Digwyddiad difrifol tân gwyllt yn 'heriol' oherwydd y gwynt
- Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Disgrifiad o’r llun, Mae'r gwynt yn ei gwneud hi'n anodd mynd i'r afael â'r tân gwyllt yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
1 o 3
- Cyhoeddwyd
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi datgan digwyddiad difrifol yn dilyn tân gwyllt mewn rhostiroedd ger Cronfa Ddŵr Llangynidr yng Nglynebwy.
Mae swyddogion wedi bod yn brwydro'r fflamau drwy'r penwythnos a dydd Sul roedd hofrennydd yn rhan o'r ymgyrch.
Ychwanegon nhw fod mwg yn dal i effeithio ar gymunedau cyfagos a dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, sydd hefyd yno, ei bod hi'n "heriol [mynd i'r afael â'r tân] oherwydd y gwynt".
Mae sawl tîm wedi bod yno drwy gydol y penwythnos meddai'r gwasanaethau ac maen nhw'n treialu sawl dull o ddelio â'r fflamau.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod contractwyr arbenigol ac asiantaethau partner hefyd yn rhan o'r gwaith, a bod offer arbenigol yn cael ei defnyddio.
Bu'n rhaid cau Ffordd Llangynidr ac mae'r heddlu'n cynghori pobl i osgoi'r ardal.
Dywed gwasanaeth tân y de bod disgwyl y bydd yn rhaid i swyddogion fod yn yr ardal am rai dyddiau.
Gallai gymryd 'canrifoedd' i fyd natur adfywio wedi tanau gwyllt 2026
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Galwadau i baratoi'n well ar gyfer y risg o danau mawr
- Cyhoeddwyd1 Awst
Mewn achos ar wahân, mae criwiau gwasanaeth y de hefyd wedi bod yn ymateb i dân gwyllt ger Cronfa Ddŵr Blaen Bran yng Nghwmbrân.
Cafodd tri pheiriant tân eu hanfon i geisio diffodd fflamau sy'n ymestyn dros oddeutu ddau hectar, ond yn ôl llefarydd does dim perygl i fywydd nac eiddo.
Roedd modd gweld mwg y tân hwnnw cyn belled i ffwrdd â Sir Caerloyw, gan arwain at sawl galwad i'r gwasanaeth tân lleol yn mynegi pryder bod tân gwyllt wedi cynnau yno.
Fe anfonodd Gwasanaeth Tân ac Achub Sir Caerloyw sawl criw ar draws y sir i ganfod tarddiad y mwg cyn dod i'r casgliad ei fod wedi cael ei chwythu i'r ardal o gyfeiriad Blaenau Gwent.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

