Teyrnged i feiciwr modur fu farw ar yr A470 yng Ngwynedd

Roedd Alan Williams yn feiciwr modur 'brwd ac angerddol', medd ei deulu, ac yn adnabyddus yn ardal Trefor ble roedd yn gweithio fel saer
- Cyhoeddwyd
Mae teulu beiciwr modur a fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A470 yng Ngwynedd wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Alan Williams, 58, o ardal Trefor, yn y fan a'r lle wedi gwrthdrawiad rhwng car a beic modur ar Fwlch y Gorddinan, rhwng Dolwyddelan a Blaenau Ffestiniog tua 13:30 brynhawn Sul 9 Awst.
Mewn datganiad dywedodd ei deulu ei fod yn "fab, brawd, ewythr a chymar serchus ac yn ffrind gorau i lawer o bobl" oedd yn "ffyddlon i'w holl deulu [ac] yn gwneud unrhyw beth i unrhyw un".
Cafodd ei ddisgrifio fel "dyn cymdeithasol, gweithgar oedd ag amser i bawb" oedd "yn adnabyddus yn yr ardal leol, ble roedd yn gweithio fel saer ac roedd wastad yn uchel ei barch ymhlith ei gwsmeriaid.
"Roedd yn mwynhau treulio amser gyda'i ffrindiau a'i deulu ac yn adnabyddus am dynnu coes pobl."
'Y gymuned leol mewn sioc'
Roedd diddordebau Mr Williams, medd datganiad y teulu, yn cynnwys heicio, caiacio a bod yn yr awyr agored ynghyd â hanes lleol, anifeiliaid a bwyd.
Roedd hefyd "yn feiciwr modur brwd ac angerddol".
Dywed y teulu bod eu "calonnau wedi torri" a bod "y gymuned leol mewn sioc wedi ei farwolaeth", ac wrth fynegi diolch am y negeseuon o gefnogaeth maen nhw'n gofyn am breifatrwydd ac "amser i alaru".
Mae Heddlu Gogledd Cymru'n parhau i apelio am wybodaeth neu luniau o'r ardal yn y cyfnod cyn y gwrthdrawiad all fod o gymorth i'w hymchwiliad.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.