Ers colli ei goes, mae Ifan wedi parhau i fod yn rhan o'r byd rygbi, wedi gweithio fel sylwebydd ac arbenigwr ar y cyfryngau yn ogystal â hyfforddi yn ei glwb lleol yng Nghrymych.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Mercher, dywedodd Ifan ei bod yn "fraint arbennig" cael bod yn llywydd, a'i fod yn gyffrous iawn.
"O'dd e'n syrpreis enfawr," meddai, gan ddiolch i bwyllgor yr Eisteddfod am yr anrhydedd.
Ychwanegodd ei fod yn "hynod o browd o'r ardal dwi o", gan esbonio y bu cyfnod "digon anodd" yn dilyn ei ddamwain.
"Mae'n dipyn o anrhydedd i fi i gynrychioli'n ardal i yn yr Eisteddfod."
Y Bandana i ailffurfio ar gyfer Eisteddfod 2026
- Cyhoeddwyd26 Mawrth
Cyhoeddi prif swyddogion Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro 2026
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2024
Super Furry Animals ar Faes y Brifwyl am y tro cyntaf ers 1996
- Cyhoeddwyd20 Ebrill
Fe fydd y pump yn cael eu hanrhydeddu yn ystod y seremoni agoriadol yn y Pafiliwn dydd Sadwrn 1 Awst am 13:45.
Bydd gweddw Eirwyn George, Maureen, yn derbyn yr anrhydedd ar ei ran, a bydd sesiwn deyrnged iddo yn y Babell Lên ddydd Mawrth 4 Awst am 16:00.
Mae'r Eisteddfod yn cael ei chynnal o 1-8 Awst eleni.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.