Cwpl yn gorfod talu £8,000 am fethu â rheoli sŵn yng Nghaerdydd

- Cyhoeddwyd
Bydd yn rhaid i bâr o Gaerdydd dalu cyfanswm o bron i £8,000 mewn dirwyon a chostau am fethu â rheoli sŵn o leoliad busnes maen nhw'n ei redeg.
Dywed Cyngor Caerdydd fod Keith a Caroline Munro wedi "methu â chydymffurfio dro ar ôl tro â gofynion cyfreithiol i reoli sŵn" oedd yn deillio o safle Kings Road Yard ym Mhontcanna.
Fe gymerodd y cyngor gamau yn eu herbyn "yn dilyn cwynion lluosog gan drigolion lleol" ynghylch sŵn gormodol, gan gynnwys "cerddoriaeth chwyddedig [a] sŵn cwsmeriaid yn ymgynnull yn y safle".
Plediodd y ddau berchennog yn euog i dorri hysbysiad atal sŵn mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Caerdydd.
Clywodd y llys bod y sŵn "wedi cael effaith andwyol sylweddol ar drigolion cyfagos, gan effeithio ar eu gallu i fwynhau eu cartrefi a'u gerddi ac effeithio ar ansawdd eu bywyd".
Bydd yn rhaid i'r ddau ddiffynnydd dalu cyfanswm o £3,900 yr un - dirwy o £1,000, sef £200 yr un am bum trosedd; cyfraniad o £2,500 tuag at gostau erlyn a gordal dioddefwr o £400.
'Effaith sylweddol dros gyfnod o amser'
Mae sŵn gormodol yn rhan o bortffolio'r aelod cabinet, y Cynghorydd Ed Stubbs.
Mae'r cyngor, meddai, wastad "yn ceisio gweithio'n adeiladol gyda busnesau ac unigolion i ddatrys problemau yn gynnar", a hynny "i sicrhau bod trigolion yn gallu mwynhau eu cartrefi heb aflonyddwch afresymol".
"Gall aflonyddwch sŵn gael effaith ddifrifol a pharhaol ar iechyd a lles pobl," ychwanegodd.
"Yn yr achos hwn, roedd tystiolaeth glir bod effaith sylweddol ar ansawdd bywyd trigolion dros gyfnod o amser."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mai 2024

- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2025
