Hannah Parr: 'Symud i Langeitho os yn cael ceffyl neu ddolffin'

Beti George gyda Hannah Parr
Disgrifiad o’r llun,

Beti George gyda Hannah Parr

GanAngharad Rhys
Yn gohebu oBBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

O ddysgu Cymraeg i sylwebu ar S4C yn y Sioe Frenhinol yng Nghymru a rhedeg siop ddillad yn Aberaeron, mae bywyd a gyrfa Hannah Parr wedi bod yn un amrywiol iawn.

Ar ôl symud i Gymru o Birmingham yn bump oed, mi wnaeth Hannah ddarganfod angerdd am geffylau sy' wedi newid ei byd.

Bu'n trafod y bobl, y ceffylau a'r profiadau sy' wedi ei hysbrydoli ar raglen Beti a'i Phobol ar Radio Cymru .

Symud i Langeitho

Un amod oedd gan Hannah os oedd y teulu'n symud o Birmingham i Langeitho. Roedd hi'n fodlon symud os oedd ei thad yn prynu dolffin neu geffyl iddi. Cadwodd ei thad ei air, ac mi gafodd y ferch fach pump oed ferlen. Dyma ddechrau ar daith newydd i'r teulu, fel mae Hannah'n sôn: "Dw i'n credu bod Dad dal yn edrych nôl a meddwl, "Wnes i gamgymeriad mwya' fan 'na yn prynu ceffyl".

"Achos mae ceffylau dal 'da ni hyd heddi. A, ie, bydde dolffin lawer rhatach a falle lawer haws i ryw raddau hefyd.

"Ond ni wedi magu bridfa nawr yn Llangeitho ac mae ceffylau wrth wraidd y tŷ a'r cartref."

Erbyn hyn mae Hannah wedi ennill gwobrau lu gyda'i cheffylau mewn sioeau gan gynnwys y Sioe Frenhinol ac mae hi'n cystadlu mewn dosbarthiadau arddangos ceffylau a disgyblaethau marchogaeth eraill.

Yn ogystal â hynny, mae'n athrawes Gymraeg yn Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan ac yn berchen ar siop ddillad yn Aberaeron.

Cefnogaeth

Ond mae hi'n taeru na fyddai hi wedi gallu cyflawni gymaint heb gymorth ei rhieni i redeg y busnes ac i ofalu am y ceffylau.

Meddai: "Maen nhw'n llythrennol yn helpu fi ond maen nhw'n gefn i fi hefyd os yw pethau'n mynd yn anodd, yn cadw siop a dysgu a sylwebu a neud y ceffylau, sy' ddim yn hawdd.

"Os yw Dad yn gweld bod fi dan bwysau, 'neith e ddweud, 'Nai'r ceffylau heno, Hannah. Paid ti poeni am ddod 'nôl'.

"Ac mae Mam yn gweithio diwrnod neu ddau yr wythnos yn y siop i fi hefyd i gadw llygad ar popeth, i neud yn siŵr bod popeth yn rhedeg yn llyfn. Ac mae hi'n gwneud dillad i werthu yn y siop sy'n hyfryd."

Sylwebu

Mae Hannah'n sylwebu yn y Sioe Frenhinol ar S4C ac yng nghystadleuaeth Horse of the Year.

Meddai: "Mae'r Sioe Frenhinol yn teimlo'n rhan ohona i. Mae sioe ceffyl y flwyddyn yn fraint aruthrol hefyd a dw i'n joio bob eiliad o fod yna.

"Ond mae tipyn o waith paratoi i neud ar gyfer hynny. Mae'n rhaid i fi ddod i nabod y beirniaid. Mae'n rhaid i fi allu cael sgyrsiau gwahanol gyda arbenigwyr gwahanol pan mae falle lull yn y cylch cystadlu."

Hannah'n sylwebu ar S4CFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Hannah'n sylwebu ar S4C

Galar

Un o'r pethau sy' wedi ysbrydoli Hannah i fyw bywyd i'r eithaf yw colli ei ffrind gorau Sheila, sy' wedi cael effaith fawr arni, fel mae'n dweud: "Yn  anffodus wnes i golli fy ffrind gorau.

"A phan dwi'n dweud ffrind gorau, dwi ddim jest yn meddwl am rywun ti'n agos i. O'n i'n siarad 'da Sheila pedair, bump gwaith y dydd.

"O'n i'n tecstio flat out am unrhyw beth, am pethau dwp, am pethau dwys. O'n i'n helpu'n gilydd 'da ceffylau, 'da'r plant.

"Fe gwympodd hi lawr y grisiau. Ac oedd hi mewn coma am bedwar diwrnod tan y dydd Sadwrn ac yn anffodus gorfod i'r peiriant gael ei ddiffodd.

"Oedd hi fel chwaer i fi a 42 oed oedd hi yn marw. Ac roedd hi'n llawn bywyd. Roedd 'da hi busnes ei hunan. Roedd hi'n gweithio'n rili galed yn y busnes.

"Mae bywyd yn fyr. Be' fi'n meddwl gyda hynny yw, os ydy chi isie neud rhywbeth a mae e o fewn gafael, gwnewch e.

"Hi oedd y rheswm i fi fyw yn yr eiliad."

Agor siop

Ac mi wnaeth y golled arwain at Hannah'n agor siop ddillad Partridge and Parr yn Aberaeron.

Gan ei bod wedi gweithio mewn siop tra'n byw yn Awstralia, roedd ganddi ddealltwriaeth o redeg siop, meddai: "O'n i'n gwybod bod fi'n deall rhedeg siop. Wrth gwrs mae e'n wahanol pan mai chi sy'n berchen e. Ond dw i'n berson sy'n hoffi dysgu sgiliau newydd. Dwi hefyd yn gystadleuol ac yn lico bod yn dda yn popeth dw i'n neud.

"Mae'r dillad o ansawdd da ac mae pobl yn mynd i Aberaeron i gael y brands yna, yr enwau yna, a'r labelau yna."

Cystadlu yn y Sioe Frenhinol

Mae'r paratoi wedi cychwyn ar gyfer y Sioe Frenhinol eleni gyda ceffyl hela newydd Hannah, Basil, yn barod i gystadlu: "Mae fe'n geffyl a hanner ac wedi mynd â fi mewn i'r byd ceffylau yn hytrach na byd ponis. Achos maen nhw'n ddau fyd gwahanol o ran cystadlu.

"Mae e'n fisoedd o baratoi, achos dyw e ddim jest am neud yn siŵr bod nhw'n sgleinio ar y diwrnod a bod eu sanau nhw'n wyn a bod popeth yn lân. Mae bwydo ceffyl i fod yn barod i waith y tymor dangos yn dechre chwech neu saith neu wyth mis cyn 'ny.

"Ac mae faint ydych chi'n rhoi iddyn nhw yn dibynnu ar y breed, ar y math o gystadlu maen nhw'n mynd i neud ac ar y pwysau y'ch chi moyn rhoi arni nhw ac ar oedran nhw.

"Mae'n rhaid i ti gael ceffyl glân iawn sydd ar y pwysau cywir, yn ffit ac yn gallu dioddef yr holl teithio. Achos dyw'r sioeau yma ddim ar y stepen drws.

"Mae Basil yn geffyl gwych."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.