Bonnie Tyler allan o goma ond yn 'anhwylus iawn' wedi llawdriniaeth

Bonnie TylerFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae'r gantores Bonnie Tyler allan o goma ond yn parhau yn anhwylus mewn uned gofal dwys, meddai llefarydd.

Cafodd y Gymraes 75 oed ei rhuthro i'r ysbyty ym Mhortiwgal fis Mai ar gyfer llawdriniaeth frys a chafodd ei rhoi mewn coma wedi hynny er mwyn iddi wella.

Er ei bod yn broses araf, mae ei chyflwr yn gwella a meddygon yn "hyderus" y bydd yn adfer, ychwanegodd y llefarydd.

Bydd taith haf Tyler yn cael ei gohirio neu ei haildrefnu, ond nid yw dyddiadau'r hydref wedi ei gohirio ar hyn o bryd.

'Mynd i gymryd amser'

Mewn datganiad ar wefan Bonnie Tyler, nodwyd nad oedd hi bellach mewn coma "ond ei bod yn parhau yn anhwylus ac mewn ysbyty gofal dwys ym Mhortiwgal".

"Mae ei meddygon yn parhau'n hyderus y bydd yn medru adfer ond mae'n mynd i gymryd amser," meddai'r datganiad.

Fe wnaeth y llefarydd ddiolch i'w chefnogwyr am eu "cariad a'u cefnogaeth" o amgylch y byd, gan ddweud bod Tyler yn ymwybodol ohono ac yn ddiolchgar am y geiriau caredig.

Fe wnaeth y datganiad hefyd nodi ymddiheuriad am ohirio taith yr haf gan ychwanegu "rydym yn gobeithio'ch gweld y flwyddyn nesaf".

Er y newid i'w pherfformiadau yn ystod yr haf, mae disgwyl iddi berfformio yn Arena Utilita, Caerdydd ar 17 Rhagfyr.

Mae ei thîm wedi gofyn am breifatrwydd, gan ddweud y bydd diweddariadau pellach pan fydd datblygiadau sylweddol i'w nodi.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.